Bod Mewn Gofal

Weithiau bydd rhywbeth yn digwydd o fewn sefyllfa deuluol sy’n golygu dydy plant neu bobl ifainc ddim yn gallu byw gyda’u rhieni. Mae nifer o resymau pam y gallai hyn ddigwydd; salwch, problemau teuluol neu mae’r amgylchiadau yn golygu dydy dy rieni ddim yn gallu gofalu amdanat ti yn gywir.

Os bydd hyn yn digwydd, yna bydd y cyngor lleol yn sicrhau dy anghenion llety ac addysg. Weithiau bydd hyn yn golygu dy fod ti yn mynd i fyw gyda rhieni maeth. Yn ddibynnol ar y sefyllfa, gall olygu bod cynhalwyr (gofalwyr) gyda ti am gyfnod dros dro, neu am gyfnod hirach. Bydd Gweithiwr Cymdeithasol yn sicrhau bod rhywun yn gofalu amdanat ti, a nhw fydd yn rhoi gwybod i ti beth sydd yn digwydd drwy gydol y broses.

Unwaith y byddi di yn derbyn gofal oddi wrth y gwasanaeth cymdeithasol, bydd angen creu cynllun gofal i ti. Bydd hyn yn cynnwys pethau fel ble rwyt ti’n mynd i fyw, pa mor aml byddi di’n gweld dy rieni os hoffet ti a dy deulu vgadw mewn cysylltiad. Mae’r gyfraith yn nodi bod rhaid i weithwyr cymdeithasol wrando ar dy ddymuniadau a dy deimladau. Mae dy farn di yn cyfrif, felly mae’n bwysig iawn dy fod ti’n dweud dy ddweud pan fydd dy weithiwr cymdeithasol, dy deulu a’r bobl sy’n gofalu amdanat ti yn cynllunio ar gyfer y dyfodol.

Os oes yna rai pethau dwyt ti ddim yn hapus gyda nhw, mae’n well dy fod ti’n cael sgwrs gyda dy gynhalwyr neu dy weithiwr cymdeithasol. Mae yna rai sefydliadau sy’n cynnig gwasanaeth eiriolaeth er mwyn rhoi cymorth i ti pan fyddi di yn derbyn gofal, ac er mwyn helpu ti i ddod i’r afael ag unrhyw broblemau all fod gyda ti. Ystyr ‘Eiriolwr’ yw person sydd wedi derbyn hyfforddiant proffesiynol sy’n gallu siarad ar dy ran os oes angen. Bydd eiriolwr yn berson gwahanol i’r bobl yn y gwasanaethau cymdeithasol, dy gynhalwyr a dy weithiwr cymdeithasol.

GWEITHWYR CYMDEITHASOL

  • Bydd gan bob plentyn sy’n derbyn gofal ei weithiwr cymdeithasol ei hun. Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n cyflogi’r gweithwyr cymdeithasol. Mae’r gwasanaeth yn sefydliad llywodraethol sydd yna er mwyn helpu pobl i gael yr ansawdd bywyd gorau posib.
  • Swydd gweithwyr cymdeithasol yw dy helpu di a dy deulu i gael y cymorth sydd ei angen arnoch chi. Byddan nhw yn ceisio sicrhau dy fod ti’n gallu dychwelyd i fyw gyda dy deulu cyn gynted â phosib.
  • Dy weithiwr cymdeithasol sydd yn gyfrifol am sicrhau bod dy addysg, iechyd, diogelwch a lles cyffredinol yn cael eu diwallu wrth i ti dderbyn gofal. Bydd gan bob plentyn sy’n derbyn gofal ‘cynllun gofal’ sydd yn gosod trefniadau dyddiol ar gyfer dy ofal. Mae modd i ti drafod hyn gyda dy weithiwr cymdeithasol.
  • Byddi di’n cael cyfarfodydd rheolaidd gyda dy weithiwr cymdeithasol trwy gydol yr amser y byddi di’n derbyn gofal. Byddi di hefyd yn cael cyfarfodydd adolygu er mwyn trafod sut wyt ti’n teimlo am y sefyllfa. Mae dy weithiwr cymdeithasol yna i dy amddiffyn a gofalu amdanat ti. Os wyt ti yn pryderu am unrhyw beth, gellet ti siarad â nhw.
  • Byddan nhw ar gael i ti pan ddaw’r amser i ti adael y system ofal.

SWYDDOG HAWLIAU PLANT

  • Mae hawl gan bob plentyn sy’n derbyn gofal yr hawl i weld eu ffeiliau personol. Mae’r rheini yn cynnwys gwybodaeth benodol amdanat ti, dy deulu, pam rwyt ti’n derbyn gofal, dy gynllun gofal, dy addysg a dy iechyd. Mae’r wybodaeth sydd yn y ffeil yn gyfrinachol i’r Awdurdod Lleol yn unig.
  • Mae yna achlysuron lle na fyddi di’n cael gweld dy ffeil, ond bydd hyn yn digwydd mewn amgylchiadau eithriadol yn unig. Os bydd hyn yn digwydd, mae modd i ti gysylltu â Swyddog Hwaliau Plant yr awdurdod lleol. Yna, byddan nhw yn ymchwilio i’r rhesymeg pam nad oes modd i ti weld dy ffeil.

