Shwmae pawb, Nain Wicid ydw i. Rydw i yma i helpu CHI. Gallaf gynnig cyngor ac arweiniad i chi ar UNRHYW gwestiynau, materion neu broblemau sydd gennych.
Mae’ch holl gwestiynau yn ddienw felly byddaf yn sicrhau eich bod yn dileu’ch enw os byddwch yn cyflwyno cwestiwn sensitif neu ddifrifol. Ar ôl derbyn eich cwestiwn, byddaf yn postio ymateb lle gall cymuned Wicid a’n sefydliadau cysylltiedig helpu.
Mae Wicid Nan yn gweithio’n agos gyda Meic, gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. O ddarganfod beth sy’n digwydd yn eich ardal leol i helpu i ddelio â sefyllfa anodd, fe fydd Meic yn gwrando hyd yn oed pan na fydd neb arall.
Cofia: Bydd eich manylion yn parhau i fod yn ddienw oni bai fy mod yn teimlo bod lles eich un chi neu les rhywun arall mewn perygl. Yn yr achos hwn, bydd yn rhaid i Wicid pasio ymlaen eich manylion i rywun a fydd yn gallu eich helpu ymhellach.
Rhywbeth i ddweud?
Rhaid mewngofnodi i bostio sylwadau
Mewngofnodi Cofrestru