Rhywioldeb a Iechyd Rhyw

Updated:
Dim Sylwadau

Mae iechyd rhywiol yn fwy na phenderfynu ar atal cenhedlu, a gwarchod dy hun rhag clefydau a drosglwyddir yn rhywiol. Mae’n ymwneud â gwneud dewisiadau cadarnhaol i ti a dy gariad.

Mae iechyd rhywiol a dysgu sut i edrych ar ôl dy hun yn bwysig. Gall unrhyw un sy’n cael rhyw fod mewn perygl o ddal haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI). Dyw rhai pobl ddim yn dangos unrhyw symptomau a cheir canlyniadau difrifol os na fydd yr heintiau hyn yn cael eu trin.

Ar y tudalennau hyn gall gael cyngor ynghylch newidiadau i’r corff, materion yn ymwneud ag iechyd rhywiol, fel atal cenhedlu, sut i osgoi haint a sut i gael dy brofi a thrin. Gallet ti hefyd ddarganfod gwybodaeth am dueddfryd rhywiol a hunaniaeth rhyw. 

Glasoed

Os wyt ti’n darllen y dudalen yma, yna byddi di wedi clywed am y ‘Glasoed’ – neu ‘gyrraedd dy oed aeddfedrwydd’ – ac rwyt ti’n ymwybodol y bydd newidiadau yn digwydd, neu wedi digwydd, i dy gorff a dy feddwl. Bydd dy lais yn newid, dy gorff yn newid, tyfu blew o dan dy freichiau; mae’r rhain yn brofiadau hollol newydd, ac yn rhai od iawn ar adegau!

Mae llawer o bobl yn poeni am gyfnod y Glasoed, a ph’un ai ydyn nhw’n “normal” neu beidio. Ond, mae pawb yn cyrraedd cyfnod y Glasoed, rhai yn gynt nag eraill. Ond dy gorff di sy’n penderfynu hynny. Yn ystod y cyfnod yma bydd rhyw yn cael ei ystyried yn “dipyn o beth”. Ond does dim rhaid iddi fod yn rhywbeth y dylet ti boeni amdani. Mae pob person ifanc yn ei arddegau ar y ddaear, wedi poeni am ryw! Efallai byddi di’n gofyn y cwestiynau yma i ti dy hun: Pryd mae’n ‘normal’ i gael rhyw? Beth ydw i’n ei wneud? A ddylwn i ddweud wrth rywun? A sawl cwestiwn arall. Ond, mae’r ateb yn un syml; dylet ti aros nes dy fod ti’n teimlo’n gyfforddus, yn hyderus ac yn barod cyn i ti gael rhyw. Ddylet ti ddim teimlo o dan bwysau os dwyt ti ddim yn teimlo’n barod. A does dim rhaid i ti wneud unrhyw beth oherwydd “mae pawb arall wedi” neu oherwydd mae’n “cŵl”! Does dim oedran normal i gael rhyw am y tro cyntaf, a does dim brys o gwbl. Mae’n bwysig iawn dy fod ti a’r person arall yn parchu eich gilydd.

Pan fyddi di wedi penderfynu dy fod ti’n barod, mae yna bethau y gallet ti wneud er mwyn dy gadw di a dy bartner/partneriaid rhywiol yn ddiogel. Er bod rhyw yn hollol normal, mae yna beryglon megis mynd yn feichiog neu gael clefydau a drosglwyddir yn rhywiol. Dyma rai pethau y dylet ti wybod amdanyn nhw:

  • Does dim un dull atal cenhedlu (contraception) yn effeithiol 100%, ond defnyddio condom yw’r modd mwyaf effeithiol i ddiogelu rhag beichiogrwydd a heintiau.
  • Er mwyn osgoi beichiogrwydd annisgwyl, mae yna sawl math o atalwyr cenhedlu ar gael gan gynnwys y bilsen gyfunol, pigiad atal cenhedlu, dyfeisiau mewngroth (coil) ymhlith sawl dull arall. Does dim dull atal cenhedlu ar gael ar gyfer dynion ar hyn o bryd ond mae’r gwyddonwyr yn gweithio arni. Bydd ymarferydd iechyd rhywiol yn gallu rhoi cyngor i chi ar ba ddull sydd fwyaf addas.
  • Os oes angen dull atal cenhedlu neu driniaeth brys, er enghraifft y bilsen “trannoeth”, bydd angen i ti fynd i weld dy Feddyg, mynd i glinig GUM neu Fferyllfa cyn gynted â phosib. Yn anaml iawn y bydd y driniaeth yma yn effeithiol ar ôl 72 – 105 awr. Felly gorau po gyntaf y byddi di’n ei chael, gorau oll. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Ar y wefan mae yna Beiriant Pori Fferyllfeydd a Pheiriant Pori Clinigau
  • Os wyt ti’n ofni dy fod ti wedi cael rhyw gyda rhywun sydd â HIV yna dylet ti ofyn i’r clinig GUM clinic neu’r adran Damweiniau ac Achosion Brys am driniaeth PEP (Post-Exposure Prophylaxis) o fewn 24 – 72 awr o gael rhyw. Does dim modd i Feddygon Teulu roi presgripsiwn ar gyfer PEP.

