Ysgol a Choleg

Image for Ysgol a Choleg

Tudalen Addysg Cyngor Rhondda Cynon Taf

Coleg y Cymoedd

Addysg Gyrfa Cymru

Llais Disgyblion Cymru

Studential, sy’n cynnig cyngor i fyfyrwyr dros 16 oed ar bob agwedd o’u haddysg

Meic, llinell gymorth eiriolaeth, cyngor a gwybodaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru  —Neges Wib, Rhadffon: 080880 23456, Neges Destun: 84001

Os nad wyt ti wedi dod o hyd i’r hyn rwyt ti’n chwilio amdano, ac os hoffet ti drafod unrhyw beth ymhellach, anfona e-bost at info@wicid.tv. Fel arall, gallet ti ofyn unrhyw beth i Nain Wicid!

Dechrau Ysgol Uwchradd

Gall dechrau mewn ysgol uwchradd fod yn gyffrous iawn, er efallai ychydig yn frawychus. Byddi di mewn dosbarth newydd gyda phobl nad wyt ti’n eu hadnabod. Bydd rhaid i ti ddod yn gyfarwydd ag adeiladau a systemau newydd, yn ogystal â cheisio deall yr amserlenni.

Dyma rai awgrymiadau i dy helpu:

  • Mae’n sicr y bydd cyfle i ti ymweld â dy ysgol uwchradd newydd yn ystod dy flwyddyn olaf yn yr ysgol gynradd, blwyddyn chwech. Os bydd y cyfle yn codi, sicrha dy fod yn mynd. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ti wybod yn union beth i’w ddisgwyl a dod yn gyfarwydd â ble i fynd ar eich diwrnod cyntaf.
  • Mae’n debygol bydd dy ysgol uwchradd yn fwy o faint na dy ysgol gynradd, a bydd rhaid i ti ddysgu ble mae popeth! Ond paid â phoeni, byddi di’n dod yn gyfarwydd â phopeth yn ddigon cyflym, a chofia fod pawb ym Mlwyddyn Saith yn teimlo’n union yr un peth. Efallai y byddai’n syniad da i ofyn i un o’r athrawon os oes map ar gael, er mwyn dy helpu i ddod yn gyfarwydd â’r adeilad.
  • Bydd llawer o ddisgyblion yn yr ysgol sy’n fwy na ti ac yn hŷn na ti. Efallai bydd hyn yn dy ofni i ddechrau, ond byddi di’n dod yn gyfarwydd â nhw yn gyflym iawn.
  • Bydd rhaid i ti ddod yn gyfarwydd â chael amserlen ac athrawon gwahanol am bob un o’r pynciau. Mae’n bwysig dy fod yn drefnus!
  • Y prif beth sydd angen i ti ei gofio yw bod pawb ym mlwyddyn saith yn yr un sefyllfa â ti, ac mae’n debyg y byddwch chi i gyd yn rhannu’r un teimladau ac yn pryderu am yr un pethau.
  • A dydy hi ddim yn wir y bydd disgyblion eraill yn rhoi dy ben di i lawr y toiled.

YMGARTREFU

  • Yn gyntaf, rho gyfle i ti dy hun er mwyn addasu i fod mewn ysgol uwchradd – does dim disgwyl i ti ymgartrefu yn syth a bydd eich athrawon yn deall hyn. Fel arfer bydd pobl yn dechrau teimlo’n gyfforddus yn y sefyllfa newydd ar ôl yr hanner tymor cyntaf. Os wyt ti’n parhau i’w weld yn anodd ymgartrefu yn dy ysgol newydd ar ôl y tymor cyntaf, dylet ti geisio trafod hyn gyda dy rieni neu athrawon.
  • Un o bethau naturiol bywyd yw bod rhai yn well nag eraill mewn pynciau penodol. Mae gan bawb ddulliau gwahanol o ddysgu, ac efallai bydd dy ddulliau di yn wahanol i ddulliau dy ffrindiau. Ond, er lles dy addysg, rhaid ceisio gwneud dy orau glas ym mhob pwnc nes y byddi di’n cyrraedd oedran lle bydd modd i ti ddewis y pynciau sydd at dy ddant.
  • Os bydd gen ti broblemau gyda disgyblion eraill, neu fod rhywun yn dy fwlio, mae’n hynod bwysig dy fod ti’n trafod hyn gyda rhywun arall. Cliciwch yma i weld yr adran ar fwlio, a sut i gael help.
  • ‘10 Tips for Starting School’ video – https://www.youtube.com/watch?v=ziK5wRYfhhA

Family Lives – awgrymiadau ar ddechrau mewn ysgol uwchradd

 

 

Cymwysterau

Mae cymwysterau yn profi dy fod ti wedi ennill gwybodaeth a datblygu dy sgiliau. Gall cymwysterau dy helpu di i gael swydd, parhau i addysg uwch neu i gael lle ar gwrs hyfforddiant.

