Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant

Image for Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant

Carfan Materion Addysg, Cyflogaeth, a Hyfforddiant

Sefydlwyd carfan Materion Addysg, Cyflogaeth, a Hyfforddiant Rhondda Cynon Taf yn 2014. Ers hynny mae wedi cyflwyno ystod o weithgareddau mewn perthynas ag addysg, cyflogaeth a hyfforddiant. Mae’r rhain yn cynnwys prentisiaethau a chynlluniau i raddedigion, ffeiriau gyrfaoedd, ‘Arlwyo i Waith’ a darpariaethau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal. Mae hefyd wedi cynnal sesiynau gyrfaoedd a byd gwaith yn ein hysgolion uwchradd. Mae’r garfan wedi’i rhannu’n 3 is-garfan: y garfan Prentisiaethau a Graddedigion, y garfan Plant sy’n Derbyn Gofal a’r garfan Addysg.

 

Bydd llawer ohonoch chi wedi dod ar draws y garfan Addysg yn ysgolion uwchradd RhCT, maen nhw’n cyflwyno ystod o sesiynau sy’n gysylltiedig â Gyrfaoedd a Byd Gwaith i ddisgyblion o bob oed. Gyda’r sefyllfa bresennol mewn perthynas â phandemig Covid-19, rydyn ni’n teimlo ei bod yn bwysicach nag erioed bod modd cael gafael ar gyngor ac arweiniad mewn perthynas â’ch anghenion o ran cyflogaeth, addysg a hyfforddiant. Gyda hynny mewn golwg, rydym ni’n falch o ymuno â’r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid a Wicid i wneud yr wybodaeth yma mor hygyrch â phosibl i bawb yn ystod y cyfnod anodd yma.

I ddarllen yr cylchlythyr diweddaraf o’r tîm CAH cliciwch isod.
Cylchlythyr CAH Mehefin

Am fwy o wybodaeth ar Gyrfa Cymru gweler yr dolen isod.
Careers Wales Cym

Os oes unrhyw geisiadau penodol gyda chi mewn perthynas â chyflogaeth, addysg neu hyfforddiant mae croeso i chi gysylltu â’r garfan trwy e-bost – CarfanCyflogaethAddysgHyfforddiant@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Gweithwyr Cymorth trosiannol yn eich ardal, mae ei cyfeiriadau e-bost isod:

Ardal yr Rhondda:

Ardal Cynon:

 

Ardal Taf:

 

Fideo 2020 RCT ar Prentisiaeth isod, neu am fwy o wybodaeth dilynwch yr linc yma.

Eisiau mwy o wybodaeth ar yr ‘Gatsby Benchmarks’? Mae’r fideo isod o Kate Owen yn egluro mwy iddych chi.

Rhywbeth i ddweud?