Ar y mater hynny, mae yna un cwestiwn yn benodol yr ydyn ni’n ei glywed yn aml iawn – oes modd i mi weld y Meddyg Teulu neu ymarferydd iechyd heb orfod mynd gyda fy rhieni? Yr ateb yw oes, ar yr amod dy fod ti’n 16 oed neu’n hŷn. Os wyt ti’n 14 oed neu’n hŷn, yna mae modd i ti ymweld â’r clinig GUM neu’r nyrs iechyd meddwl heb dy rieni a fyddan nhw ddim yn dweud wrth dy Feddyg Teulu am yr ymweliad ONI BAI eu bod nhw’n tybio dy fod di mewn perygl; yna mae’n RHAID, yn gyfreithiol, iddyn nhw drosglwyddo dy fanylion i asiantaeth allanol sy’n gallu dy gynorthwyo di. Bydd hyn yn digwydd mewn sefyllfa lle rwyt ti, er enghraifft, yn iau nag 16 oed ac yn feichiog neu fod gyda ti haint a drosglwyddir yn rhywiol.

Dyma restr o’r gwasanaethau sydd yn gallu cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth ynghylch materion iechyd rhywiol, dulliau atal cenhedlu, HIV a materion eraill:

Terrence Higgins Trust (THT)

Mae gwefan THT yn dweud: We are the largest voluntary sector provider of HIV and sexual health services in the UK, running services out of local centres across Great Britain.

THT Direct: 080880 21221          Dod o hyd i wasanaeth lleol

Brook

Gwybodaeth gyfrinachol ac am ddim ar gyfer pobl o dan 25 oed.

AskBrook24/7

Gwefan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG)

Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn system gofal iechyd cenedlaethol a ariennir yn gyhoeddus ar gyfer Y Deyrnas Unedig

Dod o hyd i Fferyllfa

Chwilio am Glinig

Family Planning Association (FPA)

Mae gwefan yr FPA yn dweud: We’re a sexual health charity. We give straightforward information and support on sexual health, sex and relationships to everyone in the UK.

Heintiau a Drosglwyddir trwy Ryw (STIs)

Os oes gan rywun haint mae’n bosib ei throsglwyddo i rywun arall drwy ryw faginol, rhyw rhefrol (anal) neu ryw geneuol (oral). Haint a drosglwyddir drwy ryw (STI), neu afiechyd a drosglwyddir drwy ryw (STD) yw’r enw ar y math yma o haint.

Gall unrhyw un sy’n cael rhyw ddal STI, boed yn ddyn neu’n ddynes, yn heterorywiol neu’n gyfunrywiol. Ni fydd pawb sydd ag STI yn dangos symptomau ac weithiau gallan nhw fynd a dod.

Os wyt ti’n amau bod gen ti STI, cer i weld dy Feddyg Teulu ar unwaith. Paid â theimlo embaras; mae’n bwysig iawn i dy iechyd dy fod di’n cael triniaeth yn syth.

Mathau o STI

Clamydia

Clamydia yw un o’r STIs mwyaf cyffredin, ond os na fydd yn cael ei drin fe all achosi i ti ddod yn anffrwythlon. Bacteria mewn semen a hylif o’r fagina sy’n ei achosi, ac felly mae’n hawdd ei drosglwyddo o berson i berson yn ystod gweithgareddau rhywiol.

Mae defnyddio condom yn gallu lleihau’r tebygrwydd o’i ddal. Ni fydd o leiaf hanner yr holl ddynion a merched sydd â’r haint yma’n dangos unrhyw symptomau o gwbl. Ond ymhlith y symptomau mae:

  • I Ferched:
    • Rhedlif anarferol o’r fagina
    • Poen wrth bi-pi
    • Gwaedu rhwng mislifoedd
    • Gwaedu ar ôl rhyw neu yn ystod rhyw
    • Poen yng ngwaelod y bol
  • I Ddynion
    • Rhedlif gwyn/cymylog a dyfrllyd o’r pidyn
    • Poen wrth wneud bi-pi
    • Y ceilliau’n chwyddo’n boenus

Gall clamydia heintio’r llygaid a’r gwddf hefyd.

Mae’r driniaeth ar gyfer Clamydia yn syml ac yn effeithiol – dim ond cwrs o dabledi antibiotig. Hyd yn oed os nad wyt ti’n dangos unrhyw symptomau, efallai byddi di eisiau cael prawf, yn enwedig os wyt ti wedi cael rhyw heb gondom neu os yw dy bartner wedi dal STI. Cer i weld y Meddyg Teulu neu’r clinig iechyd rhywiol i gael prawf.

Syffilis

Mae syffilis yn gymharol brin ond gall achosi problemau iechyd hynod ddifrifol os na fydd yn cael ei drin.

Bacteria sy’n gallu trosglwyddo rhwng dau o bobl trwy gyswllt rhywiol sy’n ei achosi. Gall ddefnyddio condom atal yr haint rhag lledaenu trwy ryw faginol, rhyw rhefrol a rhyw geneuol.

Mae symptomau syffilis yr un fath i ddynion a merched, ond mae’n hawdd peidio â sylwi arnyn nhw. Yn eu plith mae:

  • Cyfnod 1: bydd un briw neu fwy yn ymddangos ar y corff, fel arfer o amgylch yr organau cenhedlu, yr anws neu’r geg. Mae’r rhain yn heintus iawn
  • Cyfnod 2: brech ddi-boen, tyfiannau fflat fel dafadennau ar yr organau cenhedlu a’r anws, salwch tebyg i’r ffliw, blinder, colli awydd bwyd a chwarennau (glands) wedi chwyddo, darnau gwyn yn y geg a cholli gwallt mewn mannau ar y pen

Os bydd yn mynd heb ei drin am flynyddoedd, gall niweidio’r galon, yr ymennydd, y llygaid, yr esgyrn a’r system nerfol. Fe allai fod yn farwol erbyn y cyfnod yma.

