Mae Mehefin 21ain yn Ddiwrnod Trowsus Anghywir.
Ymuna yn y parti a gwisga dy drowsus mwyaf gwirion er mwyn dathlu 10 mlynedd o godi arian hanfodol i blant sâl mewn ysbytai a hosbisau plant ledled Prydain gyda’r Sefydliad Plant Wallace and Gromit. Gallet wneud beth bynnag hoffet dim ond bod pawb yn talu £1 i gymryd rhan.
Eleni ydy pen-blwydd 10 oed Diwrnod Trowsus Anghywir felly mae angen dy help di i’w wneud yn hyd yn oed mwy arbennig a helpu plant sâl.
Mae yna ddigonedd o ffyrdd i godi arian – o gynnal parti, gwagio dy bocedi a chasglu newid mân a cheiniogau pawb. Neu, edrycha ar y rhestr o awgrymiadau isod am syniadau pellach:
- Gemau parti: dathlu ein pen-blwydd 10 oed gyda dy gemau gorau; ‘musical statues’, llewod yn cysgu neu basio’r parsel a gofyn i bawb am gyfraniad am gymryd rhan
- Cynnal cwis Diwrnod Trowsus Anghywir
- Pinio’r cynffon ar Gromit
- Ffedog ymlaen: dechrau pobi a gwerthu danteithion pen-blwydd blasus i’r elusen
- Ffasiwn Drowsus: cynnal sioe ffasiwn yn yr ysgol neu gyda ffasiwn drowsus dros yr oesoedd
- ‘Belt up & zip it’: Tawelwch Noddedig, pwy sy’n gallu cadw’n ddistaw am y hiraf?
- Rhedeg, cerdded neu ras tair coes noddedig.
Os wyt ti eisiau cymryd rhan yn Niwrnod Trowsus Anghywir, cofrestra yma: http://www.wallaceandgromitfoundation.org/register/
“Cracking stuff, Gromit!”
Erthygl Berthnasol: Support Wallace & Gromit’s Children Foundation
Gwybodaeth – Iechyd a Materion y Corff
DELWEDD: yoursourcetoday
Rhywbeth i ddweud?
Rhaid mewngofnodi i bostio sylwadau
Mewngofnodi Cofrestru