Seland Newydd yn Curo’r Llewod gan 30-15

By -
Dim Sylwadau

Roedd y Llewod yn profi pencampwyr y byd rhan fwyaf o’r gêm, ond roedd y Crysau Duon yn ormod i’r Llewod yn yr hugain munud olaf.

Sean O'Brien Dechreuodd y Llewod yn ardderchog gyda Jonathan Davies bron yn rhoi cais i Elliot Daley ond cafodd ei dal lan. Am y chwarter awr cyntaf, y Llewod oedd y tim gorau. Ar ôl hyn, gwnaeth Seland Newydd dominyddu meddiant ac yn creu 2 metr pob tro roedden nhw yn dal y pêl. Arweinodd hyn at gais i’r Crysau Duon pan pigodd Codie Taylor y pêl o gareiau ei ysgydiau a neidio dros y llinell. Ar ôl 35 munud, sgoriodd y Llewod un o geisiau gorau yn hanes y Llewod. Daliodd Liam Williams y pêl cyn curo 3 chwaraewr a rhedeg 50 metr. Paisiodd i Jonathan Davies ac ar ôl sawl dadlwythiad sgoriodd Sean O’Brian. Fel y hanner cyntaf, dechreuodd y Llewod yn ardderchog. Roedd sawl cyfle i’r Llewod sgorio ond doedden nhw ddim gallu croesu’r llinell wen. Dechreuais meddwl “Beth os?” Ar ôl cais Kieran Read a cicio gwych Beauden Barret, doedd cais Rhys Webb yn y munud olaf ddim yn cael effaith ar y gêm.

Roedd Seland Newydd yn chwarae y ffordd roedd rhan fwyaf o gefnogwyr y llewod yn dychryn. Mae’r Llewod wedi ennill cyfres o gemau  yn Seland Newydd unwaith. Mae dal siawns ond dydy ennill y cyfres ddim yn edrych yn debygol o gwbl. A gall y Llewod curo y Crysau Duon dwywaith yn olynol? Bydd rhaid aros i weld mewn pythefnos.

Rhywbeth i ddweud?

Pob Erthygl