Cynnal Eich Cartref

Pan fyddi di’n symud i dy gartref newydd, bydd llawer o bethau i’w hystyried yn hytrach na chael dy ddodrefn, penderfynu ble i hongian y lluniau a pha liw i beintio’r lle.

Mae angen i ti feddwl am dalu’r biliau a threth y cyngor, cael yswiriant cartref, trefnu llinell ffôn, cadw’r tŷ mewn cyflwr da a’i warchod yn dda. Os ydwyt yn newydd i’r ardal, mae hefyd yn golygu setlo i mewn i dy stryd, tref neu ddinas newydd a dod i adnabod dy gymdogion.

Mae’r adran hon yn edrych ar wahanol agweddau ar fyw yn a chynnal dy gartref newydd, ynghyd ag awgrymiadau defnyddiol i wneud byw ar dy ben dy hun mor hawdd â phosibl.

BILIAU

Mae symud mewn i dŷ newydd yn ymrwymiad ariannol mawr. Yn ogystal â thalu dy rent neu dy forgais, rhaid i ti ystyried y biliau y mae’n rhaid i ti eu talu – a chynllunio amdanyn nhw.

P’un ai dy fod yn rhentu neu’n berchen ar dŷ dy hun, bydd rhaid i ti dalu biliau am:

  • Nwy
  • Trydan
  • Dŵr

Mae’n bosib y bydd rhaid i ti dalu:

  • Treth cyngor
  • Biliau ffôn neu ryngrwyd
  • Trwydded deledu

Pan fyddi di’n symud mewn, mae’n bwysig nodi’r mesuryddion nwy a thrydan a chysylltu â dy holl gyflenwyr pŵer i roi gwybod iddynt dy fod wedi symud mewn a rhoi dy fanylion iddynt. Bydd hyn yn sicrhau na fyddi di’n derbyn biliau pobl eraill.

  • Mae’n werth gofyn i gyflenwyr am amcangyfrif o dy fil misol, chwarterol neu flynyddol (yn dibynnu ar sut yr ydwyt yn talu) fel y gallet ti gynnwys hwn yn dy gyllideb
  • Mae’n werth ystyried debydau uniongyrchol misol neu archebion sefydlog i dalu dy filiau. Byddi di’n gwybod faint yn union o arian y bydd gennyt bob mis ac nid ydwyt yn derbyn unrhyw beth annisgwyl cas gyda biliau chwarterol yn cyrraedd bob tri mis
  • Gan ddibynnu ar dy amgylchiadau, mae’n bosib y bydd rhaid i ti dalu treth cyngor. Mae’r swm y bydd rhaid i ti ei dalu yn dibynnu ar ble ti’n byw a faint o gyflog ti’n ei dderbyn

LLEIHAU DY FILIAU YNNI

Os creda di fod dy filiau ynni (nwy, trydan a dŵr) yn rhy ddrud, mae modd lleihau dy filiau trwy arbed ynni:

  • Sicrha fod dy ddrysau a dy ffenestri wedi’u selio’n iawn i atal drafftiau a pheidio â gwastraffu gwres
  • Cer yn y gawod yn hytrach na’r bath i arbed dŵr
  • Diffodda’r golau wrth i ti adael ystafell
  • Caea’r llenni yn y cyfnos i gadw gwres yn yr ystafell
  • Sicrha fod y tapiau wedi’u cau yn gywir. Gall tapiau sy’n diferu codi’r bil dŵr llawer
  • Diffodda’r tap wrth frwsio dy ddannedd
  • Peidia â chadw offer trydanol mewn ‘modd segur’ (‘stand-by’) pan nad ydynt yn cael eu defnyddio
  • Defnyddia fylbiau arbed ynni yn hytrach na fylbiau arferol
  • Peidia â llenwi dy degell bob tro yr ydwyt am wneud paned o de. Rho’r dŵr sydd ei angen arnat ynddo yn unig
  • Dadrewa dy oergell yn gyson fel y bydd yn gweithio’n fwy effeithiol ac yn rhatach
  • Newidia i gyflenwr nwy neu drydan rhatach

Bydd yr uchod nid yn unig yn arbed arian, ond yn helpu i arbed yr amgylchedd. Wrth ddewis neu newid cyflenwyr egni neu wasanaethau, ymchwilia i bob cwmni i gael y fargen orau, ond bydda’n sicr o’ r manylion cyn llofnodi unrhyw beth!

Os ydwyt yn ei chael hi’n anodd talu biliau, paid â phryderu. Cymera gyngor o’n hadran Dyled.

Rhywbeth i ddweud?