Bydd rhai cymwysterau yn cael eu dyfarnu pan fyddi di yn sefyll yr  arholiad terfynol. Bydd eraill yn seiliedig ar asesiad a bydd dy waith yn cael ei raddio wrth fynd ymlaen. Ar ben hynny, bydd rhai cymwysterau yn seiliedig ar waith cwrs, asesiadau ac arholiadau.

Mae yna lawer o gyngor ar gael er mwyn dy helpu di i ddod o hyd i rywbeth addas ar gyfer dy alluoedd a dy ddiddordebau. Gallet ti astudio am gymwysterau academaidd fel Safon Uwch neu radd, neu gallet ti ddewis cymhwyster sy’n gysylltiedig â diddordeb penodol sydd gyda ti neu swydd y byddet ti’n hoffi ei gwneud.

Mae rhai swyddi a gyrfaoedd yn gofyn am gymwysterau penodol, er enghraifft mae swyddi maes meddygaeth a’r gyfraith yn gofyn am gymhwyster gradd, yn ogystal â phrofiad a hyfforddiant. Mae modd ennill rhai cymwysterau wrth weithio ac ennill profiad, er enghraifft cymwysterau gwaith ieuenctid.

Fe weli di fod nifer o swyddi sy’n cael eu hysbysebu yn gofyn am gymwysterau penodol gan y sawl sy’n ymgeisio. Efallai bydd rhaid i ti gael cymwysterau penodol er mwyn gwneud cais am gwrs hyfforddiant penodol.

Cymhlethdod ynghylch cymwysterau?

Erthygl Gyrfa Cymru am gymwysterau

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnat ti, neu os oes cwestiynau gyda ti ynghylch dy addysg, cysyllta â Meic – llinell gymorth eiriolaeth, cyngor a gwybodaeth i blant a phobl ifainc yng Nghymru –  Neges Wib, Rhadffon: 080880 23456, Neges Destun: 84001

Dewisiadau Blwyddyn 9

Mae dewis pynciau ym mlwyddyn 9 yn benderfyniad pwysig i dy ddyfodol.

Efallai byddi di eisoes yn gwybod pa bynciau rwyt ti’n eu mwynhau, neu efallai bod syniadau yrfa gen ti. Ond cofia i ddewis yn ofalus.

Gallai’r dewisiadau hyn effeithio ar yr hyn rwyt ti’n ei wneud yn y dyfodol, felly dylet ti drafod beth hoffet ti wneud gyda dy rieni, athrawon a/neu gynghorydd gyrfaoedd cyn dechrau canolbwyntio ar rai pynciau a gollwng eraill am byth. Gallet ti hefyd gysylltu â’r Swyddog Ymgysylltu â Phobl Ifanc yn eich ysgol os hoffet ti gael ychydig o gyngor ar wneud dewisiadau. Os nad wyt ti’n sicr â phwy ddylet ti siarad, anfona e-bost at info@wicid.tv.

Mae gwefan Gyrfa Cymru yn rhoi amryw o wybodaeth a chyngor er mwyn dy helpu i wneud  Dewisiadau Blwyddyn 9.

 

Addysg ôl- 16 Oed

Ar ôl cyrraedd 16 oed ym Mlwyddyn 11, mae’n amser i benderfynu os wyt ti’n mynd i aros mewn addysg er mwyn ennill cymwysterau pellach, boed yn yr ysgol neu goleg, neu adael i gael swydd, prentisiaeth neu i dderbyn hyfforddiant proffesiynol. Os wyt ti’n cael trafferth yn penderfynu ar beth i’w wneud nesaf, dylet ti drafod dy opsiynau gyda dy rieni neu dy gynghorydd gyrfaoedd.

Bydd nifer o ddisgyblion yn dewis astudio Safonau Uwch neu gymwysterau sy’n cyfateb. Mae tua 80 o bynciau gallet ti eu hastudio adeg Safon Uwch. Bydd ysgolion a cholegau yn cynnig y pynciau mwyaf poblogaidd fel arfer. Efallai bydd rhaid chwilio am y pynciau sy’n fwy arbenigol.

