Fforwm RhCT

 

Mae Fforwm RhCT yn grŵp ar gyfer pobl ifainc 14-25 oed sy’n derbyn gofal neu sydd wedi derbyn gofal yn Rhondda Cynon Taf (RhCT).  Mae’r grŵp yn cael ei gynnal gan sefydliad o’r enw Voices From Care Cymru.

Beth mae’r Grŵp yn ei wneud?

Bydd gyda chi gyfle i leisio eich barn a siarad am eich profiadau o dderbyn gofal maeth neu ofal preswyl yng Nghymru. A chithau’n berson ifanc sydd wedi derbyn gofal, byddwch chi’n cael cyfleoedd i drafod yr hyn sy’n bwysig i chi, e.e. iechyd meddwl. Cewch chi gyfle hefyd i helpu i hyrwyddo hawliau plant sy’n derbyn gofal a phlant sydd wedi gadael gofal yn Rhondda Cynon Taf. Mae Fforwm RhCT yn cyhoeddi cylchlythyr i’r holl Blant sy’n Derbyn Gofal.

Pa mor aml y bydd y grŵp yn cwrdd?

Mae’r grŵp yn cwrdd unwaith y mis drwy Zoom ar hyn o bryd oherwydd y pandemig ac yn cwrdd ym Mhontypridd yn Rhondda Cynon Taf ar adegau eraill. Mae Voices From Care Cymru yn cynnal achlysuron Calan Gaeaf, y Pasg a’r Nadolig ar gyfer aelodau Fforwm RhCT ac aelodau Voices From Care Cymru. Gallwch chi benderfynu pryd rydych chi am ymuno a chymryd rhan yn y rhain. Po fwyaf y byddwch chi’n mynychu, po fwyaf o bethau y byddwch chi’n rhan ohonyn nhw!

Ble mae’r grŵp yn cwrdd, ac oes modd i mi gael help i gyrraedd y cyfarfodydd?

Mae’r grŵp yn cwrdd drwy Zoom ar hyn o bryd oherwydd y pandemig, ac yn cwrdd ym Mhontypridd ger yr orsaf fysiau ar adegau eraill, felly mae’n hawdd ei gyrraedd! Oes angen help i gyrraedd y cyfarfodydd? Gallwn ni eich helpu chi! Yr unig beth sydd eisiau’i wneud yw rhoi gwybod i ni cyn i chi fynychu’r cyfarfod. Yn ystod y pandemig, ar ôl i chi roi gwybod yr hoffech chi fynychu’r cyfarfod, byddwn ni’n anfon dolen Zoom atoch chi ymlaen llaw. Mae hyn er mwyn cadw’r cyfarfod yn breifat ac yn ddiogel.

Pa gyfleoedd eraill fydd ar gael i mi?

Bydd cyfle gyda chi i gyfrannu at gylchlythyr Fforwm RhCT ar gyfer pobl ifainc y sir. “Wedi’i ysgrifennu gan bobl ifainc ar gyfer pobl ifainc.”

Byddwch chi hefyd yn cael cyfle i fod yn rhan o’r achlysuron fydd yn cael eu trefnu drwy gydol y flwyddyn!

Gallwch chi hefyd gwrdd â phobl ifainc o ledled Cymru, a gweithio gyda nhw, a hynny er mwyn ennill profiad creadigol, gyda’r nod o hyrwyddo lleisiau pobl ifainc sy’n derbyn gofal.

Sut rydw i’n ymuno?

Os oes gyda chi ddiddordeb mewn ymuno â  Fforwm RhCT neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am Voices From Care Cymru, cysylltwch â ni!
Ffôn: 07497 391353
E-bost: Seana.power@vfcc.org.uk

Twitter: @voicesfromcare

Facebook: Voices From Care Cymru

…neu siaradwch â’ch Gweithiwr Cymdeithasol neu Swyddog Adolygu Annibynnol.

Rhywbeth i ddweud?