Dy Hawliau Cyfreithiol

Updated:
Dim Sylwadau

Os byddi di yn cael dy stopio gan Swyddog yr Heddlu, mae’n bwysig i ti wybod dy hawliau a chael gwybod am y sefyllfa yr wyt ti’n rhan ohoni. Gan amlaf, fydd Swyddogion yr Heddlu ddim yn stopio neu’n cwestiynnu rhywun oni bai eu bod yn amau yr hyn sydd gan berson, neu’r hyn fydd person yn ei wneud.

Stopio a Chwilio

Mae gan yr heddlu yr hawl gyffredinol i dy stopio di ar y stryd, gofyn am dy enw, cyfeiriad, a manylion am ble’r wyt ti wedi bod a ble’r wyt ti’n bwriadu mynd. Bydd hyn yn aml yn digwydd yn hwyr yn y nos. Does dim rhaid i ti ateb swyddog yr heddlu, ond byddai’n rhywbeth llesol i ti’i wneud. Os wyt ti’n haerllug neu’n rhedeg i ffwrdd, gall y swyddog yr heddlu dy amau di.

Os byddi di’n cael dy stopio mae gen ti’r hawl i wybod enw’r swyddog, o ba orsaf y mae e/hi’n dod a pham y mae e/hi wedi dy stopio di. Mae’n rhaid bod gan y swyddog resymau da i dy stopio di neu i gynnal chwiliad. Mae hyn yn golygu y mae’n rhaid bod yr heddlu wedi dy weld di yn gwneud rhywbeth amheus neu fod rhywbeth amheus am dy ymddygiad di. Gallai’r swyddogion hefyd wedi cael “tip-off”, sef rhywun sydd wedi rhoi gwybodaeth i’r heddlu amdanat ti neu wedi codi pryder.

Er mwyn i’r heddlu dy chwilio, mae’n rhaid bod gan ei Swyddogion resymau da i feddwl y bydden nhw’n darganfod rhywbeth sydd wedi cael ei ddwyn neu rywbeth anghyfreithlon.  Gallai hyn fod yn gyffuriau, erfyn niweidiol neu’n rhywbeth y gallet ti ddefnyddio i gyflawni trosedd.

Os wyt ti’n 17 oed neu’n hŷn mae hawl gen ti i wirfoddoli i adael yr heddlu i gynnal chwiliad arnat ti.

Os wyt ti’n 16  oed neu’n iau mae’n rhaid i oedolyn ‘addas’, e.e. rhiant neu gynhaliwr(gofalwr), dy wirfoddoli di am chwiliad. Mewn rhai sefyllfaoedd penodol, fel achlysuron e.e. gêm pêl-droed, cyngerdd a.y.b, does dim angen rheswm i fod yn destun chwiliad.

Mae modd i’r heddlu gynnal chwiliad mewn mannau cyhoeddus, gan gynnwys canolfannau siopa a sinemâu. Mae hawl gan yr heddlu i chwilio unrhyw beth yr wyt ti’n ei gario, neu unrhyw gerbyd yr wyt ti ynddo neu sy’n perthyn i ti. Mae hefyd gan yr heddlu yr hawl i chwilio dy gartref os oes gannddyn nhw reswm i feddwl y bydden nhw’n dod o hyd i rywun sydd wedi cyflawni trosedd arestiadwy neu i chwilio am dystiolaeth sy’n gysylltiedig â hyn; os oes ganddyn nhw warant neu ganiatâd gan lys; er mwyn dal carcharor sydd wedi dianc; er mwyn achub bywyd; er mwyn atal difrod difrifol i eiddo; er mwyn atal aflonyddwch o ryw fath.

Os bydd yr heddlu yn gofyn i ti dynnu haenau ychwanegol o ddillad, h.y. mwy na dy got/siaced, yna mae’n rhaid i hyn ddigwydd allan o olwg y cyhoedd. Mae gen ti’r hawl i ofyn bod hyn yn digwydd gan swyddog o’r un rhyw â thi.

