Hei bobl, VGBish yma gydag adolygiad o NASCAR ’14 ar gyfer y PS3 sydd, yn fy marn i, yn gêm wedi’i greu yn benodol i rai sy’n wybodus am geir gan fod angen gwybod am geir i gael i mewn i’r gêm. Mae angen i ti fod yn ymwybodol o bethau fel pwysedd teiar a thâp gril a phethau fel hynny, felly nid yw’n gêm i mi gan fy mod i’n hoffi gemau sydd angen ychydig iawn neu dim meddwl. Ymlaen at yr adolygiad.
Stori: 6
Roeddwn yn meddwl fod y stori yn llinellol iawn heb lawer o le i wella.
Graffeg: 7
Mae’r raffeg yn iawn ond roedd yna namau ac, i fod yn onest, gyda’r holl gemau rasio cenhedlaeth nesaf sydd yn dod allan mae’r un yma i’w weld wedi dyddio braidd yn ôl meddalwedd.
Synau: 6
Nawr, doeddwn i ddim yn hoff o’r synau gan nad allwn i ddiffinio pa injan oedd p’run pan oeddwn i’n gyrru gan fod yna un sŵn injan barhaol ond gallai hyn fod oherwydd problemau cyllidebu.
Trac sain: 4
Nid oedd trac sain i’r gêm yma i ddweud y gwir ac, i fod yn onest, bydda’r gêm yma wedi cael gradd well os bydda nhw wedi rhoi trac sain arno.
Nodweddion: 6
Dwi ddim yn hoff o nodweddion y gêm yma gan fod angen gwybod am bwysedd teiar a thâp gril sydd, fel rhywun sy’n ffan o gemau ac nid ceir, yn gwbl ddiarth i mi. Hefyd mae dewisiadau dewislen y gêm yma yn ddryslyd.
Prynu neu Beidio: Prynu-ish
Os wyt ti’n hoff o rasio byddwn i ddim yn awgrymu prynu’r gêm yma yn newydd am £30; byddwn yn awgrymu ei brynu yn ail-law gan nad oes angen pas ar-lein ac mae’n gêm i un chwaraewr.
Rwyt ti wedi bod yn darllen VGBish, sori am yr adolygiad llym ond fel bob tro, mwynha dy ddiwrnod.
Delwedd: aolcdn
Erthygl Berthnasol: Gaming Review: Assassins Creed IV: Black Flag
Rhywbeth i ddweud?
Rhaid mewngofnodi i bostio sylwadau
Mewngofnodi Cofrestru