Diwrnod 2 – Archwiliwr Gyrfa

Image for Diwrnod 2 – Archwiliwr Gyrfa

Diwrnod 2 – Archwiliwr Gyrfa

Croeso nol! Nawr ein bod ni wedi archwilio ffyrdd defnyddiol o baratoi ar gyfer eich lleoliadau profiad gwaith ac edrych ar ôl eich iechyd a’ch lles, mae’n bryd mynd i mewn i’r cnau a’r bolltau!

Heddiw, mae gennych yr opsiwn o archwilio 6 gyrfa wahanol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (CBSRhCT). Mae CBSRhCT yn cyflogi dros 10,000 o bobl ac mae’n un o’r cyflogwyr mwyaf ledled De Cymru gyda miloedd o swyddi gwahanol ar gael. Mae’r rolau’n amrywio o rolau gwirfoddol a hyfforddeiaeth i’n cynlluniau arobryn prentisiaeth a graddedigion a’n rolau uwch reolwyr a chyfarwyddwyr!

Mae’r 6 rôl y bydd ar gael i chi heddiw wedi’u hegluro i chi gan aelodau staff sydd wedi gwirfoddoli eu hamser i roi cipolwg i chi o’r hyn maen nhw’n ei wneud. Mae’r fideos i gyd wedi’u ffilmio ar ffonau smart heb unrhyw feddalwedd golygu ffansi!

Ar ddiwedd y rhaglen hon, byddwn yn gofyn am eich adborth am ba yrfaoedd yr hoffech eu gweld yn cael eu cynnwys yn ein hwythnosau profiad gwaith rhithwir yn y dyfodol. Cefnogwch ni i wella’r rhaglen hon ar gyfer myfyrwyr y dyfodol.
Os oes angen cefnogaeth arnoch gydag unrhyw un o’r gweithgareddau trwy gydol yr wythnos hon neu os hoffech ragor o wybodaeth am brofiad gwaith yna e-bostiwch work.experience@rctcbc.gov.uk

Beth sydd sydd angen i mi ei wneud?

 

Fideos gyrfaoedd

Cydlynydd Prentisiaethau a Graddedigion

Swyddog Adnoddau Dynol

Athro Ysgol Gynradd

Gweithiwr Cymdeithasol

Nyrs Iechyd Galwedigaethol

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Rhywbeth i ddweud?