Rhaid i’r heddlu gadw cofnod ysgrifenedig os wyt ti’n destun chwiliad. Dylai’r cofnod gynnwys manylion megis, y rheswm dros y chwiliad, yr hyn yr oedd yr heddlu yn chwilio amdani, amser, dyddiad a lleoliad y chwiliad yn ogystal ag enw’r swyddog a wnaeth gynnal y chwiliad, canlyniadau’r chwiliad ac unrhyw eiddo sy’n perthyn i ti a gafodd ei ddifrodi. Mae hawl gen ti i ofyn am gopi o’r adroddiad hyd at flwyddyn ar ôl iddo gael ei ysgrifennu.

Arestio

Os ydy’r heddlu yn amau dy fod ti wedi cyflawni trosedd, byddan nhw yn dy arestio. Unwaith y byddi di wedi cael dy arestio, byddi di’n colli rhyddfreintiau penodol, ond bydd dal gen ti hawliau penodol;

  • Yr hawl i wybod gan yr heddlu pam wyt ti wedi cael dy arestio.
  • Mae gen ti’r hawl bod rhywun yn cael gwybod dy fod ti wedi cael dy arestio.
  • Os wyt ti’n iau na 17 oed ac mae’r heddlu yn dy gadw di, dylai rhywun roi gwybod i’r oedolion addas cyn gynted â phosib. Gan amlaf dy rieni neu dy warcheidwaid fydd hyn. Dylai’r heddlu ddim dy arestio di nes bydd rhiant neu warcheidwad yn bresennol, oni bai y bydd oedi yn golygu perygl neu niwed uniongyrchol i rywun, neu golled/ddifrod difrifol i eiddo.
  • Mae gen ti’r hawl i weld cyfreithiwr yn breifat. Os fyddi di ddim yn gallu fforddio cyfreithiwr, neu os dwyt ti ddim yn gwybod sut i gysylltu ag un, bydd un yn cael ei benodi i ti.
  • Mae gen ti’r hawl i gael dy drin mewn modd trugarog a gyda pharch.
  • Mae gen ti’r hawl i ddewis peidio â dweud unrhyw beth unwaith i ti gael dy arestio e.e. mae gen ti’r hawl i gadw’n ddistaw.

Unwaith y byddi di wedi cael dy arestio, bydd yr heddlu ond yn gallu dy gadw di am gyfnod penodol, 24 awr fel arfer, ond os ydy’r trosedd yn un ddifrifol mae modd ymestyn y cyfnod i 36 awr. Mae modd i’r heddlu wneud cais i lys ynadon er mwyn ymestyn y cyfnod i 96 awr. Ar ddiwedd y cyfnod byddi di fel arfer yn cael dy gyhuddo neu dy ryddhau.

Mechnïaeth

Pan fyddi di wedi cael dy arestio a dy gyhuddo o drosedd, fel arfer bydd cyfnod o oedi cyn i’r achos gael ei glywed mewn llys, neu cyn i ti gael cerydd neu rybudd terfynol. Yn ystod y cyfnod yma, efallai byddi di’n cael dy gadw yn y ddalfa mewn sefydliad diogel neu efallai byddi di’n derbyn mechnïaeth.

Mae yna ddwy fath o fechnïaeth:

Mechnïaeth Ddiamod sy’n golygu y mae modd i ti fynd adref a pharhau gyda dy fywyd arferol nes bydd yr achos yn cael ei glywed mewn llys neu nes byddi di’n cael cerydd neu rybudd terfynol.

