Byw A Gweithio Dramor

Mae’r adran yma yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen i ti wybod am weithio mewn gwlad tramor. Mae’n bwysig dy fod ti’n ymwybodol o dy hawliau a beth i’w ddisgwyl o dy brofiad o weithio mewn gwledydd eraill. P’un ai wyt ti eisiau dod o hyd i swydd mewn gwlad tramor, cael blwyddyn allan o addysg neu gyfnod sabothol, mae’r adran yn nodi’r manylion ac yn esbonio’r ffyrdd y gallet ti wneud hyn.

Mae mwy a mwy o Brydeinwyr yn dewis gweithio dramor. Disgwylir y bydd dwy filiwn o bobl yn ychwanegol yn weithwyr mudol erbyn 2020.

  • Mae nifer o bobl yn dewis gweithio tu allan i Brydain er mwyn cael her newydd, er mwyn cael newid neu i gael profiad newydd neu weithiau i gael ansawdd bywyd gwell.
  • Gall weithio mewn gwlad tramor fod yn brofiad brawychus, felly mae’n hanfodol i gynllunio ymlaen llaw cymaint ag sy’n bosib.

The Mix’s Guide to Gap Years, Work and Study Abroad

Pethau I’W Hystyried Cyn Gadael

  • Cysyllta â’r ganolfan byd gwaith leol i gael rhagor o wybodaeth ar weithio yn Ewrop. Gallen nhw dy helpu di i ddod o hyd i waith ac egluro dy hawliau
  • Efallai hoffet ti deithio i wlad arall cyn chwilio am waith. Bydd modd i ti weld sut le yw’r wlad a phenderfynnu ble yr hoffet ti fyw.
  • Pan fyddi di’n gwneud ceisiadau am swyddi mewn gwledydd tramor, dylet ti baratoi CV sy’n rhestru dy gymwysterau, dy sgiliau a dy brofiad gwaith. Efallai byddi di’n dymuno chwilio am waith ar dy ben dy hun er mwyn dod o hyd i swydd.
  • Bydd yn ymwybodol o’r dulliau gwahanol sydd gan wledydd gwahanol o ysgrifennu CV neu lythyr.
  • Efallai byddi di’n gweld bod dim angen i ti ddysgu iaith y wlad yr wyt ti’n bwriadu gweithio ynddi, ond fe ddylet ti ystyried dysgu’r iaith ta beth, er mwyn gwella dy brofiad.
  • Po fwyaf y byddi di’n ceisio deall am y wlad yr wyt ti’n ymweld â hi, po gorau fydd y profiad. Gwna ymchwil er mwyn deall mwy am y wlad cyn mynd.

Rheoliadau

  • Bydd gan rai gwledydd yn Ewrop, sydd ddim yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, ddeddfau cyfyngol ynglŷn â chyflogi pobl sydd ddim yn dod o’r wlad honno. Bydd y ganolfan byd gwaith yn darparu rhagor o wybodaeth.
  • Bydd rhai gwledydd yn gofyn bod teitheb gyda ti neu drwydded waith er mwyn gweithio dramor. Mae’n syniad da i gysylltu â’r Llysgenhadaeth Brydeinig yn y wlad honno. Bydd modd iddyn nhw roi gwybodaeth i ti ar deithebau, trwyddedau gwaith, budd-daliadau a’r cymwysterau angenrheidiol.

Gwaith Gwirfoddol

  • Mae gwirfoddoli mewn gwlad tramor yn ffordd wych i fagu hyder a gwella dy brofiad.
  • Mae gwirfoddoli yn ffordd foddhaus iawn i weld y byd. Bydd gwirfoddoli mewn gwlad tramor yn rhoi cyfle i ti brofi diwylliannau newydd, i ddysgu sgiliau newydd a chwrdd â ffrindiau newydd, tra hefyd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
  • Rhaid i ti wneud yn siwr dy fod ti’n defnyddio asiantaeth ag enw da i ddod o hyd i leoliad ar dy ran. Y peth gorau i wneud yw siarad â phobl eraill sydd wedi gwneud rhywbeth tebyg, ac i ymchwilio ar-lein.
  • Does dim rhaid gwirfoddoli trwy sefydliad bob tro, gallet ti ofyn i gymydog os oes angen help yn yr ardd neu yn eu cartrefi.

