Cafodd Grand Theft Auto V, y diweddaraf yn y gyfres lwyddiannus, ei ryddhau i gymeradwyaeth mawr yr wythnos hon, ond nawr mae adroddiadau yn honni bod gwerthwyr fel Amazon efallai wedi cludo copïau o’r gêm i bobl cyn y dyddiad rhyddhau swyddogol; ac felly, yn torri’r embargo gwerthu ar y cynnyrch poblogaidd.
Mae’n ymddangos fel mai Grand Theft Auto V fydd y gêm fwyaf i gael ei ryddhau eleni, yn amcangyfrif 1 biliwn o bunnoedd yn y flwyddyn gyntaf, yn gwerthu tua 25 miliwn o gopïau, ac os credir adroddiadau yna efallai bod nifer o bobl wedi derbyn eu copi cyn-archebiant o’r gêm dros wythnos cyn ei ryddhad.
Mae Rockstar, datblygwyr y gêm, wedi dweud mewn datganiad y wasg i Game Industry International eu bod “… yn y broses o ymchwilio ‘gwerthiant’ buan i benderfynu sut a pam fod hynny wedi digwydd.”
Does wybod beth fydd Rockstar yn ei wneud os ydy’r honiadau hyn yn wir, os ydynt am wneud unrhyw beth o gwbl.
Grand Theft Auto V ydy’r gêm fwyaf wedi’i greu gan Rockstar, y mwyaf i gael ei greu gan unrhyw gwmni hyd yn hyn, yn costio oddeutu £170 miliwn i’w greu a’i ddatblygu, swm sydd yn cystadlu yn erbyn rhai o’r ffilmiau mwyaf drud erioed, fel y gyfresPirates Of The Caribbean a The Avengers.
Gan ei fod wedi bod allan am ychydig ddyddiau dwi’n siŵr fod pawb wedi chwarae digon ohono, felly dweud wrthym ni yn y sylwadau isod os wyt ti’n ei fwynhau – neu ddim.
DELWEDD: Stickskills
Erthyglau Perthnasol: Annwyl Fyd: Gemau Fideo a Ffilmiau
Rhywbeth i ddweud?
Rhaid mewngofnodi i bostio sylwadau
Mewngofnodi Cofrestru