Ffair, losin, sioeau, stondinau a digon o ddewis o fwyd i gadw prydiau yn ddiddorol am flwyddyn gyfan. Dewch yn llu, dewch i ‘steddfod yr Urdd!
Fe welwch chi mwy o dalent na yn yr X-Factor a hyd yn oed nad ydych chi yn hoffi canu, actio neu ddawnsio, mae yna digon o bethau i’w gwneud. Yn y pentref, mae nifer o weithgareddau gan gynnwys cae pêl droed, wal dringo a gwledd o sbort a sbri.
Yn ogystal â hyn oll, cewch gyfle i ymddangos ar y teledu os mai hwnna yw eich uchelgais gan fod yna gamerâu teledu ymhobman. Gallwch deithio yno ar y trên neu fws neu gar, ond fydd ofyn i chi teithio ar fws wennol os ydych yn defnyddio’r maes parcio. Pa bynnag dywydd ddaw, haul, eira neu law, dewch draw.
Rhywbeth i ddweud?
Rhaid mewngofnodi i bostio sylwadau
Mewngofnodi Cofrestru