Digartrefedd

Updated:
Dim Sylwadau

Mae digartrefedd yn golygu bod heb gartref rheolaidd, diogel, y galli deimlo’n ddiogel a chysurus ynddo. Gall olygu bod hed do dros dy ben a gorfod cysgu ar y stryd.

Gallu hefyd olygu nad oes gennyt unrhyw le i fynd iddo a dy fod yn aros gyda ffrindiau neu mewn llety dros dro megis gwesty gwely a brecwast. Felly, efallai bydd gen ti do dros dy ben ond byddi yn dal i fod yn ddigartref. Gelwir pobl sy’n wynebu’r amgylchiadau hun yn ‘bobl ddigartref gudd’.

Bydd pobl yn dod yn ddigartref oherwydd sawl rheswm. Gall ddigwydd oherwydd ffrae â dy deulu, methu aros yn dy dŷ yn sgil methu fforddio hynny, wedi gadael cartref oherwydd camdrin neu drais yn y cartref neu gael dy droi allan. Beth bynnag yw’r rheswm, mae’n bwysig sylweddoli nad oes angen teimlo cywilydd yn sgil bod heb le parhaol i fyw ynddo, ac mae cymorth ar gael. Gall nifer o sefydliadau dy gynorthwyo yn rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol i sicrhau y bydd gen ti rywel diogel i aros cyn gynted ag y bo modd.

Mae’r adran hon yn cynnig gwybodaeth ynghylch beth i’w wneud os doi di’n ddigartref a sut i atal digartrefedd.

Gov.UK – Emergency Housing for Homeless

Citizens Advice – Help for Homeless People

The Mix – Help, I am homeless

Shelter Cymru

Shelter Cymru – Cymorthfeydd cyngor yn RhCT

Cyngor Rhondda Cynon Taf – Cymorth ac arweiniad am ddigartrefedd

Llamau

The Wallich

Meic Helpline – 0808 80 23456

Childline – 0800 1111

Samaritans – 116 123

Sut I Osgoi Digartrefedd

Os wyt ti’n meddwl y gelli ddod yn ddigartref, mae’n bwysig i ti weithredu’n syth. Gofynna am gyngor yn syth gan sefydliad a all gynnig cymorth, gweler isod rhestr o sefydliadau all gynnig cymorth ac arweiniad am ddigartrefedd:

Gov.UK – Emergency Housing for Homeless

Citizens Advice – Help for Homeless People

The Mix – Help, I am homeless

Shelter Cymru

Shelter Cymru – Cymorthfeydd cyngor yn RhCT

Cyngor Rhondda Cynon Taf – Cymorth ac arweiniad am ddigartrefedd

Llamau

The Wallich

Meic Helpline – 0808 80 23456

Childline – 0800 1111

Samaritans – 116 123

Os wyt yn 16-25 oed, mae nifer o bethau y gelli eu gwneud i osgoi bod yn ddigartref. Y cam cyntaf yw cysylltu â dy awdurdod lleol. Yn dibynnu ar dy amgylchiadau personol, efallai bydd yr awdurdod lleol yn gallu canfod llety i ti.

Os ystyrir dy fod yn ‘flaenoriaeth angen’, efallai bydd gan yr awdurdod lleol ddyletswydd i ganfod cartref i ti. Rwyt yn ‘flaenoriaeth angen’ os wyt ti:

  • Yn feichiog
  • Â phlant dibynnol sy’n preswylio gyda thi
  • Yn 16 neu 17 mlwydd oed
  • Yn unigolyn dan 21 a fu’n derbyn gofal, yn byw mewn llety neu’n byw gyda gofalwyr maeth pan oeddet rhwng 16 a 18 oed, ond mae
  • hynny bellach wedi dod i ben
  • Yn berson dan 21 sy’n agored i niwed yn bod wedi derbyn gofal, byw mewn llety neu fyw gyda gofalwyr maeth
  • Yn ddigartref neu’n wynebu bygythiad o ddigartrefedd yn sgil argyfwng, megis llifogydd neu dân
  • Yn agored i niwed oherwydd afiechyd meddwl, anabledd corfforol neu reswm arbennig arall
  • Yn unigol sydd wedi gwasanaethu’n ffurfiol yn Lluoedd Arfog y Goron ac wedi bod yn ddigartref ers gadael y lluoedd hynny
  • Wedi bod dan gadwad
  • Yn agored i niwed yn sgil gadael llety oherwydd trais neu fygythiadau o drais gan rywun arall

Cofia, mae gan bob person ifanc hawl i gael cyngor ynghylch digartrefedd a thai, ond nid oes dyletswydd ar yr awdurdod lleol i ganfod llety i ti, onid wyt yn cael dy ystyried yn ‘flaenoriaeth angen’, fel y disgrifir uchod

