Adolygiad Ffilm: Guardians of the Galaxy Volume 2

By -
Dim Sylwadau

Mae Peter Quill a’i gang yn ôl am ail ffilm o’r llwyddiant o 2014 a wnaeth $773,300,000 ledled y byd, ‘Guardians of the Galaxy Volume 2’. Roedd y ffilm yma yn hwylus, ond doedd e ddim cystal â’r ffilm wreiddiol. Mae hwyl i’w gael wrth i’r tîm o fôr-ladron gofod yn dychwelyd gyda rhai golygfeydd doniol a golygfeydd brwydro cyffrous.

Image result for Guardians of the Galaxy Volume 2

Mae’r ‘Guardians’ yn cael eu llogi gan estroniaid i ddiogelu eu batris gwerthfawr rhag ymosodwyr. Mae ‘Rocket’ yn dwyn y batris mae e i fod yn warchod sydd yn gamgymeriad enfawr. Mae Brenhines yr estronwyr rhyddhau eu harmada i drio dal nhw. Pryd mae’r ‘Guardians’ yn ceisio dianc, mae dirgelwch Tad Peter yn cael ei ddatgelu.

Mae’n alaeth o liw! Mae pob golygfa yn y ffilm yn cael ei chwistrellu gyda goleuadau a CGI trawiadol. Mae pob lliw ar yr enfys yn cael ei ffrwydro mewn i bob golygfa sy’n edrych yn anhygoel. Er, weithiau mae e bach yn ormod ac rydych mwyn saib o’r sioe tân gwyllt. Mae pob picsel ar y sgrin yn edrych fel seren yn disgleirio!

Mae gan ‘Guardians of the Galaxy Volume 2’ trac sain wych sy’n llawn caneuon enwog o’r 70au a’r 80au. Gallwch brynu e ac rydw i yn argymell gwrando arno ar Spotify. Beth bynnag oedd eich hoff beth am y ffilm gyntaf; y tynnu coes doniol rhwng y cymeriadau, y trac sain, neu Groot (y goeden/person), mae’r pethau yma yn yr ail ffilm, ond mae e hefyd yn teimlo’n wahanol hefyd.

Image result for Guardians of the Galaxy Volume 2

Mae Chris Pratt yn disgleirio unwaith eto ac yn dangos oddi ar ei allu actio gwych gyda rhai golygfeydd emosiynol, golygfeydd doniol a golygfeydd ymladd. Zoe Saldana fel Gamora yw un o rannau gorau’r ffilm gyda’i sylwadau difrifol. Mae cymeriad Dave Bautista yn cael datblygiad cymeriad da oherwydd mae e yn dechrau deall comedi. Mae Bradley Cooper fel ‘Rocket Racoon’, Kurt Russel a Karen Gillen yn actorion gwych arall. Mae Vin Diesel yn lleisio Groot fel babi, y cymeriad sydd yn bendant y cymeriad mwyaf annwyl yn fydysawd Marvel oherwydd ei ymddygiad blentyn, ei symudiadau dawns ac mae ei ffordd grac o ymosod.

Mae ‘Guardians of the Galaxy 2’ yn ffilm hwyl iawn gyda diweddglo epig, mae’n edrych yn anhygoel, caneuon da ac actio gwych. Nid yw’n cyrraedd safonau’r ffilm ddiwethaf, ond byddai hynny wedi bod yn swydd anodd iawn i’w gwblhau. Mae dyfodol Bydysawd sinematig Marvel yn gyffrous iawn!

Rhywbeth i ddweud?

Pob Erthygl