LHDT+

Updated:
Dim Sylwadau

Yn yr adran yma, mae yna wybodaeth ynghylch materion Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thraws*, gan gynnwys terminoleg, ‘dod allan’ a rhestr o sefydliadau y mae modd cysylltu â nhw er mwyn cael cymorth.

Mae’r tair llythyren gyntaf (LHD) yn cynnwys cyfeiriadedd rhywiol neu rywioldeb. Dyma ddisgrifiad o bwy y mae unigolyn wedi eu denu atyn nhw yn rhamantaidd, yn emosiynol, yn gorfforol a / neu’n rhywiol. Mae yna bum prif rywioldeb:

  • Os bydd unigolyn yn arddel cyfeiriadedd heterorywiol neu “Syth” , yna maen nhw ond yn cael eu denu gan bobl o’r rhyw arall e. Gwryw a Benyw.
  • Os bydd unigolyn yn arddel cyfeiriadedd cyfunrywiol neu “Hoyw/Lesbaidd” yna maen nhw ond yn cael eu denu gan bobl o’r un rhyw â nhw, e.e. Benyw a Benyw.
  • Os bydd unigolyn yn arddel cyfeiriadedd deurywiol yna maen nhw’n cael eu denu gan dynion a menywod, ond nid o reidrwydd ar yr un pryd. Er enghraifft, os bydd dyn sy’n ddeurywiol mewn perthynas â menyw mae e’n dal i fod yn ddyn deurywiol.
  • Os bydd unigolyn yn arddel cyfeiriadedd panrywiol yna maen nhw’n cael eu denu gan bob rhyw. Mae hyn yn golygu dynion, menywod, a’r rhai sy’n arddel hunaniaeth draws*, rhywedd hyblyg (anneuaidd), dirywedd a.y.b
  • Os bydd unigolyn yn arddel cyfeiriadedd Anrhywiol yna dydyn nhw ddim yn teimlo atyniad at unrhyw un. Efallai bydd ganddyn nhw berthnasau cyfeillgar emosiynol neu blatonig (ffrindiau) gyda phobl eraill ond efallai byddan nhw byth yn teimlo eu bod nhw wedi denu yn rhamantaidd neu’n rhywiol ar eraill

Mae’r T yn disgrifio Hunaniaeth Rhywedd unigolion. Dyma’r modd y bydd rhywun yn mynegi ac yn arddel hunaniaeth eu rhyw. Dydy Hunaniaeth Rhywedd a Chyfeiriadedd Rhywiol ddim yn gysylltiedig. Felly os bydd rhywun yn arddel hunaniaeth Traws*, dydy hyn ddim yn golygu’n awtomatig eu bod nhw yn hoyw, er enghraifft.

Mae yna sawl gair sydd wedi’u cynnwys yn y grŵp Traws*, ond dyma eglurhad ambell air:

  • Trawsryweddol/Trawsrywiol – rhywun sydd yn trawsnewid (symud) o un rhyw i un arall yn barhaol (fel arfer o fod yn wryw i fod yn fenyw neu i’r gwrthwyneb).
  • Trawswisgol, Androgyn/Androgynaidd – unigolyn sydd yn gwisgo neu’n mynegi eu hun drwy ddillad, colur neu steil gwallt gydag eitemau sydd fel arfer yn cael eu cysylltu â’r rhyw arall e.e. menyw â gwallt byr sy’n gwisgo siwt a dim llawer o golur.
  • Rhywedd-hyblig (Anneuaidd) – unigolyn sydd syn symud rhwng rhywiau neu’n cyfuniad o’r ddau. Efallai bydd yr unigolyn yn teimlo eu bod nhw’n wrywaidd ac yn fenywaidd, neu’n ddim un ohonyn nhw, neu’n “drydedd” rhyw.
  • Dirhywedd – rhywun sydd yn teimlo nad oes rhyw ganddyn nhw, neu fod rhywiau rhagddiffiniedig ddim yn berthnasol iddyn nhw.
  • Cydryweddol – rhywun y mae eu hunaniaeth rhywedd yn cyd-fynd â’r rhyw y rhoddwyd iddyn nhw adeg eu geni, e.e. gwryw sydd yn cytuno eu bod nhw yn teimlo’n wrywaidd yn feddyliol, yn emosiynol ac yn gorfforol.

