Dechrau’r Swydd

Image for Dechrau’r Swydd

Dechrau Gwaith

Gall dechrau swydd newydd fod yn brofiad cyffrous a gall ymddangos ychydig yn frawychus ar y dechrau, oherwydd mae bod yn weithiwr yn wahanol i fod yn fyfyriwr. Byddi di’n cyfarfod pobl newydd, yn dysgu sgiliau newydd ac yn ennill arian am y gwaith ti’n gwneud.

Bydd gen ti rôl a swydd i’w chyflawni a disgwylir rhai pethau gennyt mewn gweithle, sef bod yn brydlon, dilyn cyfarwyddiadau a dangos dy fod yn ddibynadwy.

Efallai byddi di’n canfod fod mwy o strwythur i dy fywyd gwaith. Efallai bydd yn rhaid i ti adrodd i rywun fel rheolwr neu arolygydd, a byddant yn rhoi cyfarwyddiadau i ti neu yn gofyn i ti gyflawni tasgau arbennig, weithiau o fewn cyfnod penodol. Byddi di hefyd yn darganfod bod yn rhaid i ti fod yn atebol am beth ti’n gwneud a dy benderfyniadau, fel pam ti wedi gwneud tasg mewn ffordd benodol. Bydd llawer o weithleoedd yn disgwyl i ti ddangos menter – gwneud pethau heb i bobl ofyn i ti neu orfod arolygu ti.

Gall gymryd amser i ddod i arfer gydag amgylchedd gwaith newydd, bydd rhai pobl yn addasu’n gyflymach nag eraill. Mae’n helpu i ofyn cwestiynau os nad wyt ti’n sicr am unrhyw beth ac yn syniad da gwneud ymdrech i ddod i adnabod dy gydweithwyr newydd yn y gwaith.

Ceisia fod yn gyfeillgar ac yn barod i helpu yn y gweithle ond yn yr un modd paid â gadael i bobl gymryd mantais ohonot am dy fod di’n ifanc ac yn newydd i’r swydd.

Gall fod yn boen arnat ti os wyt ti’n dychwelyd i’r gwaith hefyd, beth bynnag yw’r rheswm am y cyfnod i ffwrdd, bod hyn ar ôl cyfnod o ddiweithdra, absenoldeb estynedig, absenoldeb mamolaeth neu efallai ti wedi symud i ardal newydd. Fel cychwyn gwaith am y tro cyntaf, efallai bydd yn cymryd amser i ti addasu i’r sefyllfa.

Os wyt ti’n cael problemau yn y gweithle fel bwlio neu wahaniaethu paid bod ofn gofyn am gymorth. Siarada gydag arolygydd neu reolwr neu ddarganfod pwy i siarad gyda nhw yn yr adran Adnoddau Dynol neu Bersonél os oes ganddynt un, oherwydd mae’n bosib y bydd gweithdrefn cwynion ar gael.

Mae Unedau Llafur hefyd y gallet ti ymuno â nhw am gyfraniad rheolaidd bychan o dy gyflog sy’n gwarchod gweithwyr ac sydd yno i helpu. Neu gallet fynd at y Ganolfan Cynghori (CAB) am gyngor am ddim ynghylch beth y dylet ei wneud. Gall hefyd ddarganfod ystod eang o wybodaeth ddefnyddiol ar wefan Gyrfa Cymru.

Bod Mewn Cyflogaeth

Fel gweithiwr mae gen ti hawliau cyfreithiol gan gynnwys tâl salwch, absenoldeb mamolaeth, cael hawl i ymuno ag Undeb Llafur a bod yn rhydd rhag aflonyddwch a gwahaniaethu. Mae gen ti hawliau statudol, sy’n hawliau cyfreithiol a benderfynir gan y senedd.

Dylet ti hefyd dderbyn contract cyflogaeth wrth ddechrau swydd newydd, a fydd yn rhoi manylion am ba oriau y disgwylir i ti weithio, pa dâl byddi di’n ei dderbyn a faint o wyliau taledig y mae gen ti hawl iddynt.

