Cymru yn erbyn Awstralia

By -
Dim Sylwadau

Cafodd tîm ifanc a newydd Cymru ei guro am 13eg tro yn olynol yn erbyn Awstralia ar ddydd Sadwrn.

Collwyd 11 o’r 13  gêm dwethaf yn erbyn Awstralia o fewn 8 pwynt ac mae’n siŵr fod y chwaraewyr yn dechrau teimlo’n anlwcus iawn. Alun Wyn – Jones yw’r unig chwaraewr ar ôl a oedd yn y garfan y tro diwethaf curodd Cymru Awstralia bron a bod degawd yn nôl. Mae Cymru yn cael record wael o ddechrau’r tymor yn araf. Y tro diwethaf enillon ni gêm agoriadol ‘Gemau rhyngwladol yr Hydref’ oedd yn erbyn Romania yn 2002, y mis ces i fy ngeni!

Ar y llaw arall, roedd llawer o bethau cadarnhaol i gymryd allan o’r gêm hefyd. Mae llawer o chwaraewyr gorau Cymru wedi anafu megis Sam Warburton, Ross Moriarty, George North, Justin Tipuric a Samson Lee ond roedd hi dal yn gêm eithaf agos. Roedd llawer o chwaraewyr ifanc a newydd yn y garfan hefyd a chwaraeodd yn dda; yn enwedig os ydych chi’n ystyried taw hyn oedd eu capiau cyntaf mawr i Gymru erioed.

Er na chafodd rhan fwyaf o’r cyfleoedd eu gweithredu yn berffaith, roedd hi’n glir bod Cymru yn dechrau chwarae rygbi mwy creadigol a symud ymlaen o’r rygbi amddiffynnol sydd wedi bod yn y tuedd dros y blynyddoedd diwethaf. Yn fy marn i, chwaraeon ni yn dda yn erbyn tîm ardderchog Awstralia am gêm agoriadol a gyda chymaint o chwaraewyr wedi’u hanafu.

Leigh Halfpenny oedd y person cyntaf i sgorio a gwneud hi’n 3-0 i Gymru. Ar ôl 12 munud, sgoriodd Awstralia cais o sgarmes gref. Roedd hi’n ddechreuad eithaf siomedig i’r gêm ond cwpwl o funudau yn ddiweddarach daeth toriad gan Jonathan Davies a chafodd ei wastraffu achos aeth y bêl ymlaen. Yna, gwnaeth Gareth Davies toriad o’r tafliad a chafodd y bêl ei basio i’r chwith a sgoriodd Steffan Evans yn y cornel. Dyma oedd ail gais Steffan mewn 3 gêm i Gymru. Roedd 2 cais arall cyn diwedd yr hanner i Awstralia gan Aaron Coleman a Hooper ac un gic gosb i Gymru a’r sgôr oedd 13-22 i Awstralia.

Dominyddodd Cymru’r meddiant a thiriogaeth yn yr ail hanner ond doedden nhw ddim yn gallu dominyddu’r sgôr. Roedd rhai cyfleoedd da a chafodd eu gwastraffu ond o leiaf mae cyfleoedd yn cael eu creu nawr. Yn 60ain munud, sgoriodd Kurtley Beale cais a suddodd calonnau pawb yn y stadiwm. Roedd y cais wedi cael ei dilyn gyda “Boo” rhwystredig o’r cefnogwyr. Dyle fe ddim wedi bod yn gais achos aeth y bêl ymlaen ar ôl i Kurtley Beale cael e. Gwnaeth y moment yna newid y gêm achos roedd Cymru yn edrych fel roedden nhw yn mynd i sgorio cais a fydde wedi rhoi nhw yn y blaen. Sgoriodd Hallam Amos cais ardderchog yn y munudau olaf yn y cornel chwith i orffen y gêm. Y sgôr ar y ddiwedd oedd 21-29 i Awstralia.

Roedd y gêm yma yn ddechreuad siwrne Cymru i Gwpan y Byd Siapan, ac roedd hi yn ddechreuad cadarnhaol. Mae hi yn mynd i fod yn gyfres galed a bydd Cymru yn chwarae Georgia dydd Sadwrn nesaf.

Bydd rhaid i Gymru sgorio llawer yn y gêm yna ond bydd hi ddim yn hawdd yn erbyn gwlad sydd yn angerddol am ei rygbi ac sydd yn cnocio ar ddrws Pencampwriaeth y 6 Gwlad.

Rhywbeth i ddweud?

Pob Erthygl