Ffrindiau

Mae ffrindiau yn berthnasau arbennig iawn sy’n galla para oes.

Dy ffrindiau yw’r bobl yr wyt ti yn treulio amser gyda nhw, mwynhau ac ymddiried ynddyn nhw. Maen nhw’n bobl y byddi di yn dod i’w hadnabod, hoffi ac ymddiried ynddyn nhw. Gallen nhw hefyd gynnig help a chymorth os oes angen. Bydden nhw’n gwrando arnat ti a rhoi cyngor da – hyd yn oed os na fyddi di yn dymuno ei glywed ambell dro!

Bydd ffrind go iawn yn dy werthfawrogi di a dy dderbyn di fel yr wyt ti. Fydden nhw ddim yn dy fwlio neu dy wthio di i wneud pethau nad wyt ti’n gyfforddus yn eu gwneud. Mae’n hollol naturiol bod ffrindiau yn cweryla o dro i dro. Dydy bod yn ffrindiau ddim yn golygu dylech chi ddim anghytuno. Sail pob perthynas dda yw parch a gonestrwydd.

Mae pawb yn wahanol, felly bydd rhai yn hoffi cael mwy o ffrindiau nag eraill. Bydd gan rai grŵp mawr o ffrindiau, ond bydd gan eraill un neu ddau ffrind agos iawn. Bydd rhai pobl yn dewis peidio â chael llawer o ffrindiau ac yn treulio llawer o amser ar eu pen eu hunain neu gyda’u teuluoedd – mae hyn yn berffaith iawn hefyd. Bydd rhai yn ei gweld yn hawdd gwneud ffrindiau, ac eraill yn ei chael hi’n fwy anodd. Os wyt ti’n ei chael hi’n anodd gwneud ffrindiau, ceisia siarad â phobl wahanol nes i ti ddod o hyd i rywun sydd â diddordebau tebyg i ti. Gall cyfeillgarwch da fod yn foddhaus iawn ac yn werth chweil. Bydd ffrindiau yn ein cyflwyno ni i bethau a diddordebau newydd. Byddi di’n dysgu rhywbeth newydd oddi wrth bob ffrind sydd gyda ti.

Os wyt ti’n dechrau mewn ysgol, prifysgol neu swydd newydd, byddi di yn gwneud ffrindiau newydd yn fuan iawn, ond bydd dy hen ffrindiau yn dal i fod yna. Os nad oes modd i ti weld dy ffrindiau mor aml ag yr hoffet ti, mae modd i ti gadw mewn cyswllt dros y ffôn, drwy anfon negeseuon testun neu drwy e-bost.

Mitchell’s Friendship Tips –

Ffrindiau Tra’n 11-14 Oed

Symud Ysgol

  • Mae symud o ysgol gynradd i ysgol uwchradd yn gyfnod cyffrous iawn. Ond mae hefyd yn gallu bod yn anodd os dwyt ti ddim yn symud gyda dy ffrindiau neu os byddi di mewn dosbarth gwahanol i dy ffrindiau am y tro cyntaf. Mae hyn yn gallu bod yn syniad ofnus iawn, felly siarad â dy ffrindiau os wyt ti’n poeni neu os wyt ti’n tybio eu bod nhw yn poeni am rywbeth.
  • Cofia, bydd ffrindiau go iawn yn parhau i fod yn ffrindiau hyd yn oed os dydyn nhw ddim gyda’i gilydd trwy’r amser neu hyd yn oed os ydyn nhw’n gwneud ffrindiau newydd. Mae modd i ti barhau i weld dy ffrindiau ar ôl ysgol, ar y penwythnosau neu yn ystod gwyliau’r ysgol.
  • Trwy symud i ysgol newydd byddi di yn cwrdd â nifer fawr o bobl newydd, ac efallai byddi di yn gwneud ffrindiau newydd. Ond mae’n bwysig i beidio ag anghofio am dy hen ffrindiau. Beth am eu cyflwyno i dy ffrindiau newydd?
  • Os wyt ti’n meddwl bod ffrind yn cael problemau yn yr ysgol, siarad â nhw a cheisio’u hannog i siarad gyda’u rhieni, gwarcheidwaid neu athro/athrawes y maen nhw’n ymddiried ynddyn nhw.

Y Glasoed

  • Pan fyddi di’n 11-14 oed byddi di’n gweld newidiadau corfforol wrth i ti brofi cyfnod y glasoed. Mae rhagor o wybodaeth a chyngor yn adran Y GLASOED.
  • Bydd dy ffrindiau yn profi pethau tebyg iawn, felly dylet ti drafod hyn gyda nhw a chynnig cymorth iddyn nhw os ydyn nhw’n dymuno siarad gyda ti.