Gwirfoddoli Cymru

The Mix – Volunteering

Isod y mae rhestr o asiantaethau gwirfoddoli rhyngwladol sy’n cynnig gwaith gwirfoddol ar sail fyd-eang.

GVI Volunteer Work Abroad

International Volunteer HQ

Maximo Nivel

Love Volunteers

Gweithio Tymhorol

Fel arfer, bydd gweithio tymhorol yn cyfeirio at swyddi y mae pobl yn eu gwneud am gyfnod yr haf neu gyfnod y gaeaf.

  • Gwna’n siwr dy fod ti’n cynllunio ymlaen llaw oherwydd mae’n gallu bod yn broses gystadleuol i ddod o hyd i waith ar gyfer yr haf neu’r gaeaf.
  • Mae rhai swyddi poblogaidd dros yr haf neu’r gaeaf yn cynnwys lletygarwch ac arlwyo, yn ogystal â thwristiaeth a theithio, adloniant a gofal plant.
  • Bydd o gymorth i ti os oes profiad neu gymhwyster perthnasol gyda ti. Bydd hyn yn gwneud i ti sefyll allan o blith yr ymgeiswyr eraill ac yn rhoi mwy o gyfle i ti i gael swydd.

 

TEITHEBAU A THRWYDDEDAU GWAITH

Mae gweithio yn ffordd wych o ddod i nabod y wlad, ond cyn i ti fynd mae’n hanfodol bod gyda ti’r deitheb neu drwydded waith gywir.

  • Os wyt ti’n dymuno mynd i wlad sy’n rhan o’r Gymdeithas Masnach Rydd Ewrop, Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Undeb Ewropeaidd does dim angen teitheb neu drwydded waith arnat ti.
  • Mae yna sawl cynllun sy’n gallu trefnu lleoliadau gwaith mewn gwledydd tramor megis Camp America neu swyddi lle rwyt ti’n gweithio fel athro/athrawes sy’n dysgu Saesneg fel iaith dramor. Bydd y cwmniau yn trefnu teitheb gwaith i ti.
  • Gan ddibynnu ar ba wlad yr wyt ti’n dymuno mynd iddi, efallai bydd angen i ti brofi bod swydd gyda ti cyn gadael. Dyma beth fydd yn digwydd yn yr Unol Daleithiau. Bydd rhaid i dy gyflogwyr noddi dy deitheb.
  • Gallet ti gysylltu â llysgenhadaeth y wlad, a bydd modd iddyn nhw ddweud wrthot ti am ofynion teithebau gwaith ar gyfer y wlad honno.
  • Mae modd i ti wirio’r hyn sydd ei angen arnat ti i ymweld â phob gwlad trwy fynd i gyfeiriadur y Swyddfa Dramor a Chymanwlad.

Blwyddyn Egwyl

Mae blwyddyn egwyl yn gyfle i ti weld a gwneud pethau byddet ti byth wedi gallu profi o’r blaen, cyn parhau gydag addysg neu ddod o hyd i waith. Mae’n gyfle i adael unrhyw gyfrifoldebau ar ôl, wrth brofi’r byd!

  • Mae blynyddoedd egwyl wedi dod yn rhywbeth poblogaidd iawn, ac erbyn hyn mae cymaint o gyfleoedd ar gael i ti ym Mhrydain a thramor. Gallet ti deithio gyda grŵp neu ar dy ben dy hun neu gael profiad gwaith neu hyfforddiant gwerthfawr.
  • Fel arfer, bydd pobl yn cymryd blwyddyn egwyl ar ôl gadael yr ysgol a chyn dechrau’r brifysgol neu swydd, ond gallet ti gymryd flwyddyn egwyl ar unrhyw adeg yn dy fywyd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen Cyfnodau Sabothol [link to 3c8 Sabbaticals] ar y wefan yma.
  • Mae’n syniad da i siarad â phobl eraill sydd eisoes wedi bod ar flwyddyn egwyl. Gallen nhw roi cyngor uniongyrchol ynghylch beth i’w wneud a ble i fynd.

