Cyfranogiad Pobl Ifainc

Updated:
Dim Sylwadau

Yn syml, ystyr y gair cyfranogiad yw cymryd rhan. Ond pan mae’n cael ei gyfeirio ato mewn perthynas â ti fel person ifanc, yma aml mae’n golygu:

  1. Dy gynnwys di mewn prosiectau
  2. Gweithio gyda ti er mwyn cael dy farn neu dy syniadau
  3. Dy annog di i ddod yn rhan o’r broses ‘gwneud penderfyniadau’ er mwyn dylanwadu’r gwasanaethau a’r gweithgareddau sy’n cael eu darparu i ti

Yng Nghymru mae yna gyfres o Safonau Cenedlaethol ar gyfer sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl ifainc. Mae yna Garfan Archwilio Darpariaethau Ieuenctid gan Gyngor Rhondda Cynon Taf sy’n defnyddio’r safonau er mwyn archwilio Clybiau Ieuenctid a darpariaethau eraill er mwyn sicrhau eu bod nhw’n gweithio tuag at y safonau yma.

Dyma’r saith safon:

Dy Ddewis Di
Dim Gwahaniaethu
Byddi di ar dy ennill
Adborth
Gwybodaeth
Parch
Gwella’r ffordd rydyn ni’n gweithio

Yn 2016, bu Gweithwyr Cyfranogiad Ieuenctid yn gweithio gyda phlant yng Nghymru er mwyn diwygio’r safonau, eu gwneud nhw’n haws i ddeall a phenderfynu ar un dull archwilio i’w ddefnyddio ar gyfer unrhyw Archwiliadau Lleol (yn yr Awdurdodau Lleol sy’n parhau i ddefnyddio’r dull yma i gynnal archwiliadau.)

Cyn hir, bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar gyfer pobl ifainc. Ar ôl yr ymgynghoriad bydd y poster newydd yn cael ei rannu a’i gyhoeddi ledled Cymru.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn

Mae’n bwysig iawn bod plant a phobl ifainc yn gallu dweud eu dweud yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw. Felly, rydyn ni (staff WICID.tv a’r Gwasanaethau Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid) yn hynod frwd i wneud yn siwr dy fod ti yn gwybod beth yw dy hawliau! Mewn arolwg diweddar, dim ond 3% o’r bobl ifainc a holwyd oedd yn ymwybodol o beth oedd y Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Mae’r Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) yn ddogfen sy’n cynnwys 42 o erthyglau sydd â’r nod o ddiogelu pobl ifainc 0 – 18 oed. Mae’n nodi’r holl bethau sydd eu hangen arnyn nhw i ddatblygu mewn ffordd iach. Cafodd ei chreu ar ôl yr Ail Ryfel Byd er mwyn ceisio rhwystro pobl rhag colli eu hawliau dynol byth eto. Yn ystod y rhyfel, cafodd yr hawliau mwyaf sylfaenol eu cymryd oddi wrth bobl. Dim bwyd na chysgod! Felly, daeth aelodau’r Undeb Ewropeaidd at ei gilydd i gytuno ar yr hawliau hyn. Mae modd darllen yr holl hawliau sydd gen ti ar wefan UNICEF, yn ogystal â chyfle i ddysgu rhagor am bŵer cyfranogiad pobl ifainc.

Yng Nghymru mae yna gyfreithiau ychwanegol yn eu lle sy’n golygu bod gorfodaeth ar Weinidogion Cymru i ystyried pa effaith bydd unrhyw gyfraith newydd yn ei chael ar blant a phobl ifainc Cymru. Mae yna ddisgwyliad o dan Erthygl 12 bod barn pobl ifainc yn cael ei chlywed. Mae Erthygl 12 ymhlith yr erthyglau mwyaf pwerus mewn perthynas â Chyfranogiad Pobl Ifainc. Mae’r erthygl yn nodi bod gan bobl ifainc yr hawl i ddweud eu dweud, a bod unrhyw farn sydd ganddyn nhw yn cael ei hystyried pan fydd oedolion yn gwneud penderfyniadau sydd yn effeithio arnyn nhw.

