Polisi Defnydd Derbyniol

Mae’r polisi defnydd derbyniol hwn yn cyflwyno’r telerau rhyngoch chi a ni sy’n caniatáu i chi gyrchu at ein gwefan www.clicarlein.co.uk (ein safle). Mae’r polisi defnydd derbyniol hwn yn berthnasol i bob defnyddiwr ac ymwelydd i’n safle.

Mae eich defnydd o’n safle yn golygu eich bod yn derbyn, yn cytuno i gadw at, yr holl bolisïau yn y polisi defnydd derbyniol hwn, sy’n ychwanegu at ein terms of website use.

DEFNYDDIAU GWAHARDDEDIG

Gallwch ddefnyddio ein safle i bwrpasau cyfreithiol yn unig. Ni allwch ddefnyddio ein safle:

  • Mewn unrhyw fodd sy’n torri ar unrhyw ddeddf neu reoliad, lleol, cenedlaethol neu ryngwladol perthnasol.
  • Mewn unrhyw ffordd sy’n anghyfreithlon neu yn dwyllodrus neu sydd ag unrhyw bwrpas neu effaith anghyfreithlon neu dwyllodrus.
  • I bwrpas niweidio neu geisio niweidio plant mewn unrhyw fodd.
  • I anfon, derbyn yn fwriadol, llwytho i fyny, lawrlwytho, defnyddio neu ailddefnyddio unrhyw ddeunydd nad yw’n cydymffurfio â’n safonau cynnwys [MEWNOSODWCH FEL DOLEN I’R SAFONAU CYNNWYS ISOD].
  • I drawsyrru, neu gaffael anfon unrhyw ddeunydd na ofynnwyd amdano neu heb ei awdurdodi neu ddeunydd hysbysebu neu hyrwyddo neu unrhyw fath arall o ddeisyfiad tebyg (spam).
  • I drawsyrru yn fwriadol unrhyw ddata, anfon na llwytho i fyny unrhyw ddeunydd sy’n cynnwys firysau, ceffylau Caerdroia, ‘mwydod’, ‘bomiau amser’, logwyr trawiadau, ysbïwedd, meddalwedd hysbysebu neu unrhyw raglenni niweidiol eraill neu god cyfrifiadurol tebyg y bwriadwyd iddo effeithio yn niweidiol ar weithredu unrhyw feddalwedd neu galedwedd cyfrifiadurol.

RYDYCH HEFYD YN CYTUNO:

  • I beidio ag atgynhyrchu, dyblygu, copïo nac ailwerthu unrhyw ran o’n safle yn groes i ddarpariaethau telerau ein defnydd o’r wefan [MEWNOSODWCH FEL DOLEN I DELERAU DEFNYDD Y SAFLE].
  • I beidio â chyrchu at heb awdurdod, nac amharu ar, difrodi nac aflonyddu ar:
  • unrhyw ran o’n safle;
  • unrhyw offer neu rwydwaith y caiff ein safle ei storio arno;
  • unrhyw feddalwedd a ddefnyddir i ddarparu ein safle; neu
  • unrhyw offer neu rwydwaith neu feddalwedd sy’n eiddo i neu a ddefnyddir gan unrhyw drydydd parti.

GWASANAETHAU RHYNGWEITHIOL

Gallwn o bryd i’w gilydd ddarparu gwasanaethau rhyngweithiol ar ein safle, gan gynnwys heb gyfyngiad:

  • Cyflwyniadau newyddion (gan gynnwys delweddau / fideos YouTube)
  • Cyflwyniadau am ddigwyddiadau (gan gynnwys delweddau)
  • Cyflwyniadau o dan themâu (gan gynnwys delweddau)
  • Defnyddio sylwadau

Lle rydym yn darparu unrhyw wasanaeth rhyngweithiol, byddwn yn rhoi gwybodaeth glir i chi am y math o wasanaeth a gynigir, a yw’n cael ei safoni a pha fath o safoni a ddefnyddir (gan gynnwys a yw’n ddynol neu yn dechnegol).

Byddwn yn gwneud ein gorau i asesu unrhyw risgiau posibl i ddefnyddwyr (ac yn arbennig i blant) oddi wrth drydydd parti pan fônt yn defnyddio unrhyw wasanaethau rhyngweithiol a ddarperir ar ein safle, a byddwn yn penderfynu ym mhob achos a yw’n briodol safoni’r gwasanaeth perthnasol (gan gynnwys pa fath o safoni i’w ddefnyddio) yng ngoleuni’r risgiau hynny. Ond nid ydym o dan unrhyw rwymedigaeth i oruchwylio, monitro na safoni unrhyw wasanaeth rhyngweithiol a ddarparwn ar ein safle, ac rydym yn allgau yn benodol ein cyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod yn deillio o ddefnyddio unrhyw wasanaeth rhyngweithiol gan ddefnyddiwr yn groes i’n safonau cynnwys, p’run ai yw’r gwasanaeth wedi ei safoni neu beidio.

Mae’r defnydd o unrhyw rai o’n gwasanaethau rhyngweithiol gan blentyn yn ddarostyngedig i ganiatâd rhiant neu warcheidwad. Rydym yn cynghori rhieni sy’n caniatáu i’w plant ddefnyddio gwasanaeth rhyngweithiol ei bod yn bwysig eu bod yn cyfathrebu gyda’u plant am eu diogelwch ar-lein, oherwydd nad yw canoli yn gweithio bob tro. Dylai plant sy’n defnyddio unrhyw wasanaeth rhyngweithiol fod yn ymwybodol o’r risgiau posibl iddynt.

