Mae Wagner yn hawlio arian am ei goes ddrwg, ond mewn gwirionedd mae wedi bod yn dawnsio o gwmpas y llwyfan gyda’i lygaid wedi’u gludo ar y marched prydferth o’i gwmpas.
Yn ail, fe ddylai ei fentor (Louis Walsh) fod yn canolbwyntio ar dalent fel Paige ac yn ei gadw, yn rhoi Wagner yn y ddau isaf.
Mae Louis angen trefnu ei ben, hyd yn oed os oedd o wedi cael sioc yn gweld dyn ei hun (Wagner) yn mynd drwodd yn rhwydd. Ond mae yna rai pobl fydd dal eisiau gweld y gwaethaf yn mynd drwodd dim ond i brofi pa mor ddrwg ydy’r X Factor!
Beth wyt ti’n meddwl am ganlyniad X Factor wythnos yma? Pam ddim dweud wrth Wicid.tv trwy wneud sylwad isod?
Efallai dy fod di’n tm Wagner? Wyt ti efo’r dewrder i gyfaddef hyn 🙂
Rhywbeth i ddweud?
Rhaid mewngofnodi i bostio sylwadau
Mewngofnodi Cofrestru