Dyma oedd un o’r llofruddiaethau torfol mwyaf creulon yn ein hanes.
Yr wythnos hon, mae miloedd o bobl ledled y byd yn dod at ei gilydd mewn digwyddiadau i gofio’r miliynau o bobl cafodd eu lladd yn yr Holocost – 70 mlynedd yn union ers rhyddhau’r gwersyll marwolaeth Natsiaidd, Auschwitz.
Bydd llywodraeth y DU yn cyfrannu 50 miliwn o bunnoedd tuag at gofeb a chanolfan addysg yr Holocost wedi’i gynnig gan Gomisiwn yr Holocost, dywedodd Y Canghellor George Osborne wrth y Tai Cyffredin.
Yn fuan fore Mawrth cyrhaeddodd y cyntaf o bron i 300 o oroeswyr Auschwitz i farcio 70 mlynedd ers i filwyr Rwsiaidd ryddhau’r gwersyll marwolaeth Natsi.
Roedd emosiynau yn gryf iawn wrth i’r goroeswyr, bellach yn eu hwythdegau a nawdegau, osod torchau a thanio canhwyllau mewn teyrnged urddasol i’r miliynau o bobl bu farw o fewn waliau’r gwersyll.
Bu farw 1.5 miliwn o bobl yn ystod Rhyddhau’r Holocost. Cynhaliwyd miloedd o wasanaethau coffa ledled y byd, yng Nghymru cynhaliwyd gwasanaeth yng Nghaerdydd a llawer mwy yn y Gogledd.
Byddwn yn cofio holl ddioddefwyr yr Holocost.
Delwedd: imgick
Erthyglau Perthnasol: The Great War: 100 Years On
Rhywbeth i ddweud?
Rhaid mewngofnodi i bostio sylwadau
Mewngofnodi Cofrestru