Georgia yn erbyn Cymru

By -
Dim Sylwadau

Cyn y gêm yma, roedd Cymru yn sefyllfa dda ond roedd dal angen ennill y ddwy gêm nesaf. Roedd ennill yn Georgia yn sefydlu gêm derfynol ar gyfer Cwpan y Byd yng Nghaerdydd.

Dechreuodd Cymru’r gêm yn gryf gyda sawl cyfle ymosodol, ond roedd cyfleodd gyda Georgia hefyd. Mwynhaodd Cymru amser da o feddiant ac yn rhoi llawer o feddiant ac yn rhoi llawer o bwysau ar Georgia. Dechreuodd Georgia cael cyfleodd pan wnaeth gapiau dechrau ymddangos yn amddiffyn Cymru. Gorffennodd yr hanner cyntaf heb gôl.

Mae record dda gan Gymru yn ddechrau’r ail hanner yn gryf a digwyddodd hyn eto yn Georgia. Anfonodd Tom Lawrence saethiad stormus tuag at y gôl geidwad ac aeth y bêl mewn i’r gôl. Roedd hyn yn gôl bwysig iawn i Gymru achos enillodd hi’r gêm i Gymru. Trïodd Georgia i hafalu’r sgôr ond defnyddiodd Cymru ei amddiffyn ardderchog i ddal ymlaen.

Gorffennodd y gêm yn 0-1. Nos Wener oedd y tro cyntaf mae Cymru byth wedi curo Georgia! Mae’r gêm ar nos Lun yn mynd i fod yn un o’r gemau pêl droed mwyaf dwys yn Stadiwm ‘Cardiff City Stadium’. Mae Cymru yn parhau i fod yn ail, un pwynt tu ô i Serbia ac un o flaen Gweriniaeth Iwerddon.

Rhywbeth i ddweud?

Pob Erthygl