Teithio

  • Mae yna sawl cwmni sy’n cynnal teithiau blwyddyn egwyl i bob ban y byd. Yn aml bydd y cynlluniau blwyddyn egwyl yn cael eu rhannu, ac efallai byddi di’n cymryd rhan mewn prosiect gwirfoddol megis dysgu neu waith cymunedol. Yna bydd cyfle am daith fintai neu deithio’n annibynnol.
  • Mae’r cynlluniau’n dueddol o fod yn ddrud, ac mae’n debygol y bydd rhaid i ti godi ychydig o’r arian cyn mynd. Serch hynny, un o fanteision y prosiectau yw bod popeth wedi trefnu ar dy ran, tra byddi di hefyd yn cwrdd â llawer o bobl newydd ac yn ennill profiad gwerthfawr.
  • Ond, os oes well gen ti, gallet ti deithio ar dy ben dy hun. Mae teithio’n annibynnol yn ffordd wych o fagu hyder a darganfod pethau newydd amdanat ti dy hun. Unwaith y bydd gen ti brofiad o edrych ar ôl dy hun mewn gwlad tramor, heb fod yn gyfarwydd â’r iaith neu draddodiadau, byddi di’n teimlo fel gallet ti gyflawni unrhywbeth! Mae hefyd yn ffordd dda i gwrdd â phobl eraill na fyddet ti wedi cwrdd â nhw fel arall.
  • Os wyt ti’n teithio yn Ewrop, efallai hoffet ti ystyried prynu tocyn ‘Interrail’. Mae hyn yn dy ganiatáu i deithio cymaint a fyddi di’n dymuno mewn gwledydd penodol.
  • Os wyt ti’n mynd i deithio tu hwnt i Ewrop, efallai y byddai’n syniad i brynu tocyn awyren ‘o amgylch y byd’. Ti sy’n dewis lle’r wyt ti’n mynd ac yna, cyn belled ag y byddi di’n cadw at dy daith yn ôl i’r Deyrnas Unedig, gallet ti deithio mor gloi neu mor araf ag yr wyt ti’n dymuno.

Gweithio

  • Mae’n debygol y bydd angen i ti gael swydd am ran o dy flwyddyn egwyl cyn i ti deithio, er mwyn talu am dy daith. Mae hyn yn syniad da gan ei fod yn dy helpu di i baratoi yn ariannol, felly bydd llai gyda ti i boeni amdani yn ystod y daith.
  • Yn ogystal â swydd achlysurol, gallet ti hefyd geisio cael profiad gwaith sy’n gysylltiedig â’r gyrfa yr hoffet ti anelu amdani. Bydd rhai cwmniau mawr yn cynnig lleoliadau blwyddyn egwyl ar gyfer rhai sy’n gadael yr ysgol, yn enwedig mewn diwydiannau megis bancio, peirianneg a Thechnoleg Gwybodaeth.
  • Gallet ti hefyd gael swydd pan fyddi di’n teithio er mwyn ariannu’r daith. Mae nifer o bobl yn gwneud swyddi megis casglu ffrwythau neu weithio mewn tafarn neu fwyty er mwyn cael arian ychwanegol.
  • Mae’n anoddach i gael teithebau gwaith mewn rhai gwledydd. Os hoffet ti weithio yn yr Unol Dalaethau, er enghraifft, bydd rhaid i ti drefnu swydd cyn i ti fynd. Yna bydd y cyflogwr yn ‘noddi’ dy daith. Serch hynny, mae’n weddol hawdd i gael teitheb am waith achlysurol yn Awstralia. Dylet ti gysylltu â Llysgenhadaeth y wlad yr hoffet ti weithio ynddi ymlaen llaw er mwyn gwirio beth yw’r rheolau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn adran Teithebau a Thrwyddedau Gwaith y wefan yma.
  • Dydy ‘gweithio’ ddim o reidrwydd yn golygu casglu cyflog chwaith – efallai hoffet ti ystyried gwaith gwirfoddol. Gallet ti wirfoddoli mewn gwlad tramor, fel artho/athrawes, neu gallet ti wirfoddoli mewn lleoliad lleol, fel gweithio mewn cartref gofal. Mae gwirfoddoli yn ffordd wobrwyol iawn o helpu eraill, ac mae’n gallu bod yn hwylus iawn! Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran Gwirfoddoli.