Mechnïaeth Amodol sy’n golygu bod amodau penodol i dy ryddhad, gall rhain gynnwys:

  • Aros yn dy gartref yn ystod cyfnodau penodol o’r diwrnod (cyrffyw).
  • Rhaid i ti fynd i’r orsaf heddlu neu lys ar adegau penodol bob wythnos.
  • Efallai byddi di’n cael ‘tag’ tra byddi di ar gyfnod mechnïaeth er mwyn i’r heddlu allu gweld lle’r wyt ti’n mynd a bod rhaid i ti fod yn dy gartref yn ystod cyfnodau penodol.
  • Efallai y bydd rhaid i ti gadw’n bell oddi wrth y dioddefwr a’r tystion.
  • Efallai bydd rhaid i ti fyw yn dy gartref dy hun, neu gyda rhywun arall yn ystod y cyfnod yma.
  • Neu efallai bydd rhaid i ti fyw mewn hostel fechnïaeth. Rhagor o fanylion isod.

Bydd dy gyfreithiwr yn trafod dy gyfnod mechnïaeth; bydd y Garfan Troseddau Ieuenctid hefyd yn cael ei chynnwys os wyt ti rhwng 11 ac 18 oed.

Os na fyddi di’n cadw ar amodau dy fechnïaeth, efallai byddi di’n cael dy arestio a fydd dim hawl gyda ti i fynd adref nes bydd yr achos wedi’i gwblhau.

Bydd mechnïaeth yn cael ei gwrthod am y rhesymau canlynol:

  • Rwyt ti wedi cyflawni trosedd yn ystod cyfnod mechnïaeth yn y gorffenol.
  • Mae yna berygl y bydd eiddo neu berson yn cael difrod neu ddolur.
  • Mae dy enw a chyfeiriad yn destun amheuaeth
  • Mae’r heddlu yn amau y byddi di’n ymddangos yn y llys.

Os na fydd mechnïaeth yn cael ei chaniatáu, byddi di’n cael dy gadw yn y ddalfa.

Os wyt ti yn cael dy gadw yn y ddalfa ac rwyt ti’n 17 oed neu’n iau, gan amlaf byddi di’n mynd i gartref gofal i blant neu i dŷ rhieni maeth. Mewn achosion prin, efallai byddi di yn aros mewn uned ddiogel.

Gall cael dy gadw yn y ddalfa hefyd olygu bod mewn carchar os wyt ti’n 15 oed neu’n hŷn (os wyt ti’n 15 neu’n 16 oed mae’n debyg mae canolfan cadw mewn sefydliad troseddwyr ifanc fydd hyn).

Efallai bydd rhaid i ti aros yn y ddalfa nes bydd yr achos wedi gorffen; gall hyn bara am ychydig ddyddiau neu, mewn achosion eithafol, tua 9 mis. Efallai bydd hyn yn ymddangos yn anheg, oherwydd dwyt ti ddim wedi cael dyfarniad euogrwydd ar hyn o bryd. Mae’n bwysig dy fod ti’n parhau i gael agwedd bositif tra byddi di’n aros am dy achos, yn enwedig os wyt ti’n ddi-euog. Mae cael dy gadw’n rhywle yn gallu bod yn anodd os wyt ti’n ifanc a dwyt ti ddim wedi arfer a chael cyfyngiadau i dy ryddid.

Mae hosteli mechnïaeth yn darparu lefel goruchwyliaeth ‘uwch’ i droseddwyr a phobl sydd ar gyfnod mechnïaeth. Maen nhw’n darparu lleoedd ar gyfer unigolion yn ystod cyfnodau gwahanol y broses cyfiawnder troseddol, gan gynnwys:

  • Rhywun yn eu cyfnod mechnïaeth sy’n aros am achos llys.
  • Pobl dan gollfarn (euog) sy’n destun asesiad.
  • Troseddwyr ar gyfnod prawf
  • Carcharorion sydd wedi cael eu rhyddhau dan amodau trwydded.

Mae hosteli yn gweithredu rheolau llym sy’n rheoli ymddygiad, mae unrhyw gyrffyw yn cael ei orfodi ac mae rhaglenni gwaith yn cael eu cytuno er mwyn lleihau troseddu.  Mae modd i breswylwyr hefyd dderbyn cyngor ar faterion personol, yn ogystal ag hyfforddiant cyflogaeth a help i symud ymlaen i lety parhaol.