Lle rydym yn safoni gwasanaeth rhyngweithiol, byddwn fel arfer yn rhoi dull i chi o gysylltu â’r safonwr, pe bai pryder neu anhawster yn codi.

SAFONAU CYNNWYS

Mae’r safonau cynnwys hyn yn berthnasol i unrhyw ddeunydd ac i’r holl ddeunydd a gyfrannwch at ein safle (cyfraniadau), ac at unrhyw wasanaethau rhyngweithiol sy’n gysylltiedig ag ef.

Rhaid i chi gydymffurfio ag ysbryd y safonau canlynol yn ogystal â’r llythyren. Mae’r safonau yn berthnasol i bob rhan o unrhyw gyfraniad yn ogystal ag i’w gyfanrwydd.

Rhaid i gyfraniadau:

    • Fod yn gywir (lle maent yn nodi ffeithiau).
    • Cael eu credu yn wirioneddol (lle maent yn nodi barn).
    • Cydymffurfio â’r gyfraith briodol yn y DU ac mewn unrhyw wlad y cânt eu postio ohonynt.

RHAID I GYFRANIADAU BEIDIO Â:

    1. Chynnwys unrhyw ddeunydd sy’n difrïo unrhyw unigolyn.
    2. Cynnwys unrhyw ddeunydd sy’n anllad, yn dramgwyddus, yn llawn casineb neu yn ymfflamychol.
    3. Hyrwyddo deunydd sy’n ddi-gêl yn rhywiol.
    4. Hyrwyddo trais.
    5. Hyrwyddo gwahaniaethu yn seiliedig ar hil, rhyw, crefydd, cenedl, anabledd, tuedd rywiol neu oed.
    6. Torri ar unrhyw hawlfraint, hawl cronfa ddata neu nod masnach unrhyw unigolyn arall.
    7. Bod yn debygol o dwyllo unrhyw un.
    8. Cael eu gwneud i dorri unrhyw ddyletswydd gyfreithiol sy’n ddyledus i drydydd parti, fel dyletswydd gytundebol neu ddyletswydd o gyfrinachedd.
    9. Hyrwyddo unrhyw weithgaredd anghyfreithlon.
    10. Bod yn fygythiol, yn camddefnyddio neu yn amharu ar breifatrwydd rhywun arall neu achosi tramgwydd, anghyfleuster neu bryder diangen.
    11. Bod yn debygol o aflonyddu ar, gofidio, creu embaras, ofn neu flino unrhyw unigolyn arall.
    12. Cael ei ddefnyddio i ddynwared unrhyw berson arall neu i gam-gynrychioli eich hunaniaeth neu eich cysylltiad gydag unrhyw unigolyn.
    13. Rhoi’r argraff eu bod yn deillio oddi wrthym ni, os nad yw hyn yn wir.
    14. Hyrwyddo neu gynorthwyo unrhyw weithred anghyfreithlon fel (fel enghraifft yn unig) torri ar hawlfraint neu gamddefnyddio cyfrifiaduron.

ATAL A THERFYNU

Byddwn yn penderfynu yn ein doethineb a dorrwyd y polisi defnydd derbyniol hwn drwy eich defnydd o’n safle. Pan fo’r polisi hwn wedi ei dorri, gallwn gynnig pa bynnag gam y tybiwn sy’n briodol.

Mae methu â chydymffurfio â’r polisi defnydd derbyniol hwn yn gyfystyr â thorri’r terms of use a ddefnyddir i ganiatáu i chi ddefnyddio ein safle, a gall arwain at gymryd pob un neu unrhyw rai o’r camau canlynol:

  • Dileu eich hawl i ddefnyddio ein safle ar unwaith, dros dro neu yn barhaol.
  • Symud unrhyw bostiad neu ddeunydd sydd wedi ei lwytho i fyny gennych chi i’n safle ar unwaith, dros dro neu yn barhaol.
  • Rhoi rhybudd i chi.
  • Achos cyfreithiol yn eich erbyn chi i dalu’n ôl yr holl gostau ar sail indemniad (gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i, costau cyfreithiol a gweinyddol rhesymol, yn deillio o dorri’r telerau.
  • Camau cyfreithiol pellach yn eich erbyn.
  • Datgelu pa bynnag wybodaeth i awdurdodau gorfodi’r gyfraith ag y teimlwn sy’n rhesymol o angenrheidiol.

Nid ydym yn cynnwys cyfrifoldeb am weithredoedd a gymerir mewn ymateb i dorri’r polisi defnydd derbyniol hwn. Nid yw’r ymatebion a ddisgrifir yn y polisi hwn yn gyfyngedig, a gallwn gymryd unrhyw gamau eraill a dybiwn sy’n rhesymol o ymarferol.

NEWIDIADAU I’R POLISI DEFNYDD DERBYNIOL

Gallwn ddiwygio’r polisi defnydd derbyniol hwn unrhyw bryd drwy ddiwygio’r dudalen hon. Disgwylir i chi wirio’r dudalen hon o bryd i’w gilydd i roi sylw i unrhyw newidiadau a wnawn, oherwydd maent yn eich rhwymo’n gyfreithiol. Gall rhai o’r darpariaethau a gynhwysir yn y polisi defnydd derbyniol hwn gael eu disodli hefyd gan ddarpariaethau neu hysbysiadau a gyhoeddir mewn mannau eraill ar ein safle.