Cyfranogiad Ieuenctid Lleol

Lansiwyd tri fforwm newydd ar gyfer pob cwm gan Wasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid RhCT ym mis Medi 2016. Mae modd i unrhyw berson ifanc sydd rhwng 11 a 25 oed ymuno â fforymau Cwm Rhondda, Cwm Cynon neu Gwm Taf. Felly, os oes diddordeb gyda ti, cysyllta â’r Swyddog Cyfranogiad Ieuenctid yn dy ysgol neu’r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid drwy Facebook (os wyt ti’n 13 oed neu’n hŷn): https://www.facebook.com/YEPSRCT/

Bydd Fforwm Ieuenctid Bwrdeistref RhCT yn cwrdd am y tro cyntaf erioed ym mis Ionawr 2017. Bydd y fforwm yn cynnwys cynrychiolwyr ifainc o bob cyngor ysgol uwchradd ac ysgol arbennig o fforymau Cwm Rhondda, Cwm Cynon a Chwm Taf, dau aelod o’r Senedd Ieuenctid sy’n cynrychioli RhCT, a dau Arolygydd Ieuenctid.   Bydd y fforwm yn trafod y materion sydd yn effeithio ar bobl ifainc, yn ymgynghori ar y newidiadau a gynigir gan y cyngor, a gweithio ar ymgyrchoedd yn ôl pleidlais y bobl ifainc.

Cyfanogiad Ieuenctid Cenedlaethol A Rhyngwladol

Er mwyn i farn pobl ifainc RhCT gael ei hystyried wrth wneud penderfyniadau, mae’n rhaid i ni weithio gyda chyrff cenedlaethol. Yng Nghymru mae Plant yng Nghymru yn ymgynghori â phobl ifainc ar ran Llywodraeth Cymru, trwy’r prosiect Cymru Ifanc. Trwy hyn mae gan bobl ifainc ddigon o gyfleoedd i gwrdd â Gweinidogion ac i gael lleisio eu barn.

Am y tair blynedd diwethaf mae RhCT wedi mynd i Eisteddiad Blynyddol cyfarfodydd Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig (gyda chymorth gan Gyngor Ieuenctid Prydain) gyda dau berson ifanc sydd wedi cynrychioli RhCT. Yn ystod yr Eisteddiad Blynyddol mae 600 o aelodau’r Senedd Ieuenctid (sydd rhwng 11 ac 18 oed) yn trafod yn Nhŷ’r Cyffredin dan lywyddiaeth Lefarydd presennol y Tŷ, Mr Speaker, Y Gwir Anrhydeddus John Bercow. Mae’r drafodaeth yn cynnwys y pum pwnc a dderbyniodd y mwyaf o bleidleisiau gan bobl ifainc yn ystod yr ymgyrch Make Your Mark. Yn 2016, derbyniwyd 3641 o bleidleisiau gan bobl ifainc rhwng 11 ac 18 oed.

Dyma’r bledleisiau o Rondda Cynon Taf:

Cwricwlwn sy’n ein paratoi ar gyfer y dyfodol – 555

Pleidleisio yn 16 oed  – 488

Cludiant – 469

Addysg Cymorth Cyntaf i Bobl Ifainc – 429

Iechyd Meddwl – 409

Atal Toriadau sy’n effeithio ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) – 315

Canfyddiad Corff

Brwydro yn erbyn hiliaeth a gwahaniaethu crefyddol, yn enwedig yn erbyn pobl sydd yn Foslem neu’n Iddew.

Cyllido Gwasanaethau Ieuenctid, nid torri – 229

Codi Ymwybyddiaeth o Aflonyddwch Rhywiol mewn ysgolion – 166

Bydd y 5 sy’n dod ar y brig yn genedlaethol, yn cael eu cyhoeddi ar 18 Hydref. Mae Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig hefyd yn cynnal cynllun Llysgennad Ieuenctid y Deyrnas Unedig. Mae’r llysgenhadon ifainc yn cynrychioli’r Deyrnas Unedig yn Ewrop, ac yn rhannu materion pobl ifainc Prydain gyda Senedd Ewrop.

Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig

Cyngor Ieuenctid Prydain

Llysgennad Ieuenctid  y Deyrnas Unedig

Cymru Ifanc

Comisiynydd Plant Cymru

Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr

Rhywbeth i ddweud?