Mae cyfarfod person enwog yn grt.
Mae’r teimlad ti’n ei gael pan ti yn gallu gweld y person ti’n ymgeisio i fod fel yn ffantastig ac yn anghredadwy.
Ond, mae cyfarfod person pwysig mor wahanol. Wrth gyfarfod person pwysig ti’n mynd yn nerfus ac yn gobeithio nad wyt ti’n dweud y peth anghywir, ond yn dweud y peth cywir ar yr adeg gywir.
Ar ddydd Mawrth, 22 Mehefin, cafodd tm golygyddol Wicid.tv gyfle i gyfarfod gyda’r Comisiynydd Plant Cymru.
Pwy?
Wel, ei enw ydy Keith Towler a fo ydy ein Comisiynydd, ac yn berson pwysig i ni wybod amdano.
Cyfarfm yn Llyfrgell Pontypridd a thrafod nifer o faterion o ddiddordeb i ni a sut y medrwn weithio gyda’n gilydd i wneud yn sicr ein bod yn gwybod am ein hawliau a beth y gallem wneud i wneud gwahaniaeth,
O’r cyfarfod roedd yn glir ein bod yn cytuno ar nifer o faterion, a bod llawer o gyfleoedd i bobl ifanc allan yno, ond fod yr hysbysebu ddim yn dda iawn. Hefyd, nid oes nifer o blant a phobl ifanc yn ymwybodol o Keith, nag chwaith am eu hawliau.
Fel tm cychwynnom drwy ofyn i Mr Towler am ein gwefan ac yn gywilyddus nid oedd wedi ymweld ag ef. Ond mae’n ddyn prysur iawn felly roedd hyn yn ddealladwy.
Ond nid oedd hynny’n rheswm i ni beidio gofyn mwy o gwestiynau. Heriom y Comisiynydd am ei farn ar godi’r oed yfed alcohol o 18 i 21, a beth oedd o yn ei feddwl am y syniad o roi addysg rhyw i blant pan yn bump oed.
Ar y pwynt cyntaf, dywedodd nad oedd yn ffafrio codi’r oed i 21. Dywedodd: “Nid yw gwahardd diodydd alcoholig bron byth yn gweithio, ond beth sydd yn glir ydy’r angen i roi mwy o ymdrech i mewn i addysg ar alcohol a’i effaith.”
Mewn ymateb i addysg rhyw i rai pump oed, dywedodd y dylai plentyndod gael ei warchod am mor hir phosib a bod rhaid cael mwy o ffocws ar berthnasau mewn addysg rhyw.
Fel tm roeddem yn gweld ein hunain yn cytuno efo nifer o farnau’r Comisiynydd Plant, ac roedd wedi creu argraff arnom.
Gan ein bod ni wedi dod i wybod am y Comisiynydd, felly hefyd dylai ti!
Ymwela ’i wefan, www.complantcymru.org.uk, i archwilio dy hawliau a darganfod mwy am Keith, sydd yn cŵl iawn.
Rhywbeth i ddweud?
Rhaid mewngofnodi i bostio sylwadau
Mewngofnodi Cofrestru