‘English version // Yn Saesneg’
Wyt ti erioed wedi eisiau bownsio ar drampolîn oedd o dan y ddaear? Neu ydyw’n rhywbeth sydd erioed wedi croesi dy feddwl, ond nawr mae e wedi, a ti methu aros i ffeindio allan mwy?
Naill ffordd neu’r llall, dwi’n mynd i gyflwyno ti i drampolinau mewn ogof. Sydd, rhaid i mi gyfaddef, yn swnio fel y peth gorau erioed. Roedd y bersonoliaeth rhyngrwyd adnabyddus Perez Hilton hyd yn oed wedi cytuno bod y greadigaeth newydd hon yn haeddu’r teitl ‘Y Lle fwyaf Hwylus Yn Y Byd’. Aeth ymlaen i longyfarch y wlad: “Chi sy’n ennill, Cymru. Chi sy’n ennill!”
Ie, mae’n wir, mae’r trampolinau mewn ogof yn atyniad newydd sy’n dod i Gymru. Mae ‘Bounce Below’ yn weithgaredd antur newydd sbon yng Ngheudwll Llechi Llechwedd, Blaenau Ffestiniog, a bydd yn cael ei agor yng Ngogledd Cymru mis nesaf (3ydd o Orffennaf).
Cafwyd ei gynllunio gan yr un perchennog â ‘Zip World‘. Cafwyd y ddau weithgaredd eu creu gan Sean Taylor, a welodd pwysigrwydd diwydiannol a hanes yr ardal, ac yn awyddus i ddod ag atyniad newydd i dirwedd y wlad. Nid ydyw bellach yn lle sy’n cael ei gadael yn y gorffennol, ond yn lle llawn cyffro cyffrous y llinellau zip cyflym a nawr yn antur danddaearol o safon fyd-eang fel unman arall.
Os yw’r syniad o fownsio ar dri thrampolîn enfawr gyda waliau rhwyd 10 troedfedd o daldra a llithro i lawr llithren 60 troedfedd sy’n cysylltu nhw o dan y ddaear yn barod yn swnio fel y peth gorau erioed, mae’r ogofau hefyd yn goleuo’n pinc neon llachar, porffor, gwyrddlas a gwyrdd. Mae arddangosfa anhygoel o oleuadau sy’n trawsffurfio y tu mewn i’r ogof i mewn i’r disgo tanddaearol mwyaf sydd erioed wedi bodoli.
Mae’r cysyniad cyfan allan o’r byd hwn. Mae’n gwbl wallgof. A dyw bownsio ar fy nhrampolîn yng nghefn yr ardd ddim yn swnio fel cymaint o hwyl rhagor. Byddai lot gwell gen i wisgo i fyny mewn oferôls cotwm a chael helmed i neidio ar drên a glanio mewn i ogof dwywaith maint Eglwys Gadeiriol Sant Paul.
Buaset ti hefyd?
Llun: laughingsquid
Sefydliad Perthnasol: Llechwedd Slate Caverns
Gwybodaeth » Pethau I’w Gwneud» Chwaraeon a Chadw’n Heini» Gymnasteg a Thrampolinio
Rhywbeth i ddweud?
Rhaid mewngofnodi i bostio sylwadau
Mewngofnodi Cofrestru