Ffrindiau Tra’n 15-16 Oed

Arholiadau

  • O fod yn 15-16 oed, byddi di yn adolygu ac yn sefyll dy arholiadau. Mae hyn yn gyfnod ingol a gall arholiadau golygu peidio â gweld dy ffrindiau cymaint yn ystod y cyfnod yma. Mae dy arholiadau yn rhan bwysig yn dy fywyd addysg. Bydd ffrind go iawn yn dy annog di i wneud dy orau glas, byddan nhw’n dal i fod yn ffrind i ti ar ôl dy arholiadau.
  • Gall gyfnod dy arholiadau fod yn gyfnod llawn pryder, os wyt ti’n teimlo’n bryderus neu’n nerfus, efallai bydd yn syniad da i ti siarad gyda dy ffrindiau. Mae’n debygol iawn y bydden nhw’n profi teimladau tebyg a gallen nhw gydymdeimlo gyda ti. Efallai bydd dy ffrindiau yn dod atat ti i drafod eu teimladau, felly ceisia fod yn gynorthwyol.

Cariadon (Sboner neu Wejen)

  • Efallai byddi di neu dy ffrindiau yn cael cariad newydd, ac efallai bydd hyn yn golygu fyddi di ddim yn gweld dy ffrindiau cymaint ag arfer. Mae hyn yn hollol naturiol, ond weithiau bydd yn teimlo fel bod dy ffrindiau wedi anghofio amdanat ti. Ceisia siarad gyda nhw am sut rwyt ti’n teimlo, ac awgrymu i dreulio amser gyda’ch gilydd.
  • Os wyt ti mewn perthynas, rhaid cofio am dy ffrindiau. Efallai fydd dy berthynas ddim yn para am byth, ond bydd dy ffrindiau yna i ti o hyd, felly paid â cholli cyswllt gyda nhw.
  • Os ydy dy ffrindiau mewn perthynas hefyd, beth am drefnu i bawb i gwrdd â gwneud rhywbeth fel grŵp?

Os wyt ti neu dy ffrindiau yn poeni am unrhywbeth o gwbl, dylech chi drafod sut yr ydych chi’n teimlo. Bydd ffrindiau go iawn yn derbyn pwy wyt ti.

Ffrindiau Tra’n 17-18 Oed

Yn aml, bydd y mwyafrif o dy ffrindiau di yn dod o’r ysgol. Felly ar ôl gadael yr ysgol er mwyn mynd i’r brifysgol neu i ddechrau swydd newydd, bydd cadw mewn cyswllt gyda rhai ffrindiau yn anodd.

Efallai byddi di neu dy ffrindiau yn symud i ffwrdd er mwyn mynd i’r brifysgol neu i ddechrau gyrfa ac yna’n cwrdd â ffrindiau newydd. Byddi di yn cadw rhai ffrindiau drwy gadw mewn cysylltiad yn ystod y tymor neu yn cwrdd dros wyliau’r haf. Ond, gydag eraill fydd hyn ddim yn digwydd. Ddylet ti ddim teimlo’n euog am hyn, mae’n sefyllfa gyffredin iawn.

Weithiau bydd pobl yn colli cyswllt pan fydd bywydau yn newid a bydd gennych chi lai o bethau yn gyfarwydd â nhw. Does dim bai ar neb am hyn. Weithiau bydd ffrindiau yn dod yn ôl i dy fywyd yn hwyrach ymlaen. Felly, hyd yn oed os wyt ti’n colli cyswllt gyda nhw am ychydig flynyddoedd, dydy hyn ddim yn golygu y fyddi di ddim yn ffrindiau eto yn y dyfodol.

Byddi di yn cwrdd â nifer o bobl newydd yn y brifysgol neu yn dy swydd newydd. Mae’n bosib y daw rhai ohonyn nhw i fod yn ffrindiau da.

The Student Room – don’t want to lose school friends

Ffrindiau Tra’n 19-25 Oed

Efallai bydd rhai o dy ffrindiau mewn perthnasau hir-dymor, yn byw gyda phartner, yn priodi neu’n dechrau teulu eu hunain.

Efallai bydd rhaid iddyn nhw symud i dref, dinas neu wlad arall i weithio.

Efallai bydd angen math gwahanol o gymorth ar dy ffrindiau nag y maen nhw wedi disgwyl yn y gorffennol. Efallai bydd yn anodd trefnu i dreulio amser gyda nhw. Mae’n bwysig cadw mewn cyswllt, er nad oes modd gweld eich gilydd wyneb yn wyneb. Mae modd defnyddio cyfryngau cymdeithasol, negeseuon testun neu ffonio er mwyn dangos dy fod ti’n parhau i fod yn ffrind iddyn nhw.

Er eu bod nhw’n brysur gyda phethau eraill yn eu bywydau, mae eu ffrindiau dal yn bwysig iddyn nhw felly mae angen i ti allu eu cynorthwyo pan fydd angen. Efallai bydd ffrindiau yn troi atat ti yn ystod cyfnodau pwysig yn eu bywydau, er enghraifft symud i fyw gyda phartner neu gael babi.

Gall cydbwyso swydd, perthynas, teulu a ffrindiau fod yn anodd iawn felly efallai gallet ti geisio trefnu dyddiadau penodol i weld dy ffrindiau. Un noson reolaidd bob mis, gwneud gweithgaredd mae pawb yn mwynhau gwneud, neu drwy ymweld â’ch gilydd?

 

Rhywbeth i ddweud?