  • Yn ystod dy fywyd, bydd ystod o resymau am ofyn am gyngor cyfreithiol.
  • Gall hyn fod oherwydd rwyt ti’n ceisio prynu tŷ, neu oherwydd bod rhywbeth wedi mynd o’i le gyda rhywbeth rwyt ti wedi ei brynu ac rwyt ti’n dadlau gyda’r cwmni sydd wedi gwneud/gwerthu’r eitem.
  • Mae yna bosibilrwydd y bydd angen cymorth cyfreithiol oherwydd rwyt ti wedi cael dy arestio a dy gyhuddo o drosedd gan yr heddlu.
  • Does dim angen siarad â chyfreithiwr bob tro er mwyn cael cyngor cyfreithiol. Mae yna sawl lle neu berson gwahanol sy’n gallu rhoi cymorth i ti ynnghylch materion cyfreithiol. Dyma awgrymiadau o leoedd y gelli di fynd iddyn nhw os oes angen cymorth cyfreithiol arnat ti, cyn penderfynu os oes angen cymorth cyfreithiol arnat ti neu beidio mewn gwirionedd:

https://www.citizensadvice.org.uk/law-and-courts/legal-system/taking-legal-action/do-you-need-legal-advice/

Cyngor a Chymorth Cyfreithiol

Yn ystod dy fywyd, bydd ystod o resymau am ofyn am gyngor cyfreithiol. Gall hyn fod oherwydd rwyt ti’n ceisio prynu tŷ, neu oherwydd bod rhywbeth wedi mynd o’i le gyda rhywbeth rwyt ti wedi ei brynu ac rwyt ti’n dadlau gyda’r cwmni sydd wedi gwneud/gwerthu’r eitem.

Mae yna bosibilrwydd y bydd angen cymorth cyfreithiol oherwydd rwyt ti wedi cael dy arestio a dy gyhuddo o drosedd gan yr heddlu.

Does dim angen siarad â chyfreithiwr bob tro er mwyn cael cyngor cyfreithiol – dyma rai sefydliadau sy’n gallu darparu cymorth a gwybodaeth bellach.

  • The Mix

Mae ‘The Mix’ yn wefan sy’n llawn gwybodaeth hanfodol i bobl ifainc sy’n iau na 25 oed. Mae ganddyn nhw adran Trosedd a Diogelwch hefyd.

  • Cyngor ar Bopeth – 03444 77 20 20 (os wyt ti’n fyddar, yn drwm dy glyw neu os oes gen ti nam lleferydd mae modd anfon neges destun: 03444 111 445)

Mae’r garfan ‘Cyngor ar Bopeth’ yn ceisio darparu’r wybodaeth sydd ei hangen ar bobl ar gyfer y problemau y maen nhw’n eu hwynebu. Maen nhw hefyd yn gwella’r polisiau a’r arferion sy’n effeithio ar fywydau pobl. Maen nhw’n darparu cyngor annibynnol, cyfrinachol a diduedd am ddim i bawb ynglŷn â’u hawliau a’u cyfrifoldebau. Maen nhw’n gwerthfawrogi amrywiaeth, yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn herio gwahaniaethu.

Maen nhw’n rhoi cyngor am ddim ar Ddyledion, Cyflogaeth, Budd-daliadau, Tai a llawer rhagor .. Am ragor o wybodaeth cer i’r wefan.

  • Advice UK

Mae Advice UK yn gyfeiriadur o wasanaethau sy’n gallu dy gyfeirio at yr wybodaeth sydd ei hangen arnat ti. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

  • Llywodraeth y Deyrnas Unedig

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch Cymorth Cyfreithiol a’r Gwasanaeth Cyngor Cyfreithiol Sifil ar wefan y Llywodraeth.

Rhywbeth i ddweud?