Cer i weld y Meddyg Teulu neu’r clinig iechyd rhywiol i gael prawf – un pigiad antibiotig yw’r driniaeth, neu gwrs o dabledi, fel Penisilin.

Gonorea

Mae gonorea yn dod yn fwy cyffredin a gall achosi ti i ddod yn anffrwythlon os nad yw’n cael ei drin.

Bacteria sy’n gallu trosglwyddo rhwng dau o bobl yn ystod cyswllt rhywiol sy’n ei achosi. Os wyt ti’n defnyddio condom yn ystod rhyw faginol, rhyw rhefrol neu ryw geneuol fe fyddi di’n llai tebygol o ddal yr haint neu ei ledaenu. Mae hi hefyd yn bosib trosglwyddo’r haint o’r organau cenhedlu i’r llygaid ar y bysedd.

Ni fydd 10% o ddynion a 50% o ferched sydd â’r haint yma’n dangos unrhyw symptomau.

Ymhlith y symptomau yn achos merched mae:

  • Rhedlif anarferol o’r fagina – trwchus, dyfrllyd neu felyn/gwyrdd ei liw
  • Poen wrth bi-pi
  • Poen yng ngwaelod y bol

Ymhlith y symptomau yn achos dynion mae:

  • Rhedlif gwyn, melyn neu wyrdd o flaen y pidyn
  • Poen wrth bi-pi
  • Poen yn y ceilliau

Ni fyddi di’n gwybod os wyt ti wedi dal yr haint heb brawf, gall wneud hyn yn y feddygfa leol neu glinig iechyd rhywiol. Mae’r driniaeth yn effeithiol iawn, a dyw’n ddim mwy nag un dos o antibiotigau.

Dafadennau cenhedlol

Dafadennau cenhedlol yw’r STI mwyaf cyffredin. Maen nhw’n cael eu hachosi gan firws o’r enw firws papiloma dynol (HPV) ac maen nhw’n cael eu trosglwyddo o’r naill berson i’r llall trwy gyswllt rhywiol.

Mae yna dros 100 math o HPV a bydd y gwahanol fathau’n effeithio ar wahanol rannau o’r corff, fel y dwylo, y traed neu’r organau cenhedlu. Gallan nhw fod yn weladwy neu’n anweladwy. Ni fydd gan y rhan fwyaf o bobl â’r haint yma unrhyw symptomau na dafadennau i’w gweld. Bydd dafadennau gweladwy yn amrywio o dyfiannau neu lympiau bach, cigog i lympiau pinc mawr sy’n edrych fel blodfresych. Fel arfer maen nhw’n fach iawn ac yn ddi-boen.

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd edrych ar y corff yn ddigon i feddyg neu nyrs weld a yw’r firws gen ti. Mae modd cael gwared â dafadennau cenhedlol trwy baentio cemegyn hylifol arnyn nhw, defnyddio eli arnyn nhw adref, eu rhewi (rhew driniaeth), eu gwresogi (electroserio), llawdriniaeth neu driniaeth laser.

Llau pwbig

Mae llau pwbig (weithiau gelwir yn ‘crabs’) yn bryfed mân parasitig sy’n byw mewn blew cedor. Maen nhw’n felyn-llwyd, tua 2mm o hyd ac maen nhw’n edrych fel crancod.

‘Llau’ ydy’r wyau sy’n ymddangos fel dotiau brownaidd ynghlwm wrth y blew. Mae’n hawdd trosglwyddo llau pwbig rhwng y naill unigolyn a’r llall trwy gyswllt corfforol agos neu weithgarwch rhywiol. Mae’n bosib na fydd rhai pobl yn sylwi ar y llau neu’r wyau yn eu blew.

Ymhlith y symptomau eraill mae:

  • Cosi neu lid (irritation) yn y rhan o’r corff maen nhw ynddi
  • Tail du powdrog y llau mewn dillad isaf
  • Wyau brown ar y blew
  • Sbeciau mân o waed ar y croen

Bydd edrych am lau yn ddigon i feddyg neu nyrs weld a oes rhai, ac mae modd eu trin ag eli neu siampŵ.

Clefyd crafu

Gwiddon (mites) bychain parasitig sy’n tyrchu dan y croen ac yn dodwy wyau sy’n achosi clefyd crafu. Mae’n hawdd ei drosglwyddo rhwng y naill unigolyn a’r llall trwy gyswllt corfforol agos neu weithgaredd rhywiol.

Gall y symptomau gynnwys:

  • Cosi dwys
  • Brech neu smotiau mân sy’n goslyd
  • Llid neu groen amrwd

Mae’n amhosib gweld y widdon â’r llygad noeth. Yn aml, bydd meddyg neu nyrs yn gallu dweud os oes gen ti glefyd crafu trwy edrych ar y croen, ac mae’n hawdd ei drin â hufen neu eli.

