Anifeiliaid Hybrid – Adolygiad Gêm

By -
Dim Sylwadau

Mae ‘Hybrid Animals’ yn gêm sydd ar gael ar ffon symudol a chyfrifiadur, fy hoff un i ni yw’r gêm ar y ffon symudol oherwydd rydw i allu chwarae’r gêm unrhyw le.

Pwrpas y gêm yw ddewis anifeiliaid fel racoon, jiráff, morgrugyn neu’r niferoedd eraill (gweld y fideo ^) a rhoi’r ddau gyda’i gilydd i greu hybrid. Trwy wneud hyn mae’r anifeiliaid yn creu hybrid fel ‘the night beetle’ neu filiynau o amrywiadau eraill ond trwy gwenud hyn chi’n creu pwerau gwahanol yn dibynnu ar ba anifeilaidd chi’n cyfuno. Mae’r amrywiaeth yn enfawr.

Mae gennych chi bwerau gwahanol fel giant, fireball a force push, dyma 3 o 17 pwerau gwahanol rwy’n hoffi defnyddio. Rydym yn hoffi’r gêm yma oherwydd mae’n hwyl i weld anifeiliaid gwahanol gael ei greu a hefyd weld yr anifeiliaid yn cyfuno ei gilydd.

Rydych hefyd yn gallu mynd rownd y wlad yn ymladd y CPU ond y bellach rydych yn mynd yr anoddach mae’r CPU yn dod. Felly bod yn barod i ymladd lefelau dros 100 os ydych chi’n cymred y llwybr anghywir yn gynnar yn y gêm.

Ond i ni mae’r gêm yn warthus yn rhan, mae yna wrthrychau sydd dim gyda defnydd e.e. moonberry a uranium shovel felly mae rhaid trio pobith i ffeindio mas beth yw’r pethau gorau i ddefnyddio. Rydym wedi darganfod glitch yn y gêm hefyd, rydym allu symud tŷ fas o eich tŷ sydd yn cael ei manteision oherwydd trwy wneud hyn gallwch chi storio fwy o drysor. Chwarae’r gêm a fyddwch yn gwybod beth ni’n sôn.

Rydyn ni’n hoff o’r gêm yma yn llawer ond nad ydyn ni’n hapus oherwydd dydyn ni dal ddim yn gallu chwarae hefo’n gilydd eto oherwydd nad yw’r opsiwn multiplayer ar gael eto ar ffon symudol.

Gan Rhys a Gerwyn 🙂

Rhywbeth i ddweud?

Pob Erthygl