Am y tro cyntaf mewn degawdau, roedd yr Alban yn un o’r ffefrynnau i ennill pencampwriaeth y 6 gwlad. Cafodd yr Alban cyfres arbennig yn yr Hydref gan guro Awstralia a Samoa, a cholli i Seland Newydd mewn gêm agos iawn. Roedd gan 12 o chwaraewyr Cymru anaf, yn cynnwys wyth o Lewod. Gyda rhai o chwaraewyr gorau Cymru allan, yr Alban oedd y ffefrynnau. Gwnaeth yr Alban curo Cymru blwyddyn ddiwethaf am y tro cyntaf mewn degawd, a blwyddyn yma roedden nhw’n edrych i ennill yng Nghymru am y tro cyntaf ers 2002.
Roedd yr awyrgylch yn y Stadiwm Principality yn arbennig. Roedd y canu a gweiddi uchel yn achosi fy sêt i ddirgrynu. Mae’r bwrlwm yn ystod pencampwriaeth y 6 gwlad wastad yn fendigedig, yn enwedig yng Nghaerdydd.
Mae’r Albanwyr wedi bod yn ymosodol iawn yn ddiweddar, ond doedden nhw ddim yn gallu curo amddiffyn cadarn Cymru. Ni lwyddon nhw i sgorio unrhyw bwyntiau tan y munud olaf. Mewn cyferbyniad, roedd ymosod Cymru yn wych.
Dechreuodd y gêm yn fodd egnïol iawn. Manteisiodd y ddau dîm o’r gapiau yn eu llinellau amddiffyn. Yn y chweched munud, enillodd Gareth Davies y bêl ar ôl pas gwael gan Ali Price a rhedodd 70 metr i sgorio yn y cornel. Ciciodd Halfpenny y ddau bwynt ychwanegol ac roedd Cymru yn ennill gan 7.
Dau funud yn ddiweddarach daeth symudiad gwych arall o Gymru. Torrodd Aaron Shingler trwy amddiffyn yr Alban a rhedeg hanner y cae ond gollyngodd Steffan Evans y bêl, tri metr o’r llinell gais.
Sgoriodd Halfpenny ail gais y gêm yn yr 11eg munud. Dyma oedd ei gais cyntaf i Gymru mewn 5 mlynedd. Trosodd e ei gais o ongl galed ac roedd y sgôr yn 14-0 i’r tîm cartref. Roedd gweddill yr hanner gyntaf yr un mor gyffrous â’r 10 munud cyntaf ond cafodd dim pwyntiau ei sgorio.
Cafodd ciciau gosb eu rhoi i Gymru yn yr ail a seithfed munud o’r ail hanner. Ciciodd Halfpenny nhw yn hawdd ac ymestynnodd y sgôr i 20 pwynt gyda hanner awr i fynd. Daeth hi’n eithaf clir bod Cymru yn mynd i ennill y gêm.
Sgoriodd Leigh Halfpenny ei ail gais o’r gêm ar ôl 60 munud a throsodd y gic. Roedd angen un cais arall ar Gymru i ennill y pwynt bonws. Gwnaeth Wyn Jones bron croesi am ei gais cyntaf i Gymru a’r pwynt bonws ar ôl rhediad gwych, ond doedd e ddim yn glir os cyrhaeddodd y bêl y llinell gais felly ni chafodd ei rhoi.
Daeth y pwynt bonws yn y deg munud olaf gyda chais gwych gan Steffan Evans. Dechreuodd y symudiad gyda rhediad da gan Hadleigh Parkes a naid acrobatig gan Steff Evans i sgorio. Rhoddodd Peter Horne rhywbeth i’r Alban dathlu am pan groesodd e am gais rhad ar ddiwedd y gêm.
Yn ystyried sawl chwaraewr oedd ar goll gan Gymru, roedd hyn yn berfformiad arbennig. Yn fy marn i, hyn oedd un o berfformiadau gorau Cymru yn y ddwy flynedd diwethaf. Roedd amddiffyn Cymru yn dda a manteisiodd Cymru ar gamgymeriadau cyffredin yr Alban. Roedd hi’n berfformiad siomedig iawn o safbwynt yr Alban. Roedd rhan fwyaf o bobl yn meddwl y byddai hyn yn un o gemau mwyaf agos y bencampwriaeth ond dominyddodd Cymru’r gêm. Roedd yr Alban yn wael yn ffactorau sylfaenol y gêm ac yn rhoi’r meddiant i Gymru yn gyson. Chwaraewyr gorau Cymru oedd Shingler a Halfpenny. Sgoriodd Leigh Halfpenny ei gais cyntaf mewn 38 gêm i Gymru. Ciciodd chwech allan o chwech o’i giciau, sgoriodd 24 pwynt, ac yn dda iawn yn amddiffynnol hefyd. Mae’n ddigon teg i ddweud bod tîm Cymru, oedd yn cynnwys 10 Scarlet, wedi synnu pawb.
Y sgôr terfynol oedd 34-7 i Gymru.
Wythnos nesaf, mae Cymru yn mynd i Twickenham i wynebu pencampwyr blwyddyn diwethaf: Lloegr.
Rhywbeth i ddweud?
Rhaid mewngofnodi i bostio sylwadau
Mewngofnodi Cofrestru