Diweithdra

Image for Diweithdra

Gall diweithdra fod yn hynod o anodd. Gallai fod yn anodd iawn i gael swydd ac efallai bydd rhaid gwneud cais i nifer o gyflogwyr cyn i ti fod yn llwyddiannus.

Mae profiad o amryw wrthodiad, weithiau heb adborth o gwbl, yn gallu cael effaith ar dy hyder a brwdfrydedd yn enwedig os wyt ti wedi bod allan o waith am gyfnod hir. Mae ymdrechu i dalu am bethau, efo dim byd i lenwi dy amser a dim arian ychwanegol i wneud pethau yn ddiflas ac yn rhwystredig.

Tra rwyt ti allan o waith, mae’n bwysig bod yn ofalus gyda dy arian a darganfod os oes gen ti hawl i unrhyw fudd-daliadau neu gymorth wrth chwilio am swydd. Mae’r llywodraeth yn darparu cymorth ariannol i rai pobl mewn ffurf budd-daliadau. Gall pobl sydd â hawl i fudd-daliadau gynnwys pobl ar incwm isel, pobl allan o waith, merched yn cael babi, pobl gydag anableddau a phobl gyda phlant. Bydd rhai pobl byth yn gallu gweithio oherwydd eu hamgylchiadau.

I’r rhai sydd yn gallu ac eisiau gweithio mae’r Canolfan Byd Gwaith yn gallu helpu ti i ddod o hyd i waith fydd yn gweddu ti. Mae ganddynt gronfa ddata o swyddi sydd ar gael i ti chwilio drwyddo. Gallet ti hefyd fynd at wasanaeth cyngor fel Gyrfa Cymru fydd efo rhestr o swyddi sydd ar gael ac yn gallu rhoi cyngor ar gael gwaith.

Darllena ein hadran Cael Swydd am wybodaeth bellach am ble i chwilio am swyddi ac am help gyda dy CV a ffurflenni cais. Neu, tra ti’n ddi-waith fe allet ti feddwl am gychwyn busnes ti dy hun a dod yn entrepreneur neu wirfoddoli i gael mwy o brofiad a sgiliau.

Beth bynnag yw dy sefyllfa a pa bynnag hir ti wedi bod yn ddi-waith, ceisia aros yn optimistaidd ac yn obeithiol byddi di yn dod o hyd i waith. Efallai bydd yn cymryd amser, bydd rhaid i ti fod yn barhaus ac efallai bydd y swydd ti’n cael i gychwyn ddim yn union beth fyddet ti’n hoffi gwneud fel gyrfa ond bydd ceisio cael agwedd bositif tuag at ddod o hyd i waith yn help i ti.

Mae’r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid yn gallu cynnig cymorth i ti, er mwyn dod o hyd i swydd neu hyfforddiant addas. Mae Swyddogion Ymgysylltu a Chynnydd ar gael er mwyn cynnig cymorth yn benodol ar y mater yma. Os hoffet ti ragor o wybodaeth, cysyllta â’r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid drwy Facebook, www.facebook.com/YEPSRCT.

Rhywbeth i ddweud?