Mae cymwysterau eraill fel Safonau Uwch gymhwysol ac NVQs, sydd â strwythur mwy ymarferol a galwedigaethol, mae hyn yn golygu astudio pynciau mwy ymarferol ar gyfer swydd benodol.

GWAHARDD O’R YSGOL

Pan fydd rhywun yn cael ei wahardd o’r ysgol, mae’n golygu bod yr ysgol yn gorchymyn na all e/hi fynychu’r ysgol mwyach. Gall disgybl sy’n torri rheol ysgol bwysig neu sy’n cyflawni trosedd yn yr ysgol gael ei wahardd o’r ysgol gan y Pennaeth.

Mae’r penderfyniad i wahardd disgybl yn cael ei gymryd o ddifrif. Bydd y penderfyniad fel arfer yn cael ei wneud fel dewis olaf, os bydd caniatáu i’r disgybl aros yn yr ysgol yn peri niwed difrifol i addysg neu les y disgybl neu eraill yn yr ysgol.

Mae rhai yn credu mai rhywbeth gwych derbyn gorchymyn i beidio â mynychu’r ysgol. Ond, mewn gwirionedd, rhywbeth difrifol iawn yw cael gwaharddiad ar eich cofnodion. Gall derbyn gwaharddiad o’r ysgol olygu dy fod ti’n colli allan ar dy addysg, a gallai fod yn rhwystr wrth wneud cais am swydd neu gwrs yn rhywle arall yn y dyfodol.

Mae dau fath o waharddiad:

  • Cyfnod penodol – pan fydd disgybl yn cael ei wahardd rhag mynychu’r ysgol am gyfnod penodol o amser. Gall hyn fod am ddiwrnodau penodol bob wythnos neu ar gyfer nifer penodol o ddiwrnodau, wythnosau neu fisoedd. Ni ddylai cyfanswm cyfnod y gwaharddiadau cyfnod penodol fod am fwy na 45 diwrnod ysgol mewn blwyddyn ysgol.
  • Parhaol – pan fydd disgybl yn cael ei wahardd rhag mynychu’r ysgol benodol am byth.

Mae yna restr safonol cenedlaethol o resymau dros wahardd, sy’n cynnwys

  • Ymosodiad corfforol
  • Cam-drin geiriol
  • Bwlio
  • Cam-drin ar sail hil
  • Camymddwyn Rhywiol
  • Camddefnyddio cyffuriau, alcohol neu sylweddau
  • Difrod
  • Dwyn
  • Ymddygiad gwael neu dorri rheolau’r ysgol parhaus

Dyw achosion unigol o driwanta, anghofio gwaith cartref, gwisgo gemwaith neu dorri rheolau gwisg ysgol ddim yn rhesymau dros wahardd.

Beth Sy’N Digwydd Os Byddi Di’N Cael Dy Wahardd O’R Ysgol?

Mae yna ganllawiau Llywodraeth sy’n nodi beth ddylai ddigwydd pan fydd rhywun yn cael ei wahardd.

  • Rhaid i’r Pennaeth gynnal ymchwiliad llawn o’r digwyddiad sydd wedi arwain at waharddiad.
  • Mae’n rhaid i dy rieni neu dy gynhaliwr (gofalwr) wybod yn syth.
  • Dylai dy rieni neu dy gynhaliwr dderbyn llythyr oddi wrth y Pennaeth yn egluro’r rhesymau dros y gwaharddiad. Bydd y llythyr hefyd yn cynnwys manylion ynghylch p’un a yw’n barhaol neu am ba hyd y bydd yn para, a sut i apelio yn erbyn y gwaharddiad os ydyn nhw’n teimlo ei fod yn ddyfarniad
  • Wrth apelio, gall llywodraethwyr yr ysgol gymeradwyo’r gwaharddiad neu orchymyn i ti ail-fynychu’r ysgol.
  • Mae modd apelio ymhellach i banel lleol.
  • Mae’n bwysig apelio cyn gynted â phosib ac o fewn yr amser sydd wedi’i nodi yn y llythyr.
  • Mae gan ddisgyblion 11 oed ac yn hŷn yr hawl i apelio yn erbyn gwaharddiad hefyd.
  • Mae gan bob disgybl yr hawl i leisio ei barn mewn gwrandawiadau Pwyllgor Disgyblu Disgyblion ac Apelio Annibynnol y Corff Llywodraethu. Gall hyn fod yn bersonol, yn ysgrifenedig neu drwy unrhyw fformat ymarferol arall.
  • Mae dogfennau arweiniad cyfredol yn datgan bod gan y disgybl a’i rieni yr hawl i fynychu gwrandawiad y Panel Apelio Annibynnol a chyflwyno’u hachos, naill ai’n ysgrifenedig neu yn bersonol.