  • Os gelli, paid â dibynnu ar bobl eraill i ganfod llety i ti. Os gelli, cynllunia dy lety tymor hir cyn gadael cartref, i osgoi digartrefedd
  • Os na fydd gennyt unrhyw le i aros, hola hostelau brys, ond nid oes sicrwydd y bydd lle i ti. Os wyt yn fenyw sy’n dianc rhag trais yn y cartref, fel arfer, gelli gael lle mewn lloches i ferched, ond ffonia ymlaen llaw i sicrhau bydd llety diogel ar gael y noson dan sylw
  • Os wyt mewn perygl o fod yn ddigartref yn sgil cael dy droi allan, hola Cyngor ar Bopeth a alla gynnig cyngor ynghylch dy hawliau fel tenant

Os wyt yn ystyried gadael cartref oherwydd dadl neu chwalfa deuluol, pwylla i feddwl yn gyntaf. Bydd llawer o bobl ifanc sy’n gwneud hyn yn dod yn ddigartref. Darllena’n adran Gadael Cartref i gael cyngor ynghylch datrys problemau teuluol ac aros adref, neu ffonia Wasanaeth Cymodi Llamau os wyt yn bryderus ynghylch siarad â dy deulu dy hun

Gall bod yn ddigartref fod yn brofiad brawychus a pheryglus, felly ceisia osgoi hynny ar bob cyfrif, a chofia ofyn am gymorth os bydd angen arnat. Bydd rhywun ar gael bob amser i gynnig cyngor ynghylch beth i’w wneud nesaf.

Hostelau A Llety Cynaledig

Os wyt yn ddigartref, gall aros mewn hostel neu lety cynaledig fod yn ddewis i ti.

Hostelau A Llochesi Nos

Er bod hostelau a llochesi nod ar gael i bobl ddigartref, byddant yn llawn fel arfer, felly gall canfod gwely am y noson fod yn anodd. Cânt eu rhedeg fel arfer gan awdurdodau lleol, elusennau neu gymdeithasau tai. Ffonia Shelter Cymru  ar 0345 075 5005 am ddim i holi am hostel neu loches yn dy ymyl di. Nid yw Shelter Cymru yn rhedeg eu hostelau na’u llochesi nos eu hunain, ond gallant dy gynorthwyo i gysylltu â llefydd yn dy ardal.

  • Mae gan rai hostelau neu llochesi restrau aros oherwydd mae’r galw mor uchel. Mae’n syniad da gofyn i sefydliad fel Shelter Cymru neu’r awdurdod lleol roi dy enw ar restr aros, i wella dy gyfle o gael lle
  • Bydd rhai yn derbyn pobl sy’n galw heibio, ond dim ond os bydd ganddynt lai i rywun ychwanegol, ac mae eraill yn cynnig cymorth i grwpiau penodol, megis pobl ifanc sengl, y sawl sydd â phroblemau cyffuriau ac alcohol, y sawl sydd â phroblemau iechyd meddwl â’r rhai mwyaf anghenus (wedi treulio’r cyfnod hiraf yn byw ar y stryd)
  • Mae llochesi nos am ddim fel arfer, ond bydd y rhan fwyaf o hostelau yn gofyn am daliad. Mae’r ddau’n cynnig bwyd, ond efallai bydd hostel yn codi tâl
  • Mae safonau llety yn amrywio, ond mae llochesi nos yn sylfaenol iawn fel arfer

Llety Cynaledig

  • Mae cynllunio llety cynaledig yn cysylltu pobl y mae arnynt angen lle i aros â phobl sydd ag ystafell i’w rhentu. Cânt eu rhedeg fel arfer gan yr awdurdod lleol a gallant fod yn rhatach na hostel. Bydd rhai perchnogion tai hefyd yn cynnig prydau i ti fel rhan o dy rent, ac efallai byddi’n gallu defnyddio unrhyw fudd-daliadau rwyt yn eu hawlio i’w dalu
  • Mae llety cynaledig yn ddewis da cyn byddi’n barod i symud i mewn i dy le dy hun, ond bydd yr amser y gelli aros mewn llety cynaledig yn amrywio, ac yn dibynnu ar ba mor hir bydd yr ystafell ar gael, neu pa mor dda fydd dy berthynas â’r teulu
  • Bydd staff y cynllun llety cynaledig yn cadw cysylltiad â thi tra byddi’n aros yno i gynorthwyo i roi trefn ar dy fudd-daliadau neu ddatrys unrhyw broblemau, ac fe wnânt dy gynorthwyo i ganfod cartref parhaol
  • Nid oes gan bob awdurdod lleol gynlluniau llety cynaledig. Cysyllta â Shelter Cymru i gael manylion y cynllun llety cynaledig agosaf

Rhywbeth i ddweud?