Adolygiad: Crazy For You yng Nghanolfan Milleniwm Cymru

By -
Dim Sylwadau

Mae hwn yn sioe gerdd llawn hiwmor a cherddoriaeth anhygoel gyda stori ramantus byswch chi yn disgwyl o sioe gerdd.  Mae wedi ei osod yn Efrog Newydd yn ystod y 30au a’r Gorllewin Gwyllt. Mae ‘Crazy for You’ gan ‘The Watermill Theatre’ar yn ganolfan y Mileniwm Cymru.

 

Mae’r gerddoriaeth i gyd gan Gershwin, y cyfansoddwr jazz enwog o 30au America. Bonws arall yw bod y gerddoriaeth i gyd yn fyw ar y llwyfan! Mae’n sioe llawn caneuon clasurol o’r 20au a’r 30au. Mae’r stori wedi ei osod yn America yng nghanol yr oes jazz ac yn dilyn y dyn cyfoethog, rhwystredig sy’n caru sioeau gerdd, Bobby; a Polly, merch y perchnogir o’r theatr sydd yn cwympo lawr yn y Gorllewin Gwyllt.

Mae’r set yn theatr o fewn theatr. Mae’n theatr Americanaidd gaiety sydd yn dod i fyw erbyn diwedd y perfformiad. Gallwch wastad gweld y gerddoriaeth yn cael eu creu yn fyw ar ochrau’r llwyfan sydd yn eithaf anhygoel! Mae’r gwisgoedd yn adlewyrchu’r cymeriadau yn dda; Bobby gyda’i siwt posh a Polly â’i ddillad brwnt a chlytiog.

Ces i sioc i weld pa mor dalentog oedd y perfformwyr i gyd. Un munud roedden nhw yn canu, y munud nesaf yn chwarae offeryn, y munud nesaf yn dawnsio a’r munud nesaf yn gwneud comedi. Roedd y perfformwyr i gyd yn gallu chwarae sawl offeryn gwahanol. Mae’r prif gymeriadau, Bobby ac Irene, yn cael eu portreadu gan Tom Chambers (Adnabyddus amdano Strictly Come Dancing) a Caroline Flack (Yn adnabyddus yn bennaf o gyflwyno’r X-Factor a Love Island).

Er roedd y dechreuad yn eithaf araf, roedd gweddill y sioe gerdd yn ffantastig! Y rhannau gorau, yn fy marn i, yw’r gerddoriaeth fyw a’r actorion/cantorion/cerddorion/dawnswyr. Mae e yn Ganolfan Mileniwm Cymru ac mae e ar rhwng y pumed a nawfed o Fedi. Rydw i yn argymell hyn i unrhyw un sydd yn hoffi theatr draddodiadol America neu gerddoriaeth fyw.

Rhywbeth i ddweud?

Pob Erthygl