Os byddi di’n cael dy wahardd o’r ysgol, mae’n rhaid i’r Awdurdod Addysg Lleol wneud trefniadau i dy addysg i fynd yn ei flaen. Boed hynny drwy wasanaethau sy’n darparu llwybrau addysg eraill, neu drwy dy gofrestru mewn ysgol arall.

Os wyt ti wedi cael dy wahardd o’r ysgol, mae Snap Cymru yn sefydliad a all gynnig cymorth ac arweiniad i ti. Llinell gymorth- 0845 120 3730

Canllawiau’r Llywodraeth ynghylch apelio gwaharddiad

Unedau Cyfeirio Disgyblion Llywodraeth Cymru

 

Sgiliau Astudio

Mae sgiliau astudio yn bwysig. Maen nhw’n gallu helpu gyda phethau fel gwaith cartref, paratoi ar gyfer arholiadau, ysgrifennu traethodau ac adolygu. Gall sgiliau astudio gynnwys pethau fel rheoli dy amser, sicrhau dy fod yn cymryd nodiadau clir a syml, cynllunio dy adolygu, gweithio mewn grŵp a gwneud y defnydd gorau o adnoddau fel llyfrau a gwefannau. Mae modd datblygu gwahanol bethau er mwyn helpu dy allu i ddysgu ac i dy helpu i deimlo’n fwy hyderus wrth astudio a sefyll arholiadau.

Adolygu – y gair mawr ofnus – sy’n golygu edrych yn ôl dros y gwaith rwyt ti wedi astudio dros y flwyddyn er mwyn sicrhau dy fod ti’n deall ac yn cofio gwybodaeth cyn sefyll arholiad. Mae ymdrechion adolygu yn hynod bwysig wrth baratoi ar gyfer arholiadau. Gall wneud gwahaniaeth mawr i dy radd derfynol. Mae’n hanfodol i baratoi a rhoi’r cyfle gorau i ti dy hun o lwyddo yn yr arholiadau.

“Dwi ddim yn gallu cofio unrhyw beth!!!!” – AWGRYMIADAU ADOLYGU

Mae’n naturiol i deimlo’n anfodlon wrth adolygu, yn enwedig pan gelli di fod yn gwneud pethau mwy diddorol. Ond, dyma rai pethau gallet ti’u gwneud er mwyn gwneud adolygu ychydig bach yn haws:

  • Cer i rywle tawel i weithio, heb bethau i dynnu dy sylw. Os oes digon o le, cadw dy holl lyfrau a gwybodaeth mewn un lle. Yna gelli di ddod o hyd iddyn nhw yn haws.
  • Mae yna farn gymysg ynghylch p’un ai ydy gwrando ar gerddoriaeth yn helpu’r gallu i ganolbwyntio. Os bydd y dechneg yn gweithio i ti, cadwa’r gerddoriaeth yn isel ac yn y cefndir fel nad ydy’n tynnu dy sylw neu yn dy demtio i ganu. Dydyn ni ddim yn argymell Dubstep chwaith.
  • Rheoli Amser – Defnyddia dy amser yn effeithiol a chynllunia ymlaen llaw. Mae gan Goconqr amserlen adolygu y gelli di lawrlwytho ac addasu
  • Meddylia am y dull adolygu sy’n well gen ti. Ydy adolygu ar dy ben dy hun yn fwy effeithiol na gyda ffrind? Ydy nifer o sesiynau byr yn well, neu sesiynau hirach? Gwna’r hyn sydd yn gweithio’n well i ti.
  • Cofia i gymryd saib yn rheolaidd.
  • Gwna nodiadau bras, ac yna dylet ti ymarfer ail-ysgrifennu beth rwyt ti wedi’i ddysgu yn dy eiriau dy hun. Dylet ti ganolbwyntio ar ddeall yn hytrach na cheisio eu dysgu fel poli parot.
  • Mae ysgrifennu nodiadau atgoffa yn dda, gwna nodiadau a thynnu sylw at ffeithiau pwysig pan fyddi di’n adolygu.
  • Ceisia roi dy nodiadau rhywle y gelli di eu gweld, e.e. ar yr oergell, yn dy ystafell wely neu hyd yn oed yn yr ystafell ymolchi! Gelli di ddweud wrth dy fam a dy dad ein bod ni wedi dweud wrthot ti! Po fwyaf y byddi di’n edrych ar y nodiadau, y mwyaf tebygol y byddi di’n gallu cofio’r wybodaeth.
  • Ysgrifenna nodiadau cryno am bynciau gwahanol ar gardiau fflach neu ar un darn o bapur A4.
  • Awgrym arall yw recordio’r wybodaeth a gwrando arni. Gelli di wrando yn y gwely cyn mynd i gysgu neu tra byddwch chi’n teithio.
  • Os oes rhywun yn fodlon, gofynna iddyn nhw dy brofi di drwy ddefnyddio rhestr o bwyntiau allweddol. Bydd hyn yn gymorth i dynnu’r holl wybodaeth rwyt ti wedi’i dysgu at ei gilydd, ac yn dy helpu i feddwl am sut i ffurfio atebion yn dy arholiadau.

ARHOLIADAU

Gall cyfnodau arholiadau beri lot o bryder i nifer o bobl. Ond mae hyn yn berffaith normal – nid dim ond ti sy’n gofidio am wynebu profion!

Bydd paratoi yn dda a cheisio peidio â chynhyrfu yn helpu. Byddi di’n teimlo’n llawer mwy hyderus os wyt ti’n paratoi’n dda. Gall meddwl am y sefyllfa fel her helpu hefyd – rwyt ti wedi bod yn dysgu am bwnc am yr ychydig flynyddoedd diwethaf, a dyma dy gyfle i ddangos dy wybodaeth a phrofi’r hyn yr wyt ti wedi ei ddysgu.

Bydd dysgu sut i ymdopi â phwysau arholiadau drwy baratoi’n dda o fudd i ti yn y dyfodol, er enghraifft cyfweliadau a phan fyddi di yn dechrau swydd.

Dyma awgrymiadau sy’n gallu helpu lleddfu pryderon arholiadau:

  • Darllena’n hadran ar Adolygu
  • Cynllunio ymlaen llaw – gadawa ddigon o amser i adolygu
  • Cysga ddigon bob nos
  • Bwyta yn gywir
  • Cymera seibiant bob hyn a hyn – dylet ti wneud ymarfer corff a chael awyr iach bob dydd
  • Os wyt ti’n teimlo dy fod di dan ormod o bwysau, siarad ag aelod o’r teulu neu ffrind. Paid â chadw popeth i ti dy hun, efallai bydden nhw’n gallu dy helpu i adolygu
  • Ar ddiwrnod yr arholiad, gwiria fod popeth gyda ti – pennau, pensiliau, diod, hances a.y.b
  • Cer i’r toiled cyn mynd i mewn i’r arholiad

Cofia, er bod arholiadau yn bwysig, fydd hi ddim yn ddiwedd y byd os byddi di’n methu’r arholiad. Mae’n iawn i deimlo’n siomedig os nad wyt ti’n cyrraedd y radd roeddet ti’n ei disgwyl, ond ceisia ddysgu rhywbeth o’r sefyllfa.

Mae modd ail-sefyll arholiadau neu edrych ar lwybrau eraill i gyrraedd dy amcanion. Bydd dulliau eraill ar gael!

BBC’s GCSE Bitesize

How to Study

Test Taking Tips

The Student Room’s Revision Tips

The Mix’s Study and Exam Tips

 

Cyngor Yr Ysgol/Cyfranogiad Disgyblion

Mae un o’r hawliau pwysig sydd wedi’i amlygu yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn nodi bod gan bobl ifainc yr hawl i ddweud eu dweud yngylch y pethau sy’n effeithio arnyn nhw a dylid gwrando arnyn nhw a’u parchu’ pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud.

Gallet ti gysylltu â’r Swyddog Ymgysylltu â Phobl Ifanc yn dy ysgol am ragor o wybodaeth am Gyngor yr Ysgol. Os dwyt ti ddim yn siwr pwy yw’r Swyddog, anfona ebost atom ni info@wicid.tv. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma (link) i weld ein tudalen ar gyfranogiad disgyblion yn yr adran ‘Dy Hawliau’.

Rhywbeth i ddweud?