EIRIOLWYR

  • Os byddi di eisiau cwyno am y Gwasanaethau Cymdeithasol neu dy weithiwr cymdeithasol, mae angen i ti siarad ag eiriolwr. Mae hwn yn berson sydd ddim yn gweithio i’r Gwasanaethau Cymdeithasol ac sydd wedi derbyn hyfforddiant er mwyn dy helpu di. Byddan nhw yn dy helpu di i leisio dy farn a rhoi cymorth i ti gyda dy gwyn.
  • Mae yna sawl sefydliad eiriolaeth sy’n gallu dy helpu di. Mae Meic yn wasanaeth llinell gymorth sy’n cynnig cyngor eiriolaeth cyfrinachol am ddim. Bydd Meic yn gallu argymell beth i’w wneud nesaf, a dy gysylltu di â’r bobl neu sefydliadau perthnasol.

Mae’r adran yma yn cynnwys gwybodaeth ar sut beth yw derbyn gofal, y mathau o ofal sydd ar gael a’r cymorth sy’n cael ei gynnig i ti.

https://youtu.be/JNIAlH6n6d4

Voices From Care Cymru

The Mix – Being in care

The Mix – Leaving care

MABWYSIADU

Ystyr ‘Mabwysiadu’ yw pan fyddi di yn dod yn rhan o deulu newydd yn gyfreithiol. Bydd rhai pobl yn cael eu mabwysiadu pan fyddan nhw’n cael eu geni, ac eraill yn nes ymlaen yn eu bywydau os na fydd eu rhieni yn gallu gofalu amdanyn nhw bellach. Weithiau bydd llysfam neu lystad yn mabwysiadu rhywun.

MABWYSIADU YN FABI

Bydd rhai rhieni yn aros nes bod y plentyn yn hŷn i ddweud wrthyn nhw eu bod nhw wedi eu mabwysiadu. Bydd eraill yn dweud wrth y plentyn tra eu bod nhw’n ifanc iawn. Penderfyniad y rhieni yw hi p’un ai ydyn nhw’n mynd i ddweud wrth y plentyn neu beidio.

Mae darganfod dy fod ti wedi cael dy fabwysiadu yn gallu bod yn gyfnod dryslyd ac emosiynol. Felly, mae’n bwysig dy fod ti yn cael cymaint o gymorth oddi wrth deulu a ffrindiau ag sy’n bosib. Mae’n hollol naturiol i deimlo’n grac neu’n drist, ond dylet ti geisio trafod dy deimladau gyda dy rieni. Maen nhw yna i dy gynorthwyo di ac maen nhw eisiau gwneud y sefyllfa yn haws i ti, felly gofynna cymaint o gwestiynau a fynnet ti. Ewch i: The Mix – Finding out you’re adopted.

Bydd rhai yn dymuno dod o hyd i’w rhieni biolegol. Efallai bydd hyn yn peri gofid i dy rieni mabwysiadol, nhw sydd yn dy garu di ac sydd wedi dy fagu di. Siarada gyda nhw, a cheisia egluro pam rwyt ti’n dymuno cwrdd â dy rieni biolegol. Mae’n hawdd dychmygu sut bobl fydd dy rieni biolegol, ond efallai byddan nhw’n wahanol i’r hyn rwyt ti’n ei ddisgwyl, ac efallai na fyddan nhw’n cwrdd â dy ddisgwyliadau. Felly paid â gwneud unrhyw benderfyniad cyn meddwl amdano’n drylwyr, a siarad am y sefyllfa gyda phobl fel dy rieni mabwysiadol neu ffrindiau. Rhaid i ti fod yn 18 oed neu’n hŷn i geisio dod o hyd i dy rieni biolegol.

Dy rieni mabwysiadol yw’r bobl sydd wedi dy fagu di, dy fwydo di a dy gadw di’n ddiogel. Felly maen nhw’n haeddu parch a dylet ti eu cadw’n rhan o’r broses gyfan. Bydd hyn yn gyfnod anodd iddyn nhw hefyd, ac efallai bydden nhw’n poeni am golli cyswllt gyda ti. P’un ai wyt ti’n berthynas gwaed neu beidio, dy rieni mabwysiadol yw dy rieni di, nhw yw dy deulu di.

 

MABWYSIADU

Mae dewis cael dy fabwysiadu neu beidio yn benderfyniad enfawr, a ddylai neb pwyso arnat ti i wneud y penderfyniad. Byddi di’n rhan o deulu newydd yn gyfreithiol, yn hytrach na dy deulu biolegol. Felly mae’n rhaid i ti fod yn hapus gyda dy benderfyniad. Dydy hyn ddim yn golygu fyddi di ddim yn gallu gweld dy deulu biolegol, ond mae’n rhaid i ti wneud dy ddymuniadau’n glir yn ystod yr achosion llys.