Mae’r Ymbarél Traws* a’r ‘Genderbread Person / Gender Unicorn’ yn adnoddau defnyddiol er mwyn deall Hunaniaeth Rhywedd a Mynegiant. Mae modd eu gweld yma:  (dydy WICID.tv ddim yn gyfrifol am unrhyw adnoddau ar wefannau allanol).

Pan fydd unigolyn yn barod, efallai byddan nhw yn dewis dweud wrth bobl am eu rhywioldeb a/neu hunaniaeth rhywedd. Gelwir hyn yn: “Dod allan”. Gall fod yn gyfnod emosiynol a chynhyrfus yn ystod bywyd unigolyn. Efallai byddan nhw’n teimlo’n bryderus neu’n ofni sut y bydd teulu a ffrindiau yn ymateb ac yn eu trin nhw.

Yn aml bydd angen diogelu pobl LHDT+ fel grŵp lleiafrifol o ganlyniad i wahaniaethu a rhagfarn a elwir yn Homoffobia (gweler hefyd Deuffobia a Trawsffobia); mae hyn yn “gasineb, ofn neu anoddefiad afresymol tuag at bobl hoyw sy’n aml yn arwain at wahaniaethu, rhagfarn neu drais” (Stonewall).  Yng Nghymru a Lloegr, cafodd bron i 6600 o droseddau casineb eu nodi yn erbyn Pobl LHDT rhwng 2014-2015, ac mae’r niferoedd yma yn cynyddu. Mae pobl ifainc yn eu harddegau sy’n arddel cyfeiriadedd LHD dwywaith mor debygol o fod yn ddigartref na’u cyfoedion sy’n “syth”; mae pobl Draws* pedair gwaith yn fwy tebygol o fod yn ddigartref. Mae’r ystadegau hunanladdiad a hunan-niweidio yn debyg iawn hefyd.

Yn y Deyrnas Unedig, mae yna ddeddfau yn eu lle er mwyn diogelu pobl LHDT+ rhag gwahaniaethu. Y brif ddeddf yw Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae hyn yn diogelu pawb sydd â nodwedd warchodedig rhag gwahaniaethu. Mae yna saith nodwedd warchodedig:

  • Rhywedd
  • Oedran
  • Cyfeiriadedd Rhywiol
  • Anabledd
  • Hunaniaeth Rhywedd
  • Hil
  • Crefydd neu Ffydd

Mae yna ddeddfau hefyd sydd yn diogelu pobl yn y gweithle, yn y cartref ac o ran darpariaeth nwyddau a gwasanaethau. Yn syml, mae’n anghyfreithlon i rywun gael eu diswyddo am fod yn hoyw, neu i wrthod gadael i gwbl lesbaidd i rentu fflat, neu i beidio â gwerthu rhywbeth i unigolyn am eu bod nhw’n Draws*, er enghraifft.

Mae cyfnodau ysgol yn gallu bod yn anodd i bobl LHDT+ oherwydd bwlio. Wyt ti erioed wedi clywed rhywun yn disgrifio dillad fel “gay” oherwydd doedden nhw ddim yn eu hoffi? Neu’n ei ddefnyddio pan maen nhw’n golygu bod rhywbeth yn ddwl neu’n wirion? Dydy “Mae hynny mor gay” ddim yn ymadrodd derbyniol oherwydd 1) mae’n dramgwyddus oherwydd mae’n cael ei defnyddio mewn modd negyddol sy’n awgrymu mae bod yn hoyw yn beth gwael a 2) oherwydd dydy e ddim yn gwneud synnwyr! Sut gall ddillad fod yn hoyw?

