Techneg S.T.A.R.

Image for Techneg S.T.A.R.
Techneg S.T.A.R.

Testun yr wythnos yma yw ffurflenni cais ac, yn benodol, cwestiynau sy’n seiliedig ar gymwyseddau. Mae’r cwestiynau yma wedi dod yn boblogaidd iawn gyda sefydliadau sy’n recriwtio, colegau a phrifysgolion. Bydd y gallu eu hateb yn gywir ac yn effeithiol yn hanfodol i’ch llwyddiant yn y broses ymgeisio a chyfweld. Dyma fideo byr gan Nicola i’ch cyflwyno chi i’r pwnc. Mae rhai deunyddiau ategol a darllen pellach isod.

 

Yr holl syniad y tu ôl i gyfweliad yn seiliedig ar sgiliau yw’r ffaith mai’r arwydd gorau o sut y bydd rhywun yn ymddwyn yn y dyfodol yw sut y mae ef neu hi wedi ymddwyn neu weithredu yn y gorffennol pan roedd mewn sefyllfa debyg.

Mae cyflogwyr yn defnyddio’r dechneg cyfweld ymddygiadol i werthuso profiadau ac ymddygiadau pobl fel bo modd iddyn nhw bennu potensial yr ymgeisydd i lwyddo. Mae hyn yn golygu ein bod ni eisoes yn gwybod o’r cychwyn cyntaf bydd cwestiynau yn cael eu gofyn inni a fydd yn arwain at roi enghreifftiau o sut rydyn ni wedi gwneud pethau yn y gorffennol.

Mae rhoi enghreifftiau o sut rydych chi wedi gwneud rhai pethau yn y gorffennol yn dda, ond mae yna fformatau i ni eu dilyn i’n helpu ni i roi’r ateb gorau posib. Heddiw byddwn ni’n edrych ar y dechneg STAR.

Sefyllfa a  

Tasg

Disgrifiwch y sefyllfa roeddech chi ynddi neu’r dasg roedd angen i chi ei chyflawni. Rhaid i chi ddisgrifio digwyddiad neu sefyllfa benodol. Peidiwch â rhoi disgrifiad cyffredinol o’r hyn rydych chi wedi’i wneud yn y gorffennol. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n rhoi digon o fanylion i’r cyfwelydd fel ei fod e’n deall. Mae’n bosibl i’r sefyllfa yma fod o swydd flaenorol, o brofiad wrth wirfoddoli, neu unrhyw ddigwyddiad perthnasol.
Camau a gymerwyd gennych chi Disgrifiwch y camau a gymeroch chi, a gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw’r ffocws arnoch chi. Hyd yn oed os ydych chi’n trafod prosiect neu ymdrech grŵp, disgrifiwch yr hyn a wnaethoch chi – nid ymdrechion y garfan. Peidiwch â dweud wrthyn nhw beth y byddech chi’n ei wneud; dywedwch wrthyn nhw beth wnaethoch chi mewn gwirionedd.
Canlyniadau wnaethoch chi gyflawni Beth ddigwyddodd? Sut daeth y digwyddiad i ben? Beth gyflawnoch chi? Beth ddysgoch chi?

Dyma rhai enghreifftiau o gwestiynnau cyfweliad allwch chi argraffu adref a ymarfer.

Interview Questions 2019-20_CY-GB (002)

Rhywbeth i ddweud?