Os wyt ti’n teimlo’n ddryslyd, beth am siarad â rhywun sydd ddim yn rhan o’r sefyllfa, megis ffrind, rhiant un o dy ffrindiau, cymydog, athro neu athrawes, neu hyd yn oed y gwasanaethau cymdeithasol. Byddan nhw yn dy gynorthwyo di tra byddi di’n gwneud dy benderfyniad, ond allen nhw ddim gwneud y penderfyniad ar dy ran. Fel arall, gallwch chi gysylltu ag un o’r sefydliadau sydd yna er mwyn cynorthwyo pobl ifainc sy’n fodlon gwrando a chynnig cyngor cyfrinachol, er enghraifft MEIC. Cofia, dydy mabwysiadu ddim yn dy newid di fel person, dim ond yn newid y person sy’n gofalu amdanat ti yn gyfreithiol.

Spun Out – Adoption

Mae modd i ti ffonio’r Samariaid ar unrhyw adeg ar 116 123 er mwyn trafod unrhyw broblemau all fod gyda ti. Mae hefyd modd i ti gael sgwrs ar lein gyda rhywun o sefydliad Meic neu ffonia’r llinell gymorth ar 0808 80 23456.

 

MAETHU

Mae gan bob teulu ei broblemau ei hun. Ond, ambell dro, bydd teuluoedd yn ei weld yn anodd ymdopi â’r problemau, ac fe allet ti ddoddef o ganlyniad i hynny. Weithiau mae’n rhaid i blentyn adael y teulu er mwyn sicrhau eu bod nhw’n ddiogel, a bod rhywun yn gofalu amdanyn nhw.

 

Nid dy fai di yw hyn, a dyw hi ddim yn fodd i dy gosbi di ydy hi chwaith. Mae’n gyfle i alluogi dy rieni i droi yn ôl i’r trywydd iawn, ac yn rhoi cyfle i ti fod yn yr amgylchedd gofalgar sydd ei angen arnat ti. Weithiau bydd angen i ti adael dy deulu oherwydd rhesymau esgeulustod neu gamdriniaeth, ac efallai bydd angen i rywun arall ofalu amdanat ti am gyfnod.

  • Bydd yr awdurdod lleol yn trefnu dy fod ti’n byw gyda rhiant maeth tra bod dy rieni di yn derbyn cymorth. Efallai byddet ti ond yn byw mewn rhywle arall am gyfnod byr, ond weithiau gall hyn fod yn rhywbeth tymor hir. Serch hynny, bydd y mwyafrif o blant maeth yn dychwelyd i fyw gyda’u teuluoedd yn y pen draw.
  • Os nad oes modd i ti ddychwelyd i dy deulu, bydd y gwasanaethau cymdeithasol yn dod o hyd i deulu maeth hir dymor i ti. Er y gallai hyn swnio’n frawychus, mae’r gwasanaethau cymdeithasol yn ceisio gwneud yr hyn sydd orau i ti. Bydd y sefyllfa yn un anodd i ddechrau, ond ceisia siarad â dy gynhaliwr newydd am sut rwyt ti’n teimlo a bydd pethau yn gwella.
  • Ystyr ‘gorchymyn gofal’ yw pan fydd gan y gwasanaethau cymdeithasol gyfrifoldeb drosot ti yn hytrach na dy rieni. Bydd hyn yn para nes i ti fod yn 18 oed, oni bai bod rhywun yn gofyn i’r llys i dynnu’r gorchymyn.
  • Mae cael dy orfodi i adael dy deulu yn anodd iawn. Mae’n debygol dy fod ti’n mynd i deimlo’n grac, yn drist, yn unig neu wedi dychryn. Efallai byddi di’n teimlo bod dy deulu neu’r gwasanaethau cymdeithasol wedi dy fradychu di. Mae’n hollol naturiol i deimlo fel hyn. Ond, paid â chadw dy deimladau i ti dy hun, siarad â’r gwasanaethau cymdeithasol am sut rwyt ti’n teimlo. Maen nhw’n gweithio gyda phobl ifainc bob dydd ac mi fyddan nhw yn deall ac yn ceisio dy helpu di.
  • Bydd gan bawb dy fuddiannau pennaf mewn golwg, er na fydd yn teimlo fel hyn ar adegau. Efallai byddi di wedi drysu gan y sefyllfa, neu’n poeni am dy ddyfodol ac yn dymuno siarad â rhywun.

Os nad oes modd i ti siarad â’r gwasanaethau cymdeithasol neu dy gynhaliwr, mae yna sefydliadau ar gael sy’n gallu cynnig cymorth i ti am ddim. Mae’r rhestr isod yn nodi rhifau ffôn y bobl sy’n gallu rhoi cymorth i ti.

Mae modd i ti ffonio’r Samariaid ar unrhyw adeg ar 116 123 er mwyn trafod unrhyw broblemau all fod gyda ti. Mae hefyd modd i ti gael sgwrs ar lein gyda rhywun o sefydliad Meic neu ffonia’r llinell gymorth ar 0808 80 23456.

Voices From Care Cymru

The Mix – Being in care

Rhywbeth i ddweud?