Cyflogaeth

Image for Cyflogaeth

Mae’n debygol iawn y byddi di’n gweithio am 40 mlynedd neu’n fwy, oni bai dy fod ti’n ddigon ffodus i ennill y loteri!  Yn yr adran addysg, rydyn ni wedi cynnwys y llwybr addysgol i dy yrfa neu alwedigaeth. Serch hynny, mae’r adran yma yn canolbwyntio ar y dewisiadau sydd gen ti ar ôl troi’n 16 ac i symud i’r byd gwaith neu hyfforddiant bellach.

Yn yr adran hon mae modd dod o hyd i ystod o wybodaeth ar waith a hyfforddiant, fodd bynnag os hoffet ti gael trafodaeth fanylach mae modd i ti siarad â’r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid a’r garfan Cefnogi Ymgysylltu ag Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant.  Mae modd cysylltu â’r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid drwy’r dudalen Facebook: www.facebook.com/YEPSRCT.

Rhywbeth i ddweud?