Fforwm Ieuenctid Cynon

Fforwm Ieuenctid Cynon

Mae’r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid wedi’i ymrwymo’n llwyr i gynorthwyo pobl ifainc yn Rhondda Cynon Taf i gael llais yn eu cymuned ac i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i le maen nhw’n byw ac ar gyfer y rheiny sydd o’u hamgylch. Rydyn ni’n ceisio gwneud hyn gyda 3 fforwm ieuenctid lleol yng Nghwm Rhondda, Cwm Cynon a Thaf-elái y mae modd ichi ymuno â nhw nawr.

Os ydych chi rhwng 11 a 25 mlwydd oed ac yn byw yn Rhondda Cynon Taf, mae modd ichi fod yn rhan o un o’n Fforymau Ieuenctid a gweithio ar brosiectau yn y gymuned, helpu gyda gwasanaethau sy’n mynd i’r afael â materion allweddol a derbyn hyfforddiant i’ch helpu chi â sgiliau hanfodol ar gyfer y dyfodol. Yn fwy na dim, mae’n rhoi cyfle i CHI ddweud eich dweud ar beth sy’n digwydd lle’r ydych chi’n byw ac ar benderfyniadau allweddol yn eich ardal leol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o fforwm ieuenctid eich ardal leol, cysylltwch â ni drwy’r wybodaeth uchod neu siaradwch â’ch gweithiwr YEPS.

 

Beth yw fforwm ieuenctid?

Mae fforwm ieuenctid yn cael ei gynnal a’i ddatblygu gan bobl ifainc ar gyfer pobl ifainc. Mae fforymau’n bodoli er mwyn cynrychioli barn pobl ifainc, gan roi cyfle i’w syniadau, eu barn a’u hanghenion nhw gael eu clywed. Mae hyn yn creu cyfle i bobl ifainc drafod pryderon, ymgysylltu â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau (megis gweithwyr ieuenctid, byrddau llywodraethu a staff sefydliadau eraill) ac i gyfrannu at wella a datblygu gwasanaethau ar gyfer pobl ifainc.

 

Pam ymuno â fforwm ieuenctid?
  • Ennill/Cynyddu hyder
  • Dysgwch sgiliau newydd
  • Gwneud gwahaniaeth
  • Adeiladu perthnasau newydd
  • Ychwanegwch ef at eich CV/ceisiadau coleg/UCAS
  • Cymhelliant a chyfle i arwain wrth wneud penderfyniadau
  • Gweld eich syniadau yn dod yn fyw
  • Ennill gwobrau
  • Achos mae’n hwyl!
Dyddiadau:    
  • Bob dydd Iau 5:00 – 7:00pm (ac eithrio gwyliau) yn dechrau ar 22 Ionawr 2024!

Amser: 5-7yh 

Lleoliad: Coleg Y Cymoedd Aberdâr, Wellington St, Robertstown, Aberdare, CF44 8EN 

Arweinydd Staff: Shauna Hopkins

 

 

 

 

 

 

 

 

Manylion Cyswllt: 07887450746 / shauna.hopkins@rctcbc.gov.uk

Prosiectau blaenorol mae’r fforwm wedi gweithio ar:

Enillodd Fforwm Ieuenctid Cynon y wobr am Gyfranogiad Gweithredol Eithriadol yn Digwyddiad Dathlu YEPS 2023. Gwyliwch y fideo isod:

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Prosiectau Eraill:

Rhywbeth i ddweud?