Herpes Cenhedlol

Maw’n cael ei achosi gan firws heintus iawn sy’n cael ei ledaenu drwy gyswllt rhywiol. Gellir ei drosglwyddo’n hawdd o’r naill unigolyn i’r llall yn ystod rhyw gyda rhywun sydd yn torri allan gyda herpes cenhedlol ar y pryd, neu drwy gyswllt croen-i-groen gyda dolur.

Gall y symptomau gynnwys:

  • Swigod neu ddoluriau allanol neu fewnol o amgylch yr organau cenhedlu neu’r anws, a fydd yn byrstio’n gyflym gan adael doluriau bach coch
  • Pigo, goglais neu gosi o gwmpas yr organau cenhedlu neu’r anws
  • Symptomau tebyg i’r ffliw, fel gwres, blinder, chwarennau wedi chwyddo, poenau
  • Poen wrth bi-pi

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd meddyg neu nyrs yn gallu dweud os oes gen ti herpes drwy edrych, ond efallai y byddan nhw’n defnyddio swab i gasglu sampl o hylif hefyd. Mae triniaeth yn golygu cymryd tabledi gwrthfirol.

HIV ac AIDS

Mae HIV yn sefyll am ‘Human Immunodeficiency Virus’ a haint feirol ydyw sy’n ymosod ar system imiwnedd y corff. Yn y rhan fwyaf o achosion, fe fydd angen help cyffuriau gwrth-HIV ar y system imiwnedd i gadw’r firws dan reolaeth, ond ni allan nhw gael gwared â’r firws yn llwyr.

Mae AIDS yn sefyll am ‘Acquired Immune Deficiency Syndrome’ ond mae HIV datblygedig yn enw arall arno. Mae’n disgrifio’r adeg pan na fydd system imiwnedd rhywun yn gallu ymdopi mwyach oherwydd y difrod mae HIV wedi’i achosi. Ni fydd pobl yn marw o AIDS, maent yn marw o’r canserau, niwmonia a chyflyrau eraill mae’r corff yn methu ag ymladd yn eu herbyn oherwydd ei system imiwnedd wan.

Mae modd trosglwyddo HIV o lif gwaed un unigolyn i lif gwaed un arall mewn sawl ffordd:

  • Semen a hylif semenol sy’n cael ei ryddhau cyn had-dafliad
  • Hylifau o’r fagina, gan gynnwys hylifau mislifol (y mislif)
  • Llaeth o’r fron
  • Gwaed

Mae yna ffyrdd o leddfu’r risg:

  • Defnyddia gondom bob amser yn ystod gweithgaredd rhywiol a chyfathrach rywiol. Bach yw’r risg yn ystod rhyw geneuol, ond mae risg yn dal i fod yno
  • Dylai pobl sy’n chwistrellu cyffuriau i’w gwythiennau ddefnyddio nodwyddau ffres bob amser a pheidio byth â rhannu offer cyffuriau gydag unrhyw un arall

Nid yw’n bosib dal HIV trwy gyffwrdd â rhywun heintus neu drwy rannu cwpanau, gwydrau a chyllyll a ffyrc, tyweli neu seddau toiled.

Mae prawf HIV yn dangos a oes haint HIV ar rywun. Nid prawf AIDS ydyw. Mae’n gweithio trwy edrych am y gwrthgyrff y mae corff rhywun heintus yn eu creu a dyw’n ddim mwy na phrawf gwaed syml. Mae’n bosib na fydd cael prawf llai na thri mis ar ôl dyddiad posib dal yr haint yn rhoi canlyniad manwl-gywir gan na fydd digon o wrthgyrff wedi’u cynhyrchu o bosib.

Nid oes gwellhad i HIV ar hyn o bryd.

Ni fydd y rhan fwyaf o heintiau a drosglwyddir trwy ryw yn dangos unrhyw symptomau o gwbl ond gallan nhw niweidio dy iechyd yn ddifrifol. Os wyt ti’n dioddef o unrhyw symptomau neu os wyt ti wedi cael rhyw heb ddefnyddio condom, mae’n bwysig dy fod di’n mynd i weld dy Feddyg Teulu, y clinig cynllunio teulu neu’r clinig iechyd rhywiol cyn gynted â phosib i gael prawf a dechrau unrhyw driniaeth angenrheidiol.

Mae’r meddygon a’r nyrsys wedi gwneud y profion sawl gwaith o’r blaen, felly paid â theimlo embaras. Ni fyddan nhw’n dweud wrth dy rieni neu warcheidwad ac mae’r profion yn gyfrinachol.

Os wyt ti’n dioddef o STI, cysyllta â’r partneriaid rwyt ti wedi’u cael yn y gorffennol i roi gwybod iddyn nhw, fel y gallan nhw gael prawf hefyd.

Efallai dy fod di’n teimlo embaras, ond fe allai cael prawf achub dy fywyd.

Atal Cenhedlu

I osgoi mynd yn feichiog, dylai bob amser ddefnyddio rhyw ddull atal cenhedlu yn ystod rhyw, ond dydy’r mwyafrif ddim yn amddiffyn ti o heintiau trosglwyddir drwy ryw (STIs).

Mae yna lawer o wahanol fathau o ddulliau atal cenhedlu a bydd gwahanol ddulliau yn addas i wahanol bobl.