Telir canran o dy gyflog gan dy gyflogwr yn syth i’r llywodraeth mewn treth ac yswiriant gwladol. Paid â chael dy frawychu os weli di hyn ar dy slip cyflog – mae rhai pobl yn lluosi’r oriau a weithiant â’u cyfradd tâl yr awr ac yn cael sioc pan dderbyniant lai na hyn oherwydd bod eu treth a’u hyswiriant gwladol wedi’i dynnu ohono!

I blant a phobl ifanc mae rheolau arbennig am dy waith sy’n rheoleiddio pa adegau o’r dydd gei di weithio ac am ba hyd. Mae’r rhain yn wahanol yn dibynnu ar dy oed.

Oriau Gweithio

Mae nifer o opsiynau gweithio gall ddewis ohonynt, gan gynnwys gweithio llawn-amser, rhan-amser, oriau gwaith hyblyg a rhannu swydd (pan fyddi di a gweithiwr arall yn gwneud y swydd yn rhan-amser yn gweithio gwahanol ddyddiau’r wythnos.).

Mae rhai cyflogwyr (yn enwedig y rhai mwy) bellach yn fwy hyblyg am drefniadau gwaith, fel y galli di weithio oriau neu ddyddiau sydd yn gweddu dy ffordd o fyw neu ymrwymiadau teuluol.

Gallai unrhyw un ofyn i’w gyflogwr am drefniadau gweithio’n hyblyg, ond yn gyfreithiol mae unrhyw un sydd yn ofalwr neu efo plant dan 16 oed efo’r hawl i ofyn i’w gyflogwr am oriau hyblyg.

  • Dylai dy gontract cyflogaeth fanylu dy oriau gwaith arferol
  • Dylai dy amodau cyflogaeth ddweud pa oriau a phatrymau gweithio sydd yn rhan o dy swydd. Efallai na fydd gen ti gontract ysgrifenedig, ond mae’n rhaid i weithwyr gael manylion eu prif amodau a thelerau yn ysgrifenedig – gan gynnwys oriau gweithio – cyn pen dau fis o ddechrau swydd
  • Ni ddylai’r rhan fwyaf o weithwyr orfod gweithio mwy na 49 awr yr wythnos ar gyfartaledd, yn ôl y Rheoliadau Amser Gwaith, os nad wyt ti’n gweithio mewn sector sydd â rheolau arbennig (gweler isod)
  • Mae Rheoliadau Amser Gwaith hefyd yn rhoi hawliau i ti gael gwyliau â thâl, egwyl gorffwys a chyfyngiadau ar weithio yn y nos

Gweithiwyr Ifanc

  • Os wyt ti o dan 18 oed a dros oed gadael ysgol (rwyt ti o dan oedran gadael ysgol nes diwedd tymor yr haf yn ystod y flwyddyn ysgol pan rwyt ti’n troi’n 16 oed) ti’n cael dy ystyried yn weithiwr ifanc
  • Fel rheol, ni ellir gwneud i weithwyr ifanc weithio mwy nag wyth awr y dydd neu 40 awr yr wythnos. Ni cheir cyfartalu’r oriau hyn dros gyfnod hirach

Mae yna rai eithriadau i’r rheolau yma.

Pwy sydd wedi’u heithrio o’r rheoliadau amser gwaith?

Nid yw Rheoliadau Amser Gwaith yn cynnwys dy wythnos gweithio os wyt ti’n gweithio yn y meysydd canlynol:

  • Swyddi lle rwyt ti’n rhydd i ddewis pa mor hir fyddi di’n gweithio ee. Rheolwr gweithredol
  • Mae’r lluoedd arfog, y gwasanaethau brys a’r heddlu wedi’u heithrio mewn rhai amgylchiadau
  • Gweision domestig mewn tai preifat
  • Meddygon dan hyfforddiant

Gweithwyr olew yn y diwydiant cludiant (nail ai ar y ffordd, y rheilffordd, yn yr awyr neu fôr)

Rhywbeth i ddweud?