Astudio

  • Mae astudio yn ystod blwyddyn bwlch yn ffordd dda i ti ddarganfod pa fath o beth hoffet ti astudio nes ymlaen, yn enwedig os wyt ti’n ansicir am beth hoffet ti astudio yn y Brifysgol.
  • Gallet ti wneud cwrs sylfaen er mwyn darganfod pa faes o fewn pwnc sydd o ddiddordeb i ti. Mae’n ddefnyddiol i gael cwrs sylfaen os hoffet ti astudio celf neu feddyginiaeth os nad oes Lefelau A gwyddonol gen ti.
  • Mae’r cyfnod hefyd yn gyfle i ti ddysgu sgil newydd sbon. Mae modd i ti ddysgu iaith newydd, cyflawni dy Drwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd, neu roi cynnig ar gwrs galwedigaethol megis plymwaith. Bydd gan dy goleg addysg bellach fanylion ar ba gyrsiau sydd ar gael.
  • Mae modd i ti wneud cwrs mewn gwlad dramor. Os oes gen ti ddiddordeb mewn hanes celf, beth am fynd i’r Eidal er mwyn astudio’r paentiadau go iawn? Neu os mai hanes yr henfyd sydd at dy ddant, beth am ymweld â safleoedd Rhufeinig a Groegaidd yng nglannau’r Canolfor?

Gov.UK’s Advice on Gap Years

The Student Room – Gap Years

Cyfnewidiadau

Mae cyfnewid swyddi yn fwyfwy poblogaidd erbyn hyn. Mae’r broses yn cynnwys cyfnewid swydd â rhywun sy’n gwneud gwaith tebyg i ti. Gall cyfnewid hefyd gyfeirio at swydd breswyl neu gyfnod o waith dramor, rhywbeth tebyg i gyfnewidiad ysgol.

  • Os wyt ti’n gweithio llawn amser, gallet ti ddefnyddio’r rhyngrwyd i ddod o hyd i bobl sy’n gwneud swyddi tebyg mewn gwlad arall a threfnu cyfnewidiad dy hun.
  • Mae rhai swyddi’n addas iawn am gyfnewidiadau, megis athrawon, llyfrgellwyr, gweithwyr llafur ac amaethyddiaeth.
  • Gall cyfnewidiad wella dy ddealltwriaeth o dy swydd dy hun, drwy roi cipolwg ar sut mae pethau’n gweithio mewn gwlad arall.
  • Mae nifer o raglenni cyfnewid yn trefnu teithiau i bobl ifainc, gan gynnwys teithiau awyren, teithebau gwaith ac weithiau bydden nhw’n trefnu lleoliadau gwaith. Mae hyn yn ddefnyddiol iawn, a bydd yn lleddfu llawer o straen a gofidion y cyfnewidiad. Gyda sefydliadau fel UNA Exchange, does dim rhaid i ti gyfnewid swydd â rhywun arall o reidrwydd.
  • Weithiau, mae modd i ti gyfnewid swyddi gyda rhywun sydd yn gweithio i’r un sefydliad â ti. Mae’n syniad da i ymchwilio gyda’r person hoffet ti gyfnewid ag e/hi ac yna mynd at dy gyflogwr gyda chynllun cadarn.

Inter Exchange

Cyfnodau Sabothol

Mae’n gyfarwydd iawn i bobl gael egwyl o’u swyddi llawn amser er mwyn mynd i deithio neu wirfoddoli mewn gwlad arall.  Efallai bydd yn gyfnod i ti orffwys cyn ymgymryd ag ymrwymiadau hir dymor, neu’n gyfnod i feddwl am beth rwyt ti am wneud gyda dy fywyd.

Os wyt ti’n ystyried cymryd egwyl yn dy yrfa, mae’n bwysig i edrych ar y rhesymau pam yr hoffet ti ei wneud. Os dwyt ti ddim yn hapus yn dy waith neu mewn perthynas, ceisiwch wella unrhyw broblemau cyn gadael – mae’n debygol bydd pethau’n waeth ar ôl dychwelyd adref.