Mae’r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid yn gweithio’n agos gyda’r garfan iechyd rhywiol ledled Rhondda Cynon Taf. Mae sawl aelod o’n staff yn gallu cynnig condomau am ddim i bobl 14 – 25 oed mewn Darpariaeth Estynedig. Mae pob ysgol yn RhCT yn cynnal darpariaeth estynedig rhwng 5pm ac 8pm am o leiaf dwy noswaith yr wythnos. Bydd Swyddog Ymgysylltu Ieuenctid yn dy ysgol yn gallu rhoi gwybodaeth i ti am y Cynllun Cerdyn-C, os ydyn nhw’n cynnal y cynllun yn dy glwb di. Mae modd dod o hyd i dy glwb lleol dan ddolen ‘Beth Sydd ‘Mlaen’ WICID.

Paid â phoeni os dydy’n cynllun ddim ar gael yn dy ysgol di. Mae yna sawl lle ar gael sy’n cynnig condomau a gwasanaethau a chyngor iechyd rhywiol eraill, gan gynnwys atalwyr cenhedlu, profion heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, ac mae rhai yn cynnig sesiynau ‘YAS’ yn benodol ar gyfer pobl ifainc. Os wyt ti’n teimlo dy fod ti wedi cymryd risg, wedi cael rhyw heb fod yn ddiogel, neu os hoffet ti gael cyngor, mae modd dod o hyd i wasanaethau iechyd rhywiol ar  wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.

Condomau Gwrywaidd

  • Wedi’i wneud o latecs tenau iawn, bydd condom yn cael ei osod dros y pidyn pan fydd ar ei godiad i atal sberm rhag mynd i mewn i fagina’r ferch
  • Mae condomau yn effeithiol 98% os byddan nhw’n cael eu defnyddio’n iawn
  • Fe allan nhw amddiffyn partneriaid rhag mynd yn feichiog a’u hamddiffyn rhag heintiau a drosglwyddir trwy ryw, fel HIV – gweler adran Heintiau a Drosglwyddir Trwy Ryw (STIs)
  • Mae condomau ar gael yn rhad ac am ddim mewn unrhyw glinig cynllunio teulu, clinig iechyd rhywiol a llefydd sydd yn cymryd rhan yn y Cynllun Cerdyn C
  • Gall hefyd prynu condomau mewn fferyllwyr, archfarchnadoedd a pheiriannau gwerthu mewn toiledau
  • Mae’n rhaid defnyddio condom newydd bob tro byddi di’n cael rhyw
  • Dylai dim ond defnyddio condomau gyda Nod Barcud BSI (BS EN 600) a Nod CE ar y pecyn
  • Edrycha am y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ cyn defnyddio condom bob tro ac os ydy’r pecyn yn edrych fel ei fod wedi difrodi, mae’n debyg bod y condom wedi hefyd
  • Os wyt ti’n defnyddio ireidiau (lubrication) wedi’i selio ar olew (e.e. hufen dwylo, faselin) gallai ddifrodi condomau latecs felly mae’n bwysig osgoi’r rhain a defnyddio ireidiau wedi’i selio ar ddŵr
  • Mae condomau heb latecs hefyd ar gael yn eang

Y bilsen atal cenhedlu

  • Gelwir hefyd yn bilsen gyfunol, y bilsen atal cenhedlu cyfunol neu’n syml, y bilsen, dros 99% yn effeithiol os bydd yn cael ei defnyddio yn iawn ac yn cael ei chymryd bob dydd gan y merched i atal dod yn feichiog
  • Ni fydd y bilsen yn amddiffyn partneriaid rhag heintiau a drosglwyddir trwy ryw
  • Mae’r bilsen yn gweithio trwy ddefnyddio dau hormon – estrogen a phrogestin – i atal ofyliad (pan fydd yr ofari yn rhyddhau wy)
  • Gall leddfu poenau’r mislif a lleihau’r gwaedu yn ystod y mislif
  • Nid yw’r bilsen yn addas ar gyfer pob merch a gall fod â sgïl-effeithiau prin ond difrifol, fel clotiau gwaed (thrombosis), canser y fron a chanser ceg y groth (cervical)
  • Nid yw’n addas ar gyfer ysmygwyr
  • Os wyt ti’n fwy na 12 awr yn hwyr yn cymryd y bilsen, cofia ddefnyddio condom bob tro y byddi di’n cael rhyw yn ystod y saith diwrnod nesaf gan ei bod yn bosib nad wyt ti wedi dy amddiffyn
  • Mae’n bosib na fydd y bilsen yn gweithio os wyt ti’n chwydu neu’n dioddef o’r dolur rhydd, felly defnyddia gondom os wyt ti’n meddwl nad wyt ti wedi dy amddiffyn
  • Mae yna wahanol fathau o’r bilsen atal cenhedlu. Cer i’r clinig cynllunio teulu neu i’r Meddyg Teulu i gael gwybod pa un sy’n iawn i ti

Dull Atal Cenhedlu Gwrthdroadwy Hirdymor (LARC)

Mae’r mathau yma o atal cenhedlu yn parhau am dros fis.

Unwaith byddant mewn lle nid oes rhaid meddwl amdanynt nes bydd angen rhoi un arall yn ei le. Mae LARCs yn cychwyn gweithio yn sydyn iawn, yn gildroadwy , yn addas ar gyfer merched o bob oedran a ddim yn effeithio ar dy ffrwythlondeb. Maent 99% yn effeithiol.

