Cael Swydd

Image for Cael Swydd

Gall chwilio am swydd a chael swydd fod yn anodd ac efallai bydd rhaid gwneud cais i nifer o gyflogwyr cyn i ti fod yn llwyddiannus. I gychwyn mae’n rhaid i ti benderfynu sut fath o swydd ti’n dymuno, ble i gael hyfforddiant a pha oriau gallet ti weithio.

Mae llawer o amgylcheddau gwaith ac oriau gwaith gwahanol ar gael. Gall rhai swyddi fod mewn swyddfa, gall rai eraill gynnwys gweithio mewn lleoliad diwydiannol fel ffatri neu weithdy a bydd rhai yn cynnwys gweithio’r tu allan.

Mae’r oriau ti’n gweithio’n dibynnu ar y math o swydd ti’n ei wneud, mae rhai yn ystod y dydd, rhai yn ystod min nos a rhai yn cynnwys gweithio shifftiau gwahanol. Mae rhai cyflogwyr yn cynnig oriau gwaith hyblyg, sy’n golygu gallet ti ddechrau a gorffen ar wahanol adegau o’r dydd. Mae gen ti hawl i ofyn am oriau gwaith hyblyg, yn arbennig os oes gen ti blant i edrych ar eu hôl.

Mae’n bwysig dangos i gyflogwyr posibl mai ti yw’r unigolyn gorau am y swydd, felly os oes gen ti sgiliau, cymwysterau a hyfforddiant mae angen iddynt wybod am hyn. Bydd llawer o gyflogwyr yn cynnig hyfforddiant a chymwysterau wrth wneud y swydd, gallai rhai hefyd dalu i ti i fynychu cwrs.

Mae nifer o gyflogwyr yn gwerthfawrogi sgiliau cyfathrebu da, y gallu i weithio fel rhan o dîm a dangos mentrusrwydd fel rhinweddau allweddol yn eu staff.

I ymgeisio am swydd, mae gan y rhan fwyaf o gyflogwyr ffurflenni cais y byddant yn gofyn i ti lenwi neu byddant yn gofyn i ti am CV. Mae ffurflenni cais yn gofyn am fanylion addysg, profiad gwaith a pha sgiliau sydd gen ti. Mae CV yn debyg iawn, ond mae’n rhywbeth yr wyt ti’n ei gynhyrchu yn hytrach na ffurflen gais. Mae’n syniad da cynhyrchu CV beth bynnag, gan ofalu ei fod wedi ei drefnu yn dda, yn hawdd i’w ddeall ac nad oes unrhyw gamgymeriadau sillafu na gramadeg ynddo.

Mae gan y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid Swyddogion Ymgysylltu a Chynnydd Ieuenctid sy’n gallu rhoi cymorth i ti wrth gwblhau dy CV neu wrth wneud cais am swydd.  Cysyllta drwy’r dudalen Facebook (www.facebook.com/YEPSRCT) neu dere i un o’r sesiynau darpariaeth estynedig.  I weld pa ddarpariaeth sydd agosaf atat ti, cer i’r dudalen ‘Achlysuron’.

Prentisiaethau a Hyfforddiant

Os wyt ti eisiau dysgu wrth i ti weithio, gallet ti feddwl am hyfforddiant yn seiliedig ar waith, yn gweithio tuag at Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) neu Brentisiaeth Fodern.

Mae NVQs yn gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol sy’n dangos dy fod wedi cyflawni’r sgiliau a’r wybodaeth ymarferol sy’n galluogi ti i wneud swydd yn effeithiol. Maent yn gymwysterau ymarferol lle rwyt ti’n cael dy asesu wrth i ti weithio.

Rwyt ti’n astudio un lefel ar y tro, gyda lefelau cymwysterau o 1 i 5. Bydd asesydd cymwys yn dy arsylwi ac yn gofyn cwestiynau i ti am y gwaith ti’n gwneud, i brofi dy wybodaeth a dy ddealltwriaeth.

Weithiau bydd yn ofynnol i ti gynhyrchu portffolio neu ffolder o dystiolaeth i brofi y gallet ti gyflawni tasgau penodol.

