Cyfweliad Swydd Rhithwir

Image for Cyfweliad Swydd Rhithwir

Cyfweliad am Swydd mewn modd rhithwir –
techneg ac awgrymiadau

Mae cyfweliad am swydd mewn modd rithwir yn digwydd rhwng y cyflogwr ac ymgeisydd ar-lein. Mae’r rhain yr un mor bwysig yn y broses recriwtio â chyfweliadau wyneb-yn-wyneb gan eu bod yn caniatáu i’r cyflogwr asesu sgiliau, galluoedd a phrofiadau’r ymgeiswyr er mwyn dewis yr ymgeisydd cywir ar gyfer y swydd.

Gyda’r pandemig coronafeirws diweddar mae’n bosibl y gwelwn gyflogwyr a recriwtwyr yn symud i ffwrdd o’r dulliau traddodiadol o gyfweliadau wyneb-yn-wyneb i ddefnydd helaethach o gyfweliadau rhithwir fel dull o’r broses gyflogi yn y dyfodol.

Gall cyfweliad rhithwir fod yn fanteisiol iawn i’r ymgeisydd gan fod llawer o bobl yn teimlo’n fwy cartrefol a hyderus yn eu hamgylchedd eu hunain. Fodd bynnag, mae’r cyfweliadau rhithwir mwyaf effeithiol yn dal i gynnwys yr un mesurau paratoi ac ymarfer ag mewn unrhyw fath arall o gyfweliad am swydd.

Dyma fideo byr gan Jess i’ch cyflwyno i’r pwnc a fydd yn eich helpu i sicrhau bod y cyfarpar cywir a’r hyder gyda chi i gynnal cyfweliad am swydd mewn modd rhithwir.

Rhywbeth i ddweud?