Bwlio

Mae gan bawb yr hawl i fod yn hapus ac os ydy rhywun yn gwneud i ti deimlo’n anhapus, anghyfforddus, bach, ofnus a/neu’n ddi-werth, yna mae’n rhaid delio â’r sefyllfa yn syth! Os wyt ti, neu rywun rwyt ti’n eu hadnabod, yn dioddef o fwlio mae’n bwysig dy fod ti yn trafod hyn gyda rhywun. Gallet ti droi at athro/athrawes, tiwtor, gweithiwr cymdeithasol, dy reolwr (os yw’n digwydd yn y gwaith) neu dy rieni neu warcheidwaid.

Mae yna restr o sefydliadau ac elusennau isod sydd yn gallu cynnig cyngor a chymorth os wyt ti’n cael dy effeithio gan unrhyw fath o fwlio.

Mae seiber-fwlio yn broblem fawr heddiw, gan ein bod ni i gyd wedi cysylltu’n gymdeithasol trwy’r dydd a phob dydd. Cer i dudalen Bullies Out’s ar seiber-fwlio. Mae yna ragor o wybodaeth am aros yn ddiogel ar-lein yn ein hadran ‘Y Rhyngrwyd a’r Cyfryngau Cymdeithasol.

Mae rhywun yn fy mwlio yn yr ysgol

Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) – Mynd i’r afael â seiber-fwlio

The Mix – Bullying

ChildLine 0800 1111

Bullybusters 0800 169 6928

Mae modd i ti ffonio’r Samariaid ar unrhyw adeg ar 116 123 er mwyn trafod unrhyw broblemau all fod gyda ti. Mae hefyd modd i ti gael sgwrs ar lein gyda rhywun o sefydliad Meic neu ffonia’r llinell gymorth ar 0808 80 23456.

Rhywbeth i ddweud?