Mae yna bedwar math o LARC:

  • Y System Mewngroth (IUS) – Mae dyfais fach siâp T plastig yn cael ei osod yn y groth gan ddoctor neu nyrs ac mae’n rhyddhau’r hormon progestin yn araf. Mae’n gweithio am bum mlynedd
  • Y Ddyfais Fewngroth (IUD) – Mae dyfais blastig a chopr yn cael ei osod yn y groth gan ddoctor neu nyrs. Mae’n gweithio am hyd at 10 mlynedd yn ddibynnol ar y math
  • Pigiad atal cenhedlu (Depo) – Pigiad sy’n cael ei roi bob 11-12 wythnos yn y feddygfa deuluol neu glinig iechyd rhywiol
  • Mewnblaniad – tiwb bach hyblyg sy’n cael ei roi o dan y croen yn rhan uchaf y fraich. Mae’n rhyddhau’r hormon progestin yn araf bach. Mae’n gweithio am dair blynedd
  • Mae’r holl fathau yma o atal cenhedlu yn rhad ac am ddim ac ar gael gan y Meddyg Teulu neu glinig iechyd rhywiol lleol

Mae LARCs yn atal beichiogrwydd. Nid ydynt yn amddiffyn rhag heintiau trosglwyddir drwy ryw (STIs). Condom ydy’r unig ffurf o atal cenhedlu sydd yn amddiffyn rhag STIs. Gall pobl ifanc rhwng 13-25 gael condomau am ddim drwy’r Cynllun Cerdyn C.

Am wybodaeth bellach am LARC ymwela â http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/60025 neu www.fpa.org.uk.

Gall hefyd wneud apwyntiad gyda’r Meddyg Teulu neu glinig iechyd rhyw leol i siarad am dy opsiynau.

Mathau eraill o atal cenhedlu:

  • Y condom i ferched – Mae condomau i ferched fel condomau i ddynion ond eu bod nhw’n cael ei osod yn y fagina yn lle ar y pidyn. Maent yn 95% yn effeithiol mewn atal beichiogrwydd os ydynt yn cael eu defnyddio’n gywir bob tro ti’n cael rhyw
  • Y diaffram – Mae diaffram atal cenhedlu yn cael ei osod yn y fagina cyn rhyw, ac mae’n gorchuddio gwddf y groth fel nad all sberm gael at y groth. Bydd angen defnyddio sbermleiddiad (spermicide) gydag ef (mae’n lladd sberm). Mae’n rhaid i’r diaffram gael ei adael am o leiaf chwe awr ar ôl rhyw. Ar ôl hynny ti’n tynnu’r diaffram allan ac yn ei olchi. Gall ddefnyddio nhw drosodd a throsodd. Mae diafframau yn dod mewn meintiau gwahanol – mae’n rhaid i ti gael dy ffitio am y maint cywir gan ddoctor neu nyrs hyfforddedig
  • Y Cap (92-96% yn effeithiol) – Mae’r cap yn gromen fach rwber sydd yn ffitio i mewn yn y fagina ac yn mynd dros geg y groth ac mae angen defnyddio sbermleiddiad gydag ef. Mae’n rhaid i’r cap gael ei adael am o leiaf chwe awr ar ôl rhyw. Ar ôl hynny ti’n tynnu’r cap allan ac yn ei olchi. Gall ddefnyddio nhw drosodd a throsodd. Maent yn dod mewn meintiau gwahanol – mae’n rhaid i ti gael dy ffitio am y maint cywir gan ddoctor neu nyrs hyfforddedig
  • Pilsen progestin yn unig (99% yn effeithiol) – yn atal ofyliad. Yn addas ar gyfer ysmygwyr
  • Clwt Atal Cenhedlu – Mae’r clwt atal cenhedlu yn glwt gludiog (patch), yn debyg i’r clwt nicotin, yn mesur 5x5cm. Mae’n rhoi hormonau yn dy gorff trwy’r croen. Ym Mhrydain enw’r brand ydy Evra. Mae’n cynnwys yr un hormonau ag sydd yn y bilsen gyfunol, ac mae’n gweithio yn yr un ffordd
  • Modrwy Fagina – Mae modrwy fagina yn fodrwy fach plastig medal sydd yn cael ei osod yn y fagina. Mae tua 4mm o dewder a 5.5cm o ddiamedr. Mae’n cael ei adael yn y fagina am 21 diwrnod, yna mae’n cael ei dynnu a’i luchio yn y bin (nid i lawr y toiled) mewn bag arbennig. Mae’r fodrwy yn rhyddhau estrogen a phrogestin
  • Anffrwythloni benywaidd (dros 99% yn effeithiol) – yn torri’r tiwbiau Ffalopaidd yn barhaol i atal sberm rhag cyrraedd wy. Mae angen llawdriniaeth ar gyfer hyn
  • Anffrwythloni gwrywaidd (dros 99% yn effeithiol) – yn torri’r tiwbiau sy’n cario’r sberm fel nad oes yna unrhyw sberm yn y semen. Mae’n barhaol ac mae angen llawdriniaeth ar ei gyfer. Mae yna ffyrdd o wrthdroi’r anffrwythloni yma, ond mae’n anodd ac yn ddrud

Os oes gen ti unrhyw gwestiynau ynglŷn â dewis dull atal cenhedlu, beichiogrwydd neu heintiau a drosglwyddir trwy ryw, cer i weld y Meddyg Teulu neu’r clinig cynllunio teulu i gael cyngor, neu weler y dolenni isod.