Os yw’r aseswr yn fodlon dy fod wedi cyflawni’r safon genedlaethol ar gyfer y lefel rwyt ti’n gweithio arni, byddant yn arwyddo i nodi eu bod yn derbyn dy waith ac yna gallet ti symud ymlaen i’r uned neu i’r lefel nesaf.

Mae llawer o NVQs i ddewis ohonynt, gan gynnwys busnes a rheoli, peirianneg ac adeiladu, gofal iechyd a harddwch, arlwyo a gwasanaethau hamdden. Gellir astudio NVQs fel rhan o hyfforddiant sy’n seiliedig ar waith, yn y coleg, neu fel rhan o brentisiaeth.

Mae yna raglen Cymru gyfan o’r enw Rhaglen Recriwtiaid Ifanc sydd yn ariannu cyflogwyr sydd yn cynnig rhaglenni prentisiaeth o ansawdd uchel ac yn recriwtio ac yn hyfforddi prentisiaid ifanc (16-24 oed) ychwanegol. Os wyt ti’n cael dy gyflogi ond nid oes hyfforddiant ar gael, gallet ti ofyn i dy gyflogwr am y rhaglen yma.

Os wyt ti’n ddi-waith ac yn chwilio am brentisiaeth, gall chwilio a cheisio am swyddi ar-lein trwy Wasanaeth Paru Prentisiaeth Gyrfa Cymru.

Entrepreneuriaid

Mae entrepreneur yn rhywun sydd yn creu busnes neu fenter newydd yn hytrach nag gweithio i rywun arall. Gall hyn fod yn beryglus ac yn ansefydlog ond yn wobrwyol iawn hefyd.

Mae rhai entrepreneuriaid yn cychwyn busnes felly nid oes cyfyngiad ar botensial beth allan nhw ennill – os ydy’r busnes yn llwyddiant yna maent yn gwneud ac yn cadw’r elw. Gelwir hyn hefyd yn hunangyflogaeth, ble mae’r entrepreneur yn cynhyrchu incwm ei hunan, yn talu treth ac yswiriant gwladol eu hunan.

Mae rhai entrepreneuriaid yn cychwyn mentrau cymdeithasol sydd efo buddiant elusennol neu gymunedol fel bod llwyddiant y fenter yn cael ei fesur nid mewn termau ariannol ond faint mae’n elwa pobl neu gymunedau.

Pa un ai a wyt ti’n fusnes neu’n fenter gymdeithasol mae angen i ti fod yn ymrwymedig iawn ac yn benderfynol o lwyddo. Efallai bod gen ti syniad da neu sgil byddet ti’n hoffi troi i mewn i fusnes neu fenter ond bydd paratoi, ymchwilio a chynllunio yn ffactorau allweddol i sicrhau dy fod di’n llwyddiant.

Mae’r mwyafrif o entrepreneuriaid yn rhannu’r un rhinweddau:

  • Angerddol am beth maen nhw eisiau gwneud
  • Efo syniadau da
  • Wedi adnabod bwlch yn y farchnad neu efo ymwybyddiaeth o gyfleoedd
  • Efo hobi neu sgil gall droi i mewn i fusnes
  • Ddim ofn cymryd risg
  • Hunan-gymhellol (self-motivated)
  • Mentrus
  • Efo llawer o frwdfrydedd
  • Y gallu i fod yn greadigol ac arloesol

Mae bod yn fentrus yn golygu bydd rhaid i ti ddatblygu agweddau a sgiliau penodol – bydd angen dyfalbarhad, hyblygrwydd, ysbryd cystadleuol, ysfa a phenderfyniaeth, agwedd bositif ac i fod yn gadarn wrth wynebu unrhyw drafferthion.

Dyw bod yn fentrus ddim o reidrwydd yn golygu gweithio i ti dy hun, gallai gael sgiliau mentrus hefyd helpu ti i gael swydd, ennill dyrchafiad neu gyfrannu i dyfiant busnes dy gyflogwr.

Rhywbeth i ddweud?