Adolygiad o ‘Y Tad’

By -
Dim Sylwadau

Mae’r addasiad Cymraeg o La Pere gan Florian Zeller yn ddrama arbennig ac roedd y perfformiad hwn ohonno gan y Theatr Genedlaethol yn un effeithiol tu hwnt sydd yn mynd i aros gyda mi am amser hir. Mae’n ddrama gyfoes a pherthnasol ac yn un mae rhaid i chi ei gweld os ydych am ddeall sut mae person sy’n dioddef o dementia yn teimlo. Enillodd Y Tad y gystadleuaeth i gyfieithu drama i’r Gymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy 2016.

Mae Y Tad yn dilyn hen ddyn sydd yn dioddef o dementia. Wrth i’r ddrama fynd yn ei blaen, mae cof y dyn yn gwaethygu ac rydym ni fel cynulleidfa yn gweld hyn trwy lygaid y dyn. Mae’r arddull yn effeithiol iawn ac yn debyg i arddull y ddrama War Horse. Mae’r stori yn symud o amgylch yr hen ddyn yn y ddrama hon fel mae’r rhyfel yn mynd ymlaen yn gefndir i siwrne’r ceffyl yn y llall. Mae’r ffaith ein bod ni’n gweld y stori o bersbectif yr hen ddyn yn creu cydymdeimlad mawr gyda’r prif gymeriad a phobl gyda dementia yn gyffredinol. Mae’r stori yn un sy’n ddryslyd tu hwnt yn bwrpasol a theimlais fy hun weithiau yn crafu fy mhen wrth i’r naratif a’r cymeriadau newid yn gyson. Mae hyn caniatau i’r gynulleidfa fyw’r profiad o fod mewn esgidiau rhywun sydd yn cael hi’n anodd cofio pethau.

Credit to Theatr Genedlaethol Cymru

Roeddwn i’n hoff iawn o’r set achos roedd e’n gartrefol iawn ac yn hynod o realistig. Lolfa arferol oedd y set ar ddechrau’r perfformiad ond wrth iddo fynd yn ei flaen diflannodd rhannau o’r set. Roedd hyn yn symboleiddio cof yr hen ddyn yn ei adael. Erbyn diwedd y sioe, ysbyty oedd y set. Nodwedd effeithiol arall o’r set oedd y goeden tu allan i’r ffenestri oedd wedi cael ei oleuo’n brydferth.

Mi wnes i fwynhau’r gerddoriaeth piano oedd yn chwarae rhwng y golygfeydd yn fawr iawn – er, roedd yr alaw yn fy atgoffa weithiau o’r gan Havana gan Camila Cabello. Roedd naws o dristwch a hiraeth yn y gerddoriaeth sy’n tanlinellu tristwch y stori tra bod yr olygfa yn newid.

Credit to Theatr Genedlaethol Cymru

Roedd Dyfan Roberts fel ‘Y Tad’ yn arbennig. Roedd e’n rhoi personoliaeth a pharch i’w gymeriad gan hybu cydymdeimlad gyda’i actio realistig o rywun sydd yn dioddef o dementia. Catrin Mara oedd yr actores oedd yn portreadu ei ferch ac mi lwyddodd i gyfleu’n effeithiol yr her sy’n wynebu merch sy’n trio ei gorau i edrych ar ôl ei thad ond sy’n ansicr o beth i’w wneud er y gorau. Chwaraeodd Mirain Fflur y nyrs sy’n edrych ar ôl cymeriad Dyfan yn dda iawn hefyd.

Un feirniadaeth sydd gen i yw bod y stori yn ailadroddllyd ar brydiau. Weithiau, teimlais bach o deja vu wrth weld golygfeydd tebyg. Rydw i’n deall bod hyn yn bwrpasol i drio dangos sut mae person a dementia yn teimlo, ond yn bersonol, doedd e ddim wastod yn gweithio.

Mae Y Tad wedi bod ar daith o gwmpas Cymru ac yn anffodus mae’r daith yma’n dod i ben. Roedd Y Tad yn brofiad gwych gwnaeth agor fy llygaid i helyntion dementia. Neges y ddrama yw dylen ni siarad gyda phobl sy’n byw gyda dementia yn aml a chytuno gyda nhw am bethau yn hytrach na’u cywiro.  Mae’n bwysig ofnadwy eu bod yn cael cwmni ar adeg sy’n gallu bod yn unig ac yn bryderus iawn iddynt.

Feature image credit to Theatr Genedlaethol Cymru

Rhywbeth i ddweud?

Pob Erthygl