Paid ag anghofio gadael dy sylwadau ar y gwaelod!
neu Dir Y Gwyrdd A Chartref Y Defaid
Dyfala be?
Na, nid hynna. Dyfala eto.
Na, nid hynna chwaith. Fydda hi’n haws i mi ddweud wrthyt ti be di be?
Iawn ta, dydd Gwener paciais fy magiau a gadael adref o’r diwedd. I Ynys Mn. Am benwythnos. Efo CLIC. Lyfli.
Cychwynnodd dydd Gwener. Roedd yr haul wedi’i guddio gan gymylau. Gwisgais jns. Roedd y bws yn beth fyddet ti’n disgwyl o unrhyw fws. Ond roeddwn i’n eithaf ansicr i gychwyn pam fod y gyrrwr wedi penderfynu gyrru’n l i mewn i Rondda Cynon Taf ar l codi ein cyd breswylwyr o Lyn Ebwy a Chasnewydd.
Nid oedd unrhyw glem gennym fod ein siwrne am fod yn hirach na’r pedair awr amcan a gyfrwyd.
Ia, penderfynodd y sat nav direidus fynd y ffordd olygfaol i’r darn bach o Gymru yn y Gogledd. Roedd y ffordd ddewisol hefyd yn amwisg o dwyll ar ein ffnau, gan nad oedd signal o gwbl am ran go dda o’n siwrne. Gymaint fel bod merch o’r enw Jess a finnau wedi addasu cn am ail-tweetio, gyda’r prif eiriau yn “Rydym ni angen ail-tweetio, pam na allwn ni ail-tweetio?”
Ac ia, dwi’n siŵr ein bod wedi cythruddo ein cyd deithwyr o’r De gyda’r gn yma. O wel, gallai fod yn waeth, gallwn ni wedi stolio ychydig o weithiau. O, disgwyl, fe wnaethon ni.
Yn anffodus, roedd hi’n eithaf tywyll unwaith cyrhaeddwyd o’r diwedd ar dir Ynys Mn. Mor dywyll i ddweud y gwir, fel bod y gyrrwr bws ddim wedi sylwi ar bostyn arwydd yn dweud “dim cerbydau llydan” tan ar l i ni fynd i lawr y stryd yna.
O wel, o leiaf rhoddodd gyfle i aelodau eraill o’r tm golygyddol Wicid, ynghyd Sam o theSprout, i ganu am y daith bws yn y peth Mae Gan CLIC Dalent oedd yn digwydd ar y nos Sadwrn. Lyfli.
Wrth i’r ieir ganu eu cn yn y bore, cychwynnodd y diwrnod gyda brecwast. Yna, cafodd pobl ifanc Cymru eu gwahanu i mewn i bum grŵp. Roeddwn i, ynghyd ag ychydig o rai eraill yn y grŵp cyntaf, golygai byddai’n rhaid i mi eistedd drwy’r gweithdy achrediad gyntaf, oedd yn eithaf da.
Yna, fe wnaethom y cyflwyniadau gwybodaeth i CLIC mewn ffurf fideo o flaen sgrin wyrdd. Er, i fod yn deg, dwi’n meddwl roedd rhai pobl efo mwy o ddiddordeb yn y ‘remote control’ mawr gafodd ei ddarganfod mewn un o’r ystafelloedd. Fel yr un yma. Neis.
Ar l toriad bach, aeth y grŵp i wneud baneri, er cafodd hyn ei newid i kendo. Roedd ychydig o ornestau rhwng y bobl yn y grŵp, er dwi ddim yn gwybod pam ofynnodd Jess wrth Geoff “geith fi a Gareth drio?” Cyn i ni fynd ati i ryfela bambŵ. Roeddwn i’n ansicr beth i wneud.
Er, wrth i ni gychwyn y frwydr, nid oeddwn i am adael iddi ennill. Yn l bob sn, dwi’n ymosodol iawn. O wel, ta bwys. Yr unig beth sy’n bwysig ydy fy mod i wedi ennill, arweiniodd at y llun yma yn cael ei dynnu
Ia, dyna fi, yn gwneud ymosodiad neidio ar ben Jess. Pa mor graidd galed ydw i?
Ar l ychydig llond llaw o weithdai, ychydig o doriadau a llond llaw arall o weithdai, cawsom Mae Gan CLIC Dalent, mae’r enw yn esbonio’r cwbl..
Dim ond dau weithgaredd gwahanol oedd yn Mae Gan CLIC Dalent canu a dawnsio [paid anghofio barddoniaeth drefol wych dirty! golygydd]. Wrth i Sam, y genethod Swoosh ac eraill ddangos i ni pa mor dda maen nhw’n gallu dawnsio, roedd Paul o Defaid ac eraill yn canu i’r grŵp.
I fod yn deg, roedd pawb yn dda iawn, roedd hi’n rhyddhad pan ddywedodd rhywun fod hyn yn hwyl yn unig, a ddim yn gystadleuaeth.
Ar l hynny, bu ychydig o gysgu, gan ei bod hi’n nos erbyn hynny. Dydd Sul oedd diwrnod hwyl fawr, wrth i ni adael am gartref o gwmpas hanner awr wedi un ar ddeg y bore. Unwaith eto, fe gymerodd llawer dros yr amser amcan a gyfrwyd i gyrraedd adref o Ynys Mn. Aethom i mewn i Loegr, yn bellach nag oeddwn i wedi dychmygu. O wel, gollyngodd y gyrrwr y grŵp Wicid ymhell wedi saith y nos. Lyfli.
Wrth i mi wefru’r Mac yng nghysur ystafell fy hun, sylweddolais fod i wedi cael e-bost. Roedd o gan is-olygydd CLIC, Dan. Yr unig beth ddywedai oedd “Dwi wedi gyrru i Ynys Mn dipyn o weithiau o’r blaen. Mae’n cymryd mor hir hyn fel arfer.”
Dyfyniad gan y gyrrwr bws cyn mynd yn l i’r depo. Lyfli.
Felly, ar y cyfan, preswyl da. Gobeithio bydd mwy o bobl o Rondda Cynon Taf yn dod i’r un nesaf. O ac atgoffa fi i ddod a gitr efo fi tro nesaf i mi gael jamio gyda Paul o Defaid. Neis.
Delwedd yn yr erthygl trwy CLICarlein, gyda CrazyDistortion yn ei olygu ychydig.
Gall ddilyn CLIC ar Facebook gyda thudalennau CLIC News/Newyddion; Ryan Clic; Alex Clic; Dan Clic; Tania Clic; Lola Clic; Craig Wicid; Swoosh Vale; The Sprout Cardiff and Wicid Rhondda Cynon Taf.
Os wyt ti eisiau rhannu dy luniau o’r penwythnos yna pam ddim ychwanegu nhw i’n Galeri?
Rhywbeth i ddweud?
Rhaid mewngofnodi i bostio sylwadau
Mewngofnodi Cofrestru