Chwaraeodd Cymru yn erbyn Awstralia yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn y 5ed o Dachwedd. Roedd pawb yn disgwyl gêm llawn tân gwyllt gyda chwaraewyr yn bomio lawr y cae ar dân. Ond mae’n ymddangos bod Awstralia oedd y rhai a daeth a’r fflam.
Roedd Cymru yn llawn anafiadau a chwaraewyr nag oedd gallu chwarae ,fel arfer, gyda Taulupe Faletau, Alun Wyn Jones, Sam Warburton, Liam Williams a Jonathan Davies allan. Roedd Cymru yn cofio Aberfan ar eu crysau a gwisgo bandiau du i gofio tad Alun Wyn Jones a fu farw’r wythnos honno.
Rob Howley oedd yr hyfforddwr yn absenoldeb Warren Gatland a oedd yn brysur oherwydd paratoadau ar gyfer y Llewod. Roedd Awstralia heb Will Genia, chwaraeodd David Pocock fel blaenasgellwr am y tro cyntaf erioed a chafodd Tevita Kuridrani ei ddewis i chwarae fel canolwr ar bwys Reece Hodge.
Roedd e’n berfformiad eithaf rhwystredig a siomedig gan Gymru. Cawsom ychydig o funudau yn y golau ond heblaw am amseroedd bach, roedd Awstralia yn rheoli’r gêm. Roedd Awstralia yn cael yr holl feddiant, tiriogaeth a phopeth mewn gwirionedd ond am y taclau. Roedd hi’n syndod bod Awstralia ddim wedi ennill gan ddwbl eu sgôr. Roedd rhai cefnogwyr Cymru yn gofyn am ad-daliadau!
Leigh Halfpenny oedd yr unig reswm arhosodd Cymru ynddi yn ystod yr hanner cyntaf. Arbedodd cwpwl o geisiai i Gymru. Cafodd Justin Tipuric gêm dda hefyd. Roedd Rhys Webb yn rhan o bob ymosod cafodd Cymru, er iddo fynd ar gar/stretcher. Cafodd Dan Biggar carden felen. Roedd hynny’n poen enfawr. Cafodd Sam Davies a Cory Hill ei gapiau cyntaf. Doedd e ddim wedi cymryd yn hir iddyn nhw gymryd rhan pan ddaethon nhw ar y cae.
Roedd hyn yn ddechreuad siomedig i Gyfres Under Armour Cymru ond rydym yn ddechrau yn wael bob blwyddyn yn draddodiadol. Gobeithio y gallwn gael ychydig o bwyntiau yn erbyn Japan a’r Ariannin cyn chwarae De Affrica yn gêm olaf y gyfres. Mae Awstralia yn y llif o bethau yn barod ar ôl dod mas o bencampwriaeth rygbi anodd ond mae’n cymryd tipyn o amser i Gymru i ddod i arfer i ddwysedd rygbi rhyngwladol.
Y sgôr terfynol oedd Awstralia32-8 Cymru. Gwyliwch yr uchafbwyntiau o’r gêm yma
Llongyfarchiadau i Iwerddon yn ogystal am guro Seland Newydd 40 29.
Cymru – Halfpenny, Cuthbert, J Davies, Roberts, North, Biggar, Webb; Jenkins (C), Owens, Lee, B Davies, Charteris, Lydiate, Tipuric, Moriarty.
Reps: Baldwin, Smith, Francis, Hill, King, G Davies, S Davies, Amos
Awstralia – Folau, Haylett-Petty, Kuridrani, Hodge, Speight, Foley, Phipps; Sio, Moore (C), Kepu, Arnold, Coleman, Pocock, Hooper, Timani.
Reps: Latu, Slipper, Alaalatoa, Simmons, Fardy, Frisby, Cooper, Naivalu.
Rhywbeth i ddweud?
Rhaid mewngofnodi i bostio sylwadau
Mewngofnodi Cofrestru