Dulliau atal cenhedlu brys

Os wyt ti wedi cael rhyw heb ddefnyddio dull atal cenhedlu, neu ti’n meddwl efallai bod y dull wedi methu, mae yna ddau gam brys gall eu cymryd:

  • Pils brys (neu’r bilsen bore wedyn) – Mae’r rhain ar gael yn rhad ac am ddim oddi wrth y clinig cynllunio teulu lleol neu’r Meddyg Teulu, ac mae’n rhaid eu cymryd hyd at 72 awr (tri diwrnod) ar ôl rhyw i fod yn effeithiol. Gorau po gyntaf y byddi di’n eu cymryd. Gall hefyd eu prynu o’r fferyllydd os wyt ti’n 16 oed neu’n hŷn, am tua £20
  • IUD – gweler gwybodaeth uchod. Gall hwn gael ei ffitio hyd at bum diwrnod ar ôl rhyw

Cofia, mae yn erbyn y gyfraith ym Mhrydain i gael rhyw os wyt ti o dan 16 oed, gweler adran Gweithgaredd Rhywiol. 

Gweithgaredd Rhywiol

Oedran cydsynio ar gyfer cyfathrach rywiol heterorywiol a chyfunrywiol yn Lloegr a Chymru ydy 16 oed.

Golygai hyn ei fod yn anghyfreithlon i gymryd rhan mewn rhyw dreiddgar (penetrative), rhyw geneuol (oral) neu mastwrbio y naill i’r llall o dan 16 oed. Nid yw’r gyfraith yn bodoli i wneud bywyd yn anodd.

Mae’n bodoli i amddiffyn pobl. Mae pawb yn barod am ryw ar oedrannau gwahanol. Ond mae’n rhaid i’r gyfraith gyffredinoli er mwyn amddiffyn y rhai mwyaf bregus rhag ecsploetiaeth.

  • Mae cyfathrach rywiol yn digwydd pan fydd pidyn dyn yn mynd i mewn i fagina merch. Dyma sut mae’r dynol ryw yn atgenhedlu
  • Mae gweithgaredd rhywiol yn unrhyw weithgaredd sy’n gysylltiedig â chyfathrach rywiol
  • Yn ystod gweithgaredd rhywiol, efallai byd y dyn a/neu’r ddynes yn cael orgasm. Mae hyn yn deimlad dwys pleserus
  • Yn ystod orgasm, gallai dyn gael alldafliad (ejaculation) a rhyddhau semen o ben ei bidyn. Gweler adran Organau Cenhedlu Gwryw am wybodaeth bellach
  • Gall sberm sydd yn dod o’r pidyn fynd i mewn i’r fagina os nad oes dull atal cenhedlu yn cael ei ddefnyddio, fel condomau. Gweler adran Atal Genhedlu am wybodaeth bellach
  • Os nad yw’r sberm yn wynebu rhwystr byddant yn nofio trwy wddf y groth (cervix), i mewn i’r groth (womb) ac i mewn i’r tiwbiau Ffalopaidd. Os oes wy yn y tiwb, bydd y sberm yn ceisio’i ffrwythloni. Os ydynt yn llwyddiannus, bydd y ferch yn dod yn feichiog. Gweler adran Beichiogrwydd am fanylion pellach
  • Y ffordd gorau i osgoi beichiogrwydd digroeso ydy i beidio cael rhyw. Mae cyplau sydd yn dewis cael rhyw yn gallu defnyddio dulliau atal genhedlu, sydd hefyd yn gallu atal heintiau a drosglwyddir drwy ryw, ond mae’n rhaid iddynt gofio nad oes unrhyw ddull yn llwyddiannus 100% yn gwneud yr un o’r tasgau hyn
  • Heblaw am yr oedran cydsynio cyfreithiol (16), nid oes ‘oedran cywir’ i gael rhyw am y tro cyntaf. Mae nifer o bobl yn disgwyl nes maent yn teimlo’n barod ac efo partner sefydlog
  • Pa bynnag oed wyt ti’n teimlo sy’n gywir, mae’n bwysig cofio bod rhyw yn gallu golygu beichiogrwydd a ti angen bod yn barod am hynny
  • Mae’r penderfyniad pryd i gael rhyw yn bwysig ac ni ddylet ti deimlo pwysau i wneud dim
  • Cofia pan mae dy ffrindiau di’n dweud eu bod nhw wedi cael rhyw, efallai nad ydynt yn dweud y gwir
  • Dy gorff di ydyw, felly dy benderfyniad di ydyw. Gwna’n sicr dy fod di’n barod, dweud wrth rywun ti’n gallu ymddiried ynddynt a chael y dull atal cenhedlu cywir cyn i ti fynd ymhellach
  • Cofia, mae’n anghyfreithlon cael rhyw o dan 16 oed

Gweithgareddau rhywiol eraill

  • Rhyw geneuol ydy pan fydd un person yn defnyddio ei geg a’i dafod i gyffroi organau cenhedlu person arall
  • Mastwrbio ydy pan ti’n cyffwrdd organau cenhedlu dy hun neu rywun arall i roi pleser
  • Mae rhyw rhefrol treiddiol (penetrative anal sex) yn digwydd pan fydd pidyn dyn ar ei godiad, neu fys neu rywbeth yn cael ei roi i mewn i anws person arall

Os wyt ti’n poeni am ryw, atal cenhedlu neu feichiogrwydd, yna siarada gyda rhywun fedri di ymddiried ynddynt neu ymwela â’r Meddyg Teulu neu glinig cynllunio teulu. Maent yno i wrando a rhoi cyngor.