Mae Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid Rhondda Cynon Taf wedi ymrwymo i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth a chreu mannau diogel ar draws ein holl ddarpariaeth ar gyfer pobl ifainc waeth pwy ydyn nhw, neu beth maen nhw’n credu. Rydyn ni’n gweithio mewn ysgolion a’r gwasanaeth addysg gyda Stonewall er mwyn gwneud pobl yn fwy effro i faterion LHDT, darparu rhagor o gymorth i bobl ifainc, cyfeirio pobl at yr wybodaeth ddiweddaraf a dibynadwy, a rhoi’r grym i bobl ifainc o’r grwpiau lleiafrif, megis y gymuned LHDT+, i allu dweud eu dweud.

Mae gan Stonewall, sefydliad LHDT mwyaf y Deyrnas Unedig, ymgyrch o’r enw #DimAnwybyddu / #NoBystanders ** lle mae modd addo peidio ag anwybyddu unrhyw fath o fwlio neu alw enwau (**iaith gref a sarhaus). Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi llofnodi’r addewid ac rydyn ni’n annod pawb i ddweud NA i bob math o fwlio.

Dyma restr o’r gwasanaethau sydd yn gallu cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth ynghylch materion Cyfeiriadedd Rhywiol, Hunaniaeth Rhywedd ac unrhyw faterion LHDT+ eraill:

Stonewall Cymru

Mae Stonewall yn elusen hawliau pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thraws yn y Deyrnas Unedig. Cafodd yr elusen ei henwi ar ôl terfysgoedd enwog yn dilyn cyrchoedd heddlu ar y Stonewall Inn yn Greenwich Village, Dinas Efrog Newydd. Erbyn hyn, Stonewall yw’r sefydliad hawliau LHDT mwyaf yn Ewrop.

Er mwyn ceisio help, arweiniad neu ragor o wybodaeth ynghylch Stonewall, ffoniwch y gwasanaeth gwybodaeth:
08000 50 20 20

MermaidsUK

Mae Mermaids yn frwd iawn am gynorthwyo plant, pobl ifainc a’u teuluoedd er mwyn sicrhau bywyd hapusach er gwaethaf adfyd mawr. Maen nhw’n gweithio i sicrhau bod rhagor o bobl yn effro i faterion rhywedd ymhlith gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd. Maen nhw’n ymgyrchu dros gydnabod dysfforia rhywedd mewn pobl ifainc a lobïo am welliannau mewn gwasanaethau proffesiynol.

Gwefan: http://www.mermaidsuk.org.uk/

 

The Beaumont Society

Mae’r Beaumont Society yn gorff hunan gymorth cenedlaethol sydd wedi’i gynnal gan, ac ar gyfer y gymuned trawsrywedd.

Website: http://www.beaumontsociety.org.uk/

 

Unique Transgender

Mae UNIQUE Transgender Network yn grŵp gwirfoddol sydd yn cynorthwyo pobl Draws* (trawsryweddol) yng Ngogledd Cymru a Gorllewin Sir Gaer.

Dolenni pellach: http://www.uniquetg.org.uk/translinks.html

 

Traws*Newid

Mae Traws*Newid Cymru yn brosiect tair blynedd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru er mwyn rhoi grym a chynnig cymorth i bobl ifainc traws* er mwyn iddyn nhw ddefnyddio eu hawliau. Mae’r prosiect hefyd yn cynnig cymorth i sefydliadau ieuenctid er mwyn mynd i’r afael â gwahaniaethu ac eithrio y mae pobl ifainc traws* yn aml yn eu profi.
Grŵp llywio o bobl ifainc sy’n arwain Traws*Newid Cymru, a phob un ohonynt yn arddel eu bod nhw ar y sbectrwm traws*.

Rhywbeth i ddweud?