Chwarae yw calon plentyndod ac rydyn ni yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf yn credu ei fod yn hanfodol bod plant yn cael y cyfle i chwarae. Mae’r Cenhedloedd Unedig, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru oll yn cydnabod pa mor bwysig yw hi i blant gael yr hawl i chwarae.
Mae dyletswydd statudol gyda ni, y Cyngor, i asesu a sicrhau bod cyfleoedd chwarae digonol ar gael i blant, a hynny drwy’r Asesiad Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae. Er mwyn ein helpu i wneud hyn, hoffen ni wybod beth yw’ch barn ar gyfleoedd chwarae yn y fwrdeistref.
Mae modd i chi gwblhau ein harolwg drwy’r ddolen yma. Hefyd, mae fersiwn i blant ei chwblhau yma. Os yw’n well gyda chi gwblhau fersiwn wedi’i hargraffu o’n harolwg, ffoniwch Sian Wood, Swyddog Gofal Plant a Datblygu Chwarae ar: 01443 744376 neu e-bostiwch: Sian.Wood@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Bydd yr arolwg yn dod i ben Ddydd Gwener 2 Tachwedd am 5pm, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi’i gwblhau erbyn hynny.
Diolch am gymryd rhan yn ein harolwg a’n helpu ni i sicrhau bod gyda phlant fan diogel i chwarae ynddo yn eu bwrdeistref.
Rhywbeth i ddweud?
Rhaid mewngofnodi i bostio sylwadau
Mewngofnodi Cofrestru