 

Y Mislif a PMS

Mislif

  • Mislif yw’r adeg pan fydd gwaed yn pasio trwy’r fagina. Bydd yn cychwyn yn ystod y glasoed, fel arfer rhwng wyth ac 16 oed er bod y mwyafrif o enethod yn dechrau o gwmpas 12
  • Pan fydd merched yn cael eu geni, fe fydd ganddyn nhw filoedd o wyau y tu mewn i’w hofarïau. Pan fyddi di’n cyrraedd y glasoed, bydd un wy yn cael ei ryddhau o’r ofarïau bob mis, a bydd yn teithio trwy’r tiwb Ffalopaidd i mewn i’r croth. Gweler adran Glasoed
  • Bob mis, bydd dy gorff yn paratoi ar gyfer y posibilrwydd o ddod yn feichiog a daw ei leinin yn drwchus ac yn feddal, yn barod ar gyfer babi. Gweler adran Beichiogrwydd
  • Os na fydd yr wy yn cael ei ffrwythloni, bydd y corff yn rhoi gwybod i’r leinin a bydd yr wy yn dod allan o’r corff trwy’r fagina ar ffurf mislif. Mae’r wy yn rhy fach i’w weld â’r llygad noeth
  • Yna bydd y broses yn dechrau eto. Cylchred y mislif yw’r enw ar yr amser rhwng un mislif a’r nesaf, a gall hwn amrywio o’r naill ferch i’r llall. Bydd fel arfer yn cymryd rhyw fis, er yn ystod yr ychydig flynyddoedd cyntaf fe all fod yn fwy afreolaidd Bydd y mislif yn para rhwng dau ac wyth diwrnod fel arfer, ond mae pawb yn wahanol
  • Gall fod yn beth cyffrous a brawychus cael dy fislif cyntaf, felly ceisia siarad â dy fam, gwarcheidwad neu ferch sy’n oedolyn – fe fyddan nhw’n gallu cynnig cyngor a chefnogaeth i ti
  • Mae mislif merch yn parhau nes diwedd y mislif, sydd fel arfer yn digwydd yn dy bedwardegau hwyr i ganol y pumdegau
  • Mae dy gorff yn cynhyrchu swm gwahanol o hormonau ar wahanol gyfnodau yn ystod cylchred y mislif. Gallai hyn achosi newidiadau yn dy gorff ac emosiynau

Cynhyrchion ar gyfer y mislif

  • Yn ystod y mislif, bydd angen cynhyrchion fel tamponau neu dyweli arnat ti. Gall brynu’r rhain mewn unrhyw archfarchnad, siop leol ac mewn rhai toiledau cyhoeddus
  • Mae tyweli yn amsugno’r gwaed wrth iddo adael y corff wrth lynu ar du mewn dy ddillad isaf
  • Mae tamponau yn ffitio i mewn yn y fagina i amsugno’r gwaed cyn iddo adael y corff
  • Mae’n ddewis personol pa gynnyrch rwyt ti am ei ddefnyddio
  • Mae’n rhaid newid tyweli a thamponau sawl gwaith y dydd, bob rhyw bedair awr fel arfer, a chofia bob amser i olchi dy ddwylo cyn ac ar ôl gwneud hynny
  • Os wyt ti’n cael brech, dolur gwddf, cur pen, gwres sydyn neu ddolur rhydd, neu os wyt ti’n cyfogi, rho’r gorau i ddefnyddio tamponau ar unwaith a cher i weld y meddyg yn syth – mae’n bosib dy fod di’n dioddef o haint facteriol o’r enw Syndrom Sioc Wenwynig, sy’n gallu bod yn ddifrifol iawn

Syndrom Cyn Mislif (PMS)

PMS yw’r symptomau corfforol a seicolegol y gall merch ddioddef ohonyn nhw ychydig cyn i’w mislif ddechrau, a bydd y rhain yn tueddu i wella unwaith y bydd y gwaedu’n cychwyn. Mae’n effeithio ar un ferch o bob tair, ac ystyrir ef yn gyflwr meddygol

Symptomau

Mae yna fwy na 150 o symptomau PMS, gan gynnwys:

    • Iselder a chynnwrf
    • Bronnau tyner
    • Dargadw hylif a theimlo wedi chwyddo
    • Hwyliau’n newid a theimlo’n flin
    • Cur pen
    • Newidiadau i’r croen a’r gwallt (fel sbotiau a gwallt seimllyd)

Nid oes neb yn gwybod union achos PMS ond y gred yw bod cysylltiad rhyngddo a newidiadau i’r hormonau yn y corff cyn mislif

Mae yna ffyrdd o leddfu symptomau PMS, gan gynnwys:

    • Diet heb lawer o halen, braster a chaffein
    • Fitaminau B6 ac E
    • Olewau blodau fel Olew Melyn yr Hwyr (Oil of Evening Primrose)
    • Y bilsen atal cenhedlu (siarada gyda meddyg yn gyntaf)

Os wyt ti’n dioddef o PMS eithafol neu rai o’i symptomau, cer i weld y Meddyg Teulu.

Rhywbeth i ddweud?