Mae Isobelle Molloy yn actores Saesneg sydd yn adnabyddus am chwarae rhan Matilda yn y theatr yn Llundain yn y sioe Matilda a’r Maleficent ifanc yn y ffilm Disney 2014 Maleficent – ffilm deuluol sydd yn adrodd hanes y cnaf drwg o’r Sleeping Beauty a’i hochr hi o’r stori.
Roeddwn i’n lwcus iawn i gael sgwrs gyda Isobelle yn arbennig i CLICarlein.
Helo, Isobelle! Sut wyt ti?
Helo! Dwi’n dda diolch!
Roeddem wrth ein boddau gyda dy berfformiad fel y Maleficent ifanc yn y ffilm Maleficent – sut gefais di’r rhan honno?
Wel, dwi’n mynd i Ysgol Theatr Tomorrow’s Talent a nhw drefnodd y clyweliad pan oeddwn i ychydig yn iau a doeddwn i ddim yn siŵr am beth roeddwn i’n cael clyweliad amdano ond llwyddais i gael prawf sgrin oedd yn cŵl iawn a llwyddais i ennill y rhan.
Dyma oedd y tro cyntaf i ti fod ar y sgrin fawr, sydd yn anhygoel! Sut mae actio mewn ffilmiau yn wahanol i actio’n fyw ar y llwyfan?
Wel mae’r ddau yn wahanol iawn ond ti’n cael cymaint o adrenalin a su o’r ddau ohonynt sydd yn grêt.
Ti hefyd wedi chwarae rhan Matilda yn y sioe gerdd yn y West End, sut lwyddais di i gael y rhan?
Fy ysgol theatr, unwaith eto, drefnodd y clyweliad ac ar ôl mynd yn ôl ac ymlaen 11 gwaith, cefais y rhan.
Sut wyt ti’n cydbwyso ysgol ac actio – ydy hyn yn anodd?
Mae’r ysgol theatr yn gefnogol iawn ac rydym yn cymysgu gwaith arferol a gwaith theatr felly gallwn i fod efo maths ac yna bale.
Cychwynnais dy yrfa yn ifanc iawn – beth wyt ti’n feddwl ydy buddion ac anfanteision hynny?
Y peth da ydy dy fod di’n cael lot o hyfforddiant o oedran ifanc er weithiau gallai fod yn eithaf ofnus ond mae’n dda iawn yn bennaf.
Os gallet ti serennu mewn ffilm gydag unrhyw actor neu actores yn y byd, pwy fydda hynny a pham?
Mae hynna’n gwestiwn anodd iawn! Mae yna lot o actorion dwi’n hoffi ond byddwn i’n hoffi gweithio gyda chyfarwyddwr Maleficent, Robert Stromberg eto.
Pa fath o genres ffilm mae gen ti ddiddordeb penodol mewn actio ynddynt?
Dwi’n hoffi gwylio comedïau teuluol ond hoffwn fedru chwarae rhannau mwy difrifol.
Fydda’n well gen ti barhau i wneud mwy o ffilmiau neu fynd yn ôl i waith theatr yn unig?
Dwi ddim yn siŵr achos dwi’n caru’r ddau felly hoffwn fedru cymysgu’r ddau a gwneud ychydig o ffilm a theatr.
Beth nesaf i ti eleni?
Yn fis Tachwedd byddaf yn y ‘Sound of Music’ yn chwarae rhan Louisa ac yn ar ôl hynny dwi’n ymarfer ac yn canolbwyntio ar yr ysgol.
Pa gyngor fydda ti’n ei roi i bobl ifanc eraill sydd efallai eisiau gwneud yr un peth â thi?
Byddwn i’n dweud i ddilyn dy uchelgeisiau a breuddwydion ac i sicrhau dy fod di’n gweithio’n galed iawn.
DELWEDD: kricket9
Erthygl Berthnasol: Interview: Dean S Jagger (Actor In The Paddy Lincoln Gang)
Rhywbeth i ddweud?
Rhaid mewngofnodi i bostio sylwadau
Mewngofnodi Cofrestru