Gwybodaeth am Coronafirws i Pobl Ifanc

Image for Gwybodaeth am Coronafirws i Pobl Ifanc

Gwybodaeth am y Coronafirws i Blant a Pobl Ifainc

Mae Gwasanaeth Seicoleg Addysg RhCT a Merthyr Tudful yn gwybod pa mor bryderus ac anodd yw’r cyfnod yma i ni i gyd.
Dyna pam rydyn ni’n dymuno darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad defnyddiol i chi fel bod modd cefnogi lles seicolegol pobl.
Yn y pecyn yma rydyn ni wedi tynnu ynghyd yr wybodaeth orau roedden ni wedi llwyddo dod o hyd iddi, er mwyn helpu plant a phobl ifainc i ddarganfod mwy am y coronafirws a’i ddeall yn well, ynghyd â deall ei effaith ar ein bywydau.

BBC Newsround

Mae gan Wefan BBC Newsround adran wych ar y coronafirws gyda thestun a fideo sy’n canolbwyntio ar gyngor i blant os ydyn nhw’n poeni, sut i olchi’r dwylo, a beth mae hunan-ynysu yn ei olygu.

YoungMinds UK

Efallai bydd cyngor YoungMinds UK ar beth i’w wneud os ydych chi’n bryderus yn fwy defnyddiol i bobl ifainc ac oedolion ifainc. Y prif ffocws yw gofalu ar ôl eich hun, ac maen nhw’n darparu gwybodaeth bellach ar sut y mae modd i bobl ifainc ofalu am eu hiechyd meddwl os ydyn nhw’n hunan-ynysu.

Help Hawdd gan MenCap

Mae MenCap wedi paratoi taflen wybodaeth ragorol sy’n hawdd ei darllen am y coronafirws. Byddai’n arbennig o ddefnyddiol i blant, pobl ifainc neu oedolion sy’n deall pethau’n well o gael help delweddau gweledol a phan mae gwybodaeth yn cael ei chyflwyno’n ddarnau bach.

Mindheart Covibook – Stori am y Coronafirws

Byddai’r llyfr gwych yma gan MindHeart, sy’n llawn gwybodaeth a gweithgareddau am y coronafirws, yn ffordd wych o ddechrau sgwrs am bryderon plant. Mae’r llyfr ar gael mewn 18 iaith ac mae’n annog plant i labelu eu teimladau cyfredol. Mae e hefyd yn cynnig cyngor penodol ar bethau y mae modd iddyn nhw eu gwneud i gadw’n iach.

Her Lles

Efallai y bydd yr heriau canlynol yn helpu i gefnogi eich lles seicolegol chi a’ch teulu ar yr adeg yma. Rhowch gynnig arnyn nhw …

  1. Ysgrifennwch 5 gair positif i ddisgrifio’ch hun
  2. Darganfyddwch 3 ffaith ddiddorol newydd
  3. Ysgrifennwch 3 pheth rydych chi’n Gwerthfawrogi neu’n Ddiolchgar amdanyn nhw
  4. Ewch ati i greu rhestr o bethau y mae modd ichi eu gwneud pan fyddwch chi wedi diflasu
  5. Rhowch her i’ch hun a dysgwch rywbeth newydd yr wythnos yma.

Rhywbeth i ddweud?