Mae’r rhaglen cyn-gyflogadwyedd ‘Fortitude Through Music’ yn eich cynorthwyo chi i fynd tu hwnt i’ch pryderon a gwireddu’r potensial anhygoel sydd gennych chi!
Bydd gennych chi gyfle i weithio gyda phobl broffesiynol o’r diwydiant cerddoriaeth i ysgrifennu a recordio caneuon eich hun, dysgu a datblygu sgiliau offerynnol, creu fideo cerddoriaeth eich hun a threfnu achlysur cerddoriaeth! (gwelwch y fideo a grëwyd gan y cwrs Fortitude blaenorol) YNA gallwch chi ddathlu’ch talent a’ch holl waith caled drwy wahodd eich teulu a’ch ffrindiau i ddod i’ch gwylio chi’n perfformio!
Yn ystod y cwrs byddwn ni yn canolbwyntio ar dechnegau hunan-ddatblygu er mwyn magu hyder mewn bywyd, sy’n rhoi’r grym i chi i ddechrau meddwl am eich dyfodol.
Dyfodol llawn angerdd tuag at eich maes o ddewis!
BOB dydd Iau a dydd Gwener yn cychwyn 17 Ionawr tan 22 Mawrth 2019. Rydyn ni’n gobeithio bydd y sesiynau’n cael eu cynnal yn Aberdâr, ond mae hyn i’w gadarnhau.
Croeso i chi gymryd rhan os ydych chi’n byw yn Rhondda Cynon Taf, yn 16-25 oed, a dydych chi ddim mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant.
Ffoniwch â ni am sgwrs ar 01443 570031 neu e-bost i DiwydiannauCreadigol@rctcbc.gov.uk
Rhywbeth i ddweud?
Rhaid mewngofnodi i bostio sylwadau
Mewngofnodi Cofrestru