Dydd Gwener, Chwefror 7fed, 10am – 3pm
Gemau retro, adeiladu gwefan, rhaglennu pecynnau roboteg, rhith-wirionedd, dylunio gêm
Dewch i gwrdd â chyflogwyr, prifysgolion, colegau ac ysgolion
TATL Games – menter gemau retro enfawr sy’n cael ei arwain gan weithiwr ieuenctid cymwysedig, Troy Wright
TechArts – busnes realiti estynedig gydag offer uwchdechnoleg gwych i chwarae gyda nhw, dan arweiniad y perchennog a’r peiriannydd meddalwedd, Gareth Mills Phillips
SavePoint – menter gymdeithasol/grŵp ieuenctid ‘talu wrth chwarae’ o’r Coed-duon a fydd, gobeithio, yn dod â gemau arcêd gyda nhw
GameForge – busnes creu gemau newydd sy’n cael ei redeg gan Lloyd Hawthorne sy’n beiriannydd rhwydwaith, yn adeiladu ac yn cynnal cyfrifiaduron personol ymhlith pethau eraill! Mae ei becyn yn eich galluogi chi i sganio delweddau sydd wedyn yn dod yn rhan o gemau
Llysgenhadon STEM Prifysgol Caerdydd – cefnogi pump o ysgolion cynradd Rhondda Ganol sydd wedi creu gwefannau a gemau o amgylch thema ‘Bro-garwyr Tra Mad’ (ysgolion lle maen nhw wedi cyflwyno codio ac ati)
Prifysgol De Cymru – Technocamps gyda’u pecynnau roboteg Lego y mae modd eu rhaglennu
Candlhat a Webfibre – dau fusnes o dan yr un rheolaeth – yn cyflwyno codio, rhaglennu a swyddi gwefan sydd ar gael yn yr ardal a hyrwyddo’r penwythnos Girls in Tech maen nhw’n yn cynnal o 21 – 24 Chwefror yn Llantrisant (grŵp oedran 15 – 30) – rhagor o fanylion i ddilyn
Busnes codio/busnes technoleg bach arall sydd newydd ei ffurfio
TechNation – cwango llywodraeth y DU – a fydd yn dod â phobl fusnes o wahanol sectorau (i’w cadarnhau)
Hyrwyddwr Digidol Pobl a Gwaith ar gyfer Cwm Rhondda a Chwm Cynon – Ethan Jones, a fydd yn dangos beth mae Raspberry Pi 4 yn gallu gwneud
Rhywbeth i ddweud?
Rhaid mewngofnodi i bostio sylwadau
Mewngofnodi Cofrestru