  • Mae modd trefnu cyfnod sabothol gyda dy gyflogwr. Byddi di’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl cyfnod penodol o amser. Gofynna i dy reolwr am bolisi’r cwmni ynghylch cyfnodau sabothol. Gall cyfnodau sabothol fod â thâl neu’n ddi-dâl, ond bydd rhaid trafod hyn a dy reolwr.
  • Gallet ti barhau i weithio os wyt ti’n penderfynu teithio. Er enghraifft, os newyddiadurwr wyt ti, beth am ysgrifennu am dy brofiadau wrth i ti deithio?
  • Cofia, mae cyfnod sabothol yn fraint nid hawl. Er mwyn perswadio dy gyflogwr o’r buddion, dylet ti gynllunio agenda gwerth chweil.
  • Mae yna rai cyflogwyr sy’n cynnig cynlluniau sabothol fel rhan o dy gontract. Os wyt ti’n gweithio am gyfnod penodol, ychydig flynyddoedd fel arfer, efallai byddi di’n gymwys i gael cyfnod sabothol.
  • Cyn penderfynnu dy fod ti’n dymuno cymryd cyfnod sabothol, mae’n debyg bydd disgwyl i ti ddysgu sgil newydd a fydd o fudd i ti pan fyddi di yn dychwelyd i’r gwaith, megis dysgu iaith newydd.
  • Efallai bydd dy gyflogwr yn gosod cyfyngiadau penodol ar y pethau y gallet ti eu gwneud, megis dy rwystro di rhag gweithio i gwmnïau cystadleuol.
  • Cyn penderfnu mynd ar gyfnod sabothol, gwna’n siwr fod popeth wedi’i drefnu’n ofalus gyda dy gyflogwr. Hyd yn oed os na fyddi di’n cael dy dalu, dylet ti sicrhau dy fod ti’n aros yn gyflogai yn y cwmni. Bydd hyn yn caniatáu i ti gadw dy hawliau cyflogai, megis lwfansau pensiwn.
  • Mae sabothol yn ychwanegiad cyffredin mewn nifer o swyddi academaidd. Bydd nifer o diwtoriaid prifysgol yn defnyddio’r cyfnod sabothol i ysgrifennu llyfrau neu i gynnal ymchwil.

    Arian

    Mae’n hynod bwysig dy fod ti’n trefnu arian cyn teithio. Bydd angen i ti gael mynediad at ddigon o arian er mwyn i ti allu gwneud yr hyn yr wyt ti’n dymuno’i wneud, yn ogystal â chael arian ychwanegol os bydd argyfwng.

    • Bydd yn effro i’r math o arian sy’n cael ei ddefnyddio yn y wlad/gwledydd yr wyt ti’n teithio iddyn nhw.
    • Cer i swyddfa bost, banc neu asiant deithio lleol i gyfnewid dy arian cyn i ti fynd. Mae gan y rhan fwyaf o archfarchnadoedd mawr gyfleusterau cyfnewid arian tramor hefyd. Mae rhai cyfleusterau yn cynnig cyfraddau/telerau gwell nag eraill, felly mae’n werth chweil ymchwilio ac edrych ar gyfleusterau gwahanol.

    Faint O Arian Sydd Angen I Mi Gymryd?

    • Cyn gadael, bydd angen i ti gynllunio’n ofalus faint y gelli di wario pan fyddi di’n teithio. Mae’n syniad da i gyfrifo ‘cyllideb’ er mwyn dy helpu di i sicrhau dy fod ti ddim yn rhedeg allan o arian.
    • Bydd y swm o arian yr wyt ti’n ei gymryd yn dibynnu ar y wlad yr wyt ti’n teithio iddi, faint rwyt ti’n gallu fforddio, hyd y daith a’r pethau yr hoffet ti eu gwneud pan fyddi di’n teithio.
    • Mae rhai gwledydd yn fwy drud nag eraill, felly mae’n syniad da i ymchwilio faint bydd llety, bwyd a gweithgareddau yn costio cyn mynd.
    • Cofia i adael digon o arian i ti deithio yn ôl!

    Gostyngiadau I Fyfyrwyr

    • Os oes Cerdyn Adnabod Myfyrwyr Rhyngwladol gyda ti, efallai bydd hawl gen ti i ostyngiadau ar gyfer teithio, nwyddau a gwasanaethau. Mae modd cael cerdyn oddi wrth y Cydffederasiwn Teithio i Fyfyrwyr Rhyngwladol.
    • Gallet ti hefyd ymuno â’r Youth Hostel Association sy’n rhoi’r hawl i ti allu arbed arian ar lety